Coedwig Dyfnant - Pen y Ffordd, ger Y Trallwng

Beth sydd yma

Croeso

Mae Pen y Ffordd yng Nghoedwig Dyfnant.

Mae Coedwig Dyfnant yn goedwig ucheldirol ar gyrion mynyddoedd Cambria yn union i’r de o Lyn Efyrnwy.

Mae’r goedwig yn cynnwys ardaloedd eang o gonwydd a llecynnau o goed collddail brodorol.

Mae’n adnabyddus am ei llwybrau marchogaeth a gyrru car a cheffyl ar draciau golygfaol.

Mae yna hefyd lwybr cerdded byr o'n maes parcio ym Mhont Llogel.

Marchogaeth ym Mhen y Ffordd

Pen y Ffordd yw man cychwyn ar gyfer llwybrau marchogaeth yr Enfys.

Mae Pen y Ffordd yn maes parcio pwrpasol.

Mae cyfleusterau yn cynnwys:

  • pump Llwybrau'r Enfys ar gyfer marchogaeth
  • system unffordd er mwyn galluogi gyrwyr cerbydau cludo ceffylau i lwytho a dadlwytho
  • digon o lefydd parcio ar gyfer ceir a cherbydau cludo ceffylau
  • corlan ar gyfer ceffylau

Llwybrau’r Enfys 

Mae bron i 100 milltir o lwybrau ar gael - pum llwybr marchogaeth ceffylau a thri llwybr car a cheffyl yng Ngoedwig Dyfnant.

Cafodd y llwybrau hyn, a elwir yn Llwybrau’r Enfys, eu datblygu mewn partneriaeth â Chymdeithas Marchogion a Gyrwyr Car a Cheffyl Dyfnant ac Efyrnwy.

Mae arwyddbyst ar bob llwybr sy’n amrywio o lwybrau trotian hamddenol i lwybrau 16 milltir heriol i farchogion mwy profiadol sydd eisiau marchogaeth am ddiwrnod cyfan.

  • Pen yr Ffordd yw man cychwyn llwybrau marchogaeth yr Enfys.
  • Hendre yw man cychwyn llwybrau gyrru cart a cheffyl yr Enfys.
  • I weld y manylion llawn a’r mapiau ewch i wefan Llwybrau’r Enfys.

Coedwig Genedlaethol Cymru

Mae Coedwig Dyfnant yn ffurfio rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:

  • creu ardaloedd o goetir newydd
  • gwella coetiroedd sy’n bodoli eisoes
  • adfer coetiroedd hynafol unigryw Cymru.

Ymhen amser bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cysylltiedig a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru ac yn dod â buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

I gael rhagor o wybodaeth am Goedwig Genedlaethol Cymru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.

Cau a dargyfeirio

Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.

Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.

Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae maes parcio Pen y Ffordd 16½ milltir i’r gorllewin o’r Trallwng.

Mae yn Sir Powys.

Map yr Arolwg Ordnans

Mae Pen y Ffordd ar fap Explorer 239 yr Arolwg Ordnans (OS).

Cyfeirnod grid yr OS ar gyfer y maes parcio yw SJ 017 135.

Cyfarwyddiadau

O'r Trallwng, cymerwch yr A458 tuag at Ddolgellau.

Ar ôl 14½ milltir, ychydig wedi pentref Llangadfan, trowch i'r dde, gan ddilyn arwydd B4395.

Ar ôl 2 filltir, mae maes parcio Pen y Ffordd ar y chwith.

Cludiant cyhoeddus

Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw'r Trallwng.

Am fanylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.

Maes parcio

Mae parcio’n ddi-dâl.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf