Gwarchodfa Natur Genedlaethol Craig Cerrig Gleisiad a Fan Frynych, ger Aberhonddu
Lle gwyllt a chreigiog sy'n gartref i rai sydd...
Coetir bychan gydag amrywiaeth mawr a llwybr bordiau hygyrch
Yn gorwedd mewn dyffryn bach dwfn sydd wedi’i lunio gan rewlifoedd, mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coed y Cerrig yn llechu yn rhan ddeheuol y Mynyddoedd Duon ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae llwybr bordiau sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn yn mynd â chi drwy goetir gwlyb, ar draws y ffordd o’r maes parcio bychan, a llwybr cylchol serth trwy’r coetir ar ochr y dyffryn.
Ar un adeg, rheilffordd brysur oedd y ffordd sy’n pasio’r warchodfa, yn cario dyn a deunyddiau i adeiladu cronfa ddŵr Grwyne Fawr, naw milltir i ffwrdd.
Mae tri math gwahanol o goetir yma:
Gwanwyn
Cadwch lygad am gold y gors lliwgar yng ngwaelod gwlyb y dyffryn ac ‘ymbarelau’ eiddil pinc y triaglog sy’n tyfu ar hyd y llwybr bordiau.
Edrychwch am flodau pyramidaidd pinc trawiadol tegeirian coch y gwanwyn a phlanhigyn rhyfedd a di-liw'r deintlys sy’n byw mew modd parasitig ar wreiddiau planhigion eraill fel y collen a’r llwyfen.
Mwynhewch arogl persawrus clychau’r gog ar hyd y llwybr trwy’r coetir uchaf.
Haf
Chwiliwch am y tegeirian nyth aderyn rhyfedd ond hyfryd ar ddechrau’r haf a’r clychlys dail danadl cain.
Gwyliwch am fursennod a gweision neidr yn hofran ac am y gwerilöynod brych yn gwibio trwy’r heulwen.
Hydref
Wrth i’r haf droi’n hydref, chwiliwch am ffyngau fel y siantrel, yn enwedig mewn tywydd llaith.
Gwarchodfa Natur Genedlaethol yw Twyni Merthyr Mawr.
Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.
Mae mwy na 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.
Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.
Mae’r ddau lwybr cerdded wedi’u cyfeirbwyntio o’r maes parcio.
½ milltir/0.8 cilomedr, hygyrch
Mae’r llwybr bordiau llydan a gwastad, gyda lleoedd pasio a meinciau pren, yn eich galluogi i fwynhau’r coetir yng ngwaelod gwlyb y dyffryn. Gallwch naill ai ddychwelyd ar hyd y llwybr bordiau neu ddilyn llwybr cylchol trwy ddilyn y llwybr heb bordiau a ddangosir ar y panel map yn y maes parcio.
⅓ milltir/0.6 cilomedr, anodd
Mae’r llwybr cylchol byr hwn yn dringo’n serth i fyny cyfres o risiau cerrig garw, cyn parhau trwy’r goedwig a disgyn i lawr llethr i’r maes parcio.
Sylwch:
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coed y Cerrig 4 milltir i’r gogledd o’r Fenni
Dilynwch yr A465 o’r Fenni i gyfeiriad Henffordd. Ar ôl 4 milltir, trowch i’r chwith i bentref Llanfihangel Crucornau. Ymhen 500 metr, trowch i’r chwith ar isffordd i Landdewi Nant Hodni. Ar ôl 1¼ milltir cymerwch y fforch chwith, a dilynwch yr arwyddion hwyaid brown a gwyn. Mae’r maes parcio ar y dde ymhen 1¼ milltir.
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coed y Cerrig ar fap Arolwg Ordnans (AR) OL 13.
Y cyfeirnod grid OS yw SO 293 211.
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Ffôn: 0300 065 3000
E-bost: ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.