Cronfa Ddŵr Alwen, ger Dinbych
Ewch ar droed neu ar feic o amgylch y gronfa ddŵr...
Coetir hynafol gyda llwybr cerdded glan afon a chuddfan gwylio bywyd gwyllt
Mae’r guddfan gwylio adar ar gau.
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Mae Coed y Fron Wyllt ym mhen dwyreiniol Coedwig Clocaenog.
Dyma rimyn o goetir hir ag ochrau serth.
Coetir hynafol ydyw'n bennaf, sy'n golygu bod y coetir yn goediog ers 1600 o leiaf.
Erbyn hyn mae'n gartref i lwybr cerdded cylch a chuddfan gwylio bywyd gwyllt sy'n edrych dros wlyptir.
Yn y gwanwyn mae'r llwybr drwy'r coetir yn llawn clychau'r gog a briallu ac mae arogl craf y geifr yn llenwi'r awyr.
Mae'r llwybr cerdded cylchol hwn yn cychwyn i gyfeiriad y guddfan bywyd gwyllt ger mynedfa'r maes parcio.
Dydych chi byth yn bell iawn o Nant Melindwr ar y daith gerdded hon aiff â chi drwy goetiroedd collddail yn bennaf.
Mwynhewch arddangosfa o flodau’r coetir naill ochr i’r llwybr ar ran allanol y daith yn y gwanwyn.
Mae'r llwybr yn mynd heibio mainc bicnic cyn croesi'r afon dros bompren bren.
Mae'n dychwelyd ar hyd ffordd goedwig gyda chipolwg yma a thraw drwy'r coed a thros y bryniau cyfagos.
Mae Coed y Fron Wyllt dair milltir i'r gorllewin o Ruthun.
Mae yn Sir Ddinbych.
Mae parcio am ddim.
© Hawlfraint y Goron a hawliau cronfa ddata 2020 Arolwg Ordnans 100019741
Cymerwch y B5105 o Ruthun i gyfeiriad Clawddnewydd.
Ym mhentref Llanfwrog cymerwch y ffordd fach gyferbyn â'r dafarn i gyfeiriad Bontuchel.
Ar ôl cyrraedd Bontuchel, cymerwch y troad cyntaf i'r chwith ac ar ôl ½ milltir, bydd maes parcio Coed y Fron Wyllt ar y chwith.
Mae Coed y Fron Wyllt ar fap Arolwg Ordnans (AR) 279, 293 neu 294.
Y cyfeirnod grid AR ar gyfer y maes parcio yw SJ 081 570.
Am mwy o wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
0300 065 3000