Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Coedwig Dyfnant - Hendre, ger Dolgellau

Gall gyrwyr cart a cheffyl deithio drwy gefn gwlad prydferth Coedwig Dyfnant

Gyrru car a cheffyl

Beth sydd yma

Cŵn
Marchogaeth
Parcio
Picnic

Croeso

Mae Coedwig Dyfnant mewn rhan o Gymru sy'n adnabyddus am ei bryniau tonnog, ei dyffrynnoedd gwyrdd ffrwythlon a'i phentrefi a'i ffermydd tlws.

Mae'n ardal sydd hefyd yn gyfoethog ei hanes. Roedd Owain Glyndŵr, y tywysog a fu’n ymladd dros annibyniaeth i Gymru a Chymru unedig, yn arfer marchogaeth dros y bryniau hyn ar un adeg.

Erbyn heddiw, mae'n nodedig am gyfleusterau ar gyfer marchogaeth a gyrru car a cheffyl.

Llwybrau marchogaeth a gyrru cart a cheffyl

Datblygwyd Llwybrau’r Enfys mewn partneriaeth â Chymdeithas Marchogion a Gyrwyr Cart a Cheffyl Dyfnant ac Efyrnwy.

Mae bron i 100 milltir o lwybrau ar gael - pum llwybr marchogaeth ceffylau a thri llwybr gyrru cart a cheffyl. 

Mae arwyddbyst ar bob llwybr sy’n amrywio o lwybrau trotian hamddenol i lwybrau 16 milltir heriol i farchogion mwy profiadol sydd eisiau marchogaeth am ddiwrnod cyfan.

I weld y manylion llawn a’r mapiau ewch i wefan Llwybrau’r Enfys neu lawrlwythwch'r gwybodaeth am safle Hendre.

Cyfleusterau yn Hendre

Ceffylau mewn corlanHendre yw man cychwyn y llwybrau gyrru cart a cheffyl.

Yn y maes parcio ceir:

  • corlan
  • rheiliau clymu
  • byrddau picnic
  • man tawel I chi harneisio a rhoi’r ceffyl yn y llorpiau

Cau a dargyfeirio

Sylwch:

  • Weithiau, rhaid inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er eich diogelwch tra byddwn yn mynd i’r afael â gwaith cynnal a chadw neu weithrediadau coedwig
  • O dro i dro, efallai y bydd yn rhaid inni gau safle mewn tywydd eithafol, fel gwyntoedd cryfion neu eira a rhew, oherwydd y perygl posibl i ymwelwyr a staff
  • Cofiwch ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a welwch ar y safle, a gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro sydd mewn grym

Sut i gyrraedd yma

Mae maes parcio Hendre ar y B4395 rhwng Llangadfan a Llyn Efyrnwy.

Cyfeirnod grid yr OS yw SJ 029 148.

Does dim angen talu i barcio ceir.

Lawrlwytho'r map lleoliad.

Cyfarwyddiadau

O faes parcio Pen-y-ffordd: trowch i'r chwith ar y B4395 (A458 Llangadfan tuag at Lyn Efyrnwy). Dilynwch y ffordd hon am filltir a hanner cyn troi i'r chwith ger bythynnod Hendre ar y gornel. Mae maes parcio Hendre 300 metr i fyny'r ffordd hon ar yr ochr dde.

O Lanfyllin: Cymerwch y B4393 ac yna trowch i'r chwith ar y B4395, gan ddilyn yr arwyddion i Lwydiarth a Phont Llogel. Trowch i'r dde ger bythynnod Hendre. Mae maes parcio Hendre 300 metr i fyny'r ffordd hon ar yr ochr dde.

Map Arolwg Ordnans

Mae Hendre ar fap Arolwg Ordnans (AR) 239.

Y cyfeirnod grid AR ar gyfer y maes parcio yw SJ 029 151.

Cysylltu â ni

Cyfoeth Naturiol Cymru

Ffôn: 0300 065 3000

E-bost: ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Llwybrau’r Enfys

E-bost: admin@rainbowtrails.org.uk

Lawrlwythiadau

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.