Cofrestr gyhoeddus: gwybodaeth trwyddedu amgylcheddol, adnoddau dŵr a thrwyddedu morol

Efallai y bydd angen i chi lawrlwytho meddalwedd i weld rhai dogfennau ar ein system ar-lein - er enghraifft, os nad yw'ch system e-bost yn gydnaws ag Outlook. Os nad ydych chi am wneud hyn, neu os oes angen dogfen arnoch mewn fformat gwahanol neu fwy hygyrch, cysylltwch â ni

Defnyddiwch y gofrestr gyhoeddus hon i gael mynediad at wybodaeth gyhoeddus, megis dogfennau cais a dogfennau cydymffurfio ar gyfer:

  • trwyddedau amgylcheddol ar gyfer gwastraff, ansawdd dŵr a diwydiant a reoleiddir
  • trwyddedau adnoddau dŵr
  • trwyddedau morol

Cynhyrchir dogfennau ar y gofrestr gyhoeddus gennym ni neu drydydd partïon. Gall trydydd partïon fod yn sefydliadau rydym yn ymgynghori â nhw neu’n gweithio gyda nhw, ond maent fel arfer yn ymgeiswyr a deiliaid trwyddedau.

Os mai dim ond eisiau gwirio a yw trwydded amgylcheddol neu drwydded adnoddau dŵr yn weithredol ydych chi, gallwch wneud hynny drwy chwilio am y statws ar y gofrestr gyhoeddus.

Telerau ac amodau

Gallwch ddefnyddio a rhannu dogfennau a gynhyrchir gennym yn rhydd, o dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored.

Mae dogfennau a gynhyrchir gan drydydd partïon, megis systemau rheoli, adroddiadau monitro, cynlluniau gweithredol ac yn y blaen, yn cael eu diogelu gan hawliau eiddo deallusol.

Mae'r dogfennau y mae'n ofynnol i ymgeiswyr a deiliaid trwyddedau eu cyflwyno i ni yn ôl y gyfraith ar gael i chi eu darllen.  Bydd angen i chi ofyn am ganiatâd gan yr unigolyn neu'r cwmni sy'n berchen ar yr hawliau cyn eu defnyddio mewn unrhyw ffordd arall. 

Trwy ddefnyddio a lawrlwytho dogfennau o'r gofrestr gyhoeddus, rydych yn cytuno cydymffurfio â'r holl gyfyngiadau perthnasol.

Gweler ein tudalen telerau ac amodau am ragor o wybodaeth am ddefnyddio'r cynnwys sydd ar gael ar y gofrestr gyhoeddus.

Dogfennau o cyn 1 Medi 2018

Nid yw rhai dogfennau o'r gofrestr gyhoeddus dyddiedig cyn 1 Medi 2018 ar gael ar hyn o bryd ar y gofrestr gyhoeddus ar-lein. 

Rydym yn gweithio i wella hyn. Tan hynny, defnyddiwch ein proses gofyn am wybodaeth am drwydded i weld copïau o'r dogfennau hyn.

Cofrestrau cyhoeddus eraill CNC

Diweddarwyd ddiwethaf