Cronfa Ddŵr Alwen, ger Dinbych
Ewch ar droed neu ar feic o amgylch y gronfa ddŵr...
Diwrnod i’r teulu gyda llwybrau cerdded, beicio mynydd a mannau chwarae
Mae’r maes parcio ar gau.
Bydd gwaith i gael gwared o goed llarwydd heintiedig yn dechrau ym mis Ionawr 2021.
Efallai y bydd angen inni gau neu ddargyfeirio rhai o’r llwybrau yn ystod y gwaith hwn.
Cofiwch ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a welwch ar y safle, a gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor ond, o dan y cyfyngiadau coronafeirws presennol yng Nghymru, bwriedir i’r rhain gael eu defnyddio gan bobl sy’n byw yn lleol yn unig.
Fe’ch cynghorir – yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru – i beidio â gyrru i unrhyw un o’n safleoedd i wneud ymarfer corff, oni bai fod gennych reswm dilys, megis cyflwr iechyd neu broblemau symudedd.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Mae Coed Moel Famau yn goedwig fawr sydd wedi'i lleoli yn Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
Mae llwybr cerdded i ben Moel Famau, sef y copa uchaf ym Mryniau Clwyd, yn cychwyn o'r maes parcio.
Ar y copa Moel Famau ceir adfeilion Tŵr y Jiwbilî ac o'r fan hon mae un o'r golygfeydd mwyaf ysblennydd yng Nghymru.
Adeiladwyd Tŵr y Jiwbilî, sydd i'w weld o bell am filltiroedd, ym 1810 ar gyfer jiwbilî aur Brenin Siôr III.
Mae sawl taith gerdded gylchol arall, amrywiol eu hyd, yn cychwyn o faes parcio Coed Moel Famau ynghyd â llwybr beicio mynydd gradd las.
Mae ardaloedd chwarae i blant yn frith o amgylch y coetir ger y maes parcio a gall ymwelwyr iau hefyd ddilyn Llwybr Traciwr y Goedwig er mwyn darganfod mwy am yr anifeiliaid sy'n byw yn y coetir.
Mae pob un o'r llwybrau cerdded wedi'u cyfeirnodi ac yn cychwyn o faes parcio Coed Moel Famau.
Mae'r llwybr byr hwn yn mynd drwy’r coetir ac wrth ochr nant.
Codwch daflen o'r maes parcio a dilynwch y llwybr byr, gwastad hwn.
Dyfalwch pa brint trac sy'n perthyn i ba anifail coetir ac yna ceisiwch ganfod cerfluniau’r anifeiliaid sydd wedi'u cuddio yn y coed.
Mae'r daith hawdd hon yn arwain drwy'r coetir i olygfan.
Mae'r llwybr hwn yn dringo'n serth ond yn gyson trwy'r goedwig i Dŵr y Jiwbilî sy’n sefyll ar gopa Moel Famau.Moel Famau - 554 metr (1,818 troedfedd) - yw'r copa uchaf ym Mryniau Clwyd ac o'r fan hon ceir golygfeydd ar draws Gogledd Cymru ac i gyfeiriad Gogledd Orllewin Lloegr.Mae'r llwybr yn dychwelyd trwy gefn gwlad agored ar hyd Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa.
Mae'r llwybr cyfeiriedig hwn ar gyfer cerddwyr a beicwyr yn ymdroelli trwy'r goedwig, gan ddringo'n gyson hyd at bwynt uchel ar gyrion y coed sy’n cynnig golygfeydd ysblennydd dros Lannau Merswy a thu hwnt.Gall beicwyr mynydd ddefnyddio’r llwybr hwn hefyd.
Mae ein holl lwybrau beicio mynydd wedi eu harwyddo.Gofalwch eich bod yn dewis llwybr beicio mynydd sy’n addas ar eich cyfer – cofiwch ddarganfod beth yw ystyr graddau’r llwybrau ar y dudalen beicio mynydd.Ar ddechrau’r llwybr darllenwch y panel gwybodaeth ac yna dilynwch yr arwyddion.Mae rhan o’r llwybr hwn yn dilyn llwybr ceffylau cyhoeddus – cofiwch fod pobl eraill yn defnyddio’r llwybr hwn.
Mae’r daith seiclo hon yn ymdroelli drwy goedwig Moel Famau, gan ddringo’n raddol i fan uchel ar gyrion y coed lle mae golygfeydd nodedig dros Lannau Mersi a thu hwnt.Ar ôl disgynfa aruthrol mae llwybr march a nant i’w chroesi (peidiwch â gwlychu’ch traed!) cyn dychwelyd i’r goedwig.Ar ôl ymlafnio i fyny esgyniad yr heol goedwig, mae modd gwibio nôl i'r maes parcio.
Mae'r ardaloedd chwarae wedi’u lleoli hwnt ac yma o amgylch y coetir i annog plant i archwilio.
Gallant:
Gwnaed y nodweddion hyn o ddeunyddiau naturiol sy'n ymdoddi i amgylchedd y coetir.Mae'r ardaloedd chwarae yn agos at y maes parcio ac yn addas ar gyfer plant rhwng 2 a 14 oed.
Mae Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa yn croesi copa Moel Famau - cadwch lygad am y pyst cyfeirnodi hynod siâp mesen.Am ragor o wybodaeth gweler Llwybrau Cenedlaethol yng Nghymru.
Mae Coed Moel Famau o fewn Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.Mae Bryniau Clwyd yn gadwyn o gopaon bryngaerog wedi eu gorchuddio â grug. Y tu draw i’r bryniau gwyntog hyn mae Dyffryn Dyfrdwy lle ceir trefi hanesyddol Llangollen a Chorwen.Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am ymweld â’r AHNE ewch i wefan Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
Darganfod mwy am AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yng nghanolfan ymwelwyr ym Mharc Gwledig Loggerheads.Mae troedffyrdd o amgylch y parc ac sy’n arwain i'r bryniau a'r cymoedd y tu hwnt. Mae yna gaffi hefyd.Gallwch gerdded o faes parcio Coed Moel Famau i Barc Gwledig Loggerheads ar Ddolen Loggerheads (2¾ milltir/4.3 cilomedr bob ffordd). Nid oes y llwybr wedi ei arwyddo a byddwn eich cynghori i fynd â map.Mae Parc Gwledig Loggerheads yn cael ei redeg gan Gyngor Sir Dinbych a chodir tâl am barcio.Mae Parc Gwledig Loggerheads yn cael ei redeg gan Gyngor Sir Dinbych a chodir tâl am barcio.Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Parc Gwledig Loggerheads.
Mae’r cyfleusterau’n cynnwys yng Nghoed Moel Fama:
Darllenwch y wybodaeth ar frig y dudalen hon i ganfod a oes newidiadau i'r amserau agor.
Mae’r toiledau ym maes parcio Coed Moel Famau ar agor rhwng 8 y bore a 6 yr hwyr (Hydref hyd Mawrth) a rhwng 8 y bore a 9 yr hwyr (Ebrill hyd Medi).
Mae Coed Moel Fama 5 milltir i’r de-orllewin o’r Wyddgrug.
Mae'r safle hon yn ymestyn ar draws ffiniau Sir Ddinbych a Sir y Fflint.
Mae Coed Moel Fama ar fap Arolwg Ordnans (AR) 265.
Cyfeirnod grid yr OS yw SJ 170 610.
Ewch ar yr A494 o’r Wyddgrug tuag at Ruthun. Ar ôl mynedfa Parc Gweldig Loggerheads, ceir arwydd brown a gwyn i Barc Gwledig Moel Fama ar y dde.
Mae maes parcio Coed Moel Fama ar yr ochr dde ar ôl milltir.
Mae’r orsaf drenau agosaf ym Mwcle.
Am fanylion ynghylch trafnidiaeth gyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae’n costio £2 y dydd i barcio ym maes parcio Coed Moel Famau.
Mae angen ichi dalu’r ffi hon â’r arian cywir wrth yr atalfa wrth gyrraedd.
Gallwch brynu trwydded parcio blynyddol i’w ddefnyddio yn y tri maes parcio canlynol:
Cost y drwydded am flwyddyn yw £30 ac mae’n ddilys yn flynyddol tan ddiwedd mis Mawrth.
Lawr lwythwch a chwblhewch y ffurflen i wneud cais am drwydded parcio. Yna postiwch y ffurflen ynghyd â siec yn daladwy i Cyfoeth Naturiol Cymru, i’r cyfeiriad ar y ffurflen.
Yna byddwch yn derbyn cerdyn allwedd i agor yr atalfa ym maes parcio Coed Moel Famau a phàs i’w arddangos yn eich car ym meysydd parcio Bwlch Pen Barras a Pharc Gwledig Loggerheads.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, ffoniwch 0300 065 3000 (yn ystod oriau swyddfa) neu e-bostiwch parciomoelfamau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
0300 065 3000