Coedwig Glasfynydd, ger Llanymddyfri

Beth sydd yma

Croeso

Mae Coedwig Glasfynydd yn amgylchynu Cronfa Ddŵr Wysg ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Gall cerddwyr a beicwyr ddilyn y llwybr sydd wedi’i arwyddo o'r maes parcio o amgylch y gronfa ddŵr ac ar draws yr argae.

Ceir golygfeydd eang oddi ar y llwybr ar draws y gronfa ddŵr i gyfeiriad y Mynydd Du.

Dŵr Cymru sy’n berchen ar y gronfa ddŵr.

Mae mainc bicnic yn y maes parcio a sawl un arall ar hyd y llwybr.

Llwybr cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Cronfa Ddŵr Wysg

  • Gradd: hawdd
  • Pellter: 5½ milltir/8.7 cilomedr
  • Dringo: 100 metr
  • Amser: 3 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae'r rhan fwyaf o'r llwybr hwn yn dilyn trac caregog gwastad, llydan wrth ymyl y gronfa a gall fynd yn fwdlyd mewn mannau pan fydd yn wlyb. Ceir dringfa fer ar gychwyn y llwybr a rhan fechan ar ffordd gyhoeddus dawel. Ceir llidiart hanner ffordd ar hyd y llwybr, ac mae nifer o fyrddau picnic i’w cael. Gall beicwyr hefyd ddefnyddio'r llwybr hwn. Mae llwybrau cyhoeddus i Ffynnon y Meddygon o'r llwybr hwn (heb eu harwyddo).

Mwynhewch olygfeydd o'r Mynydd Du ar y llwybr cylchol, hawdd-ei-ddilyn hwn o amgylch Cronfa Ddŵr Wysg.

Os oes gennych fap gyda chi a’ch bod eisiau mynd ar daith hirach, gallwch ddilyn y llwybrau cyhoeddus i Ffynnon y Meddygon (ni cheir arwyddbyst ar y llwybr hwn).

Llwybr beicio mynydd

Mae arwyddbyst i’w cael ar bob un o’n llwybrau beicio mynydd o’r dechrau i’r diwedd ac maent wedi’u graddio’n ôl eu hanhawster.

Ceir panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr – dylech ei ddarllen cyn cychwyn ar eich taith.

Dolen Cronfa Ddŵr Wysg

  • Grade: Fordd goedwig a thebyg
  • Pellter: 5½ milltir/8.7 cilomedr
  • Dringo: 100 metr
  • Amser: 45 munud
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae'r rhan fwyaf o'r llwybr hwn yn dilyn trac caregog gwastad, llydan wrth ymyl y gronfa a gall fynd yn fwdlyd mewn mannau pan fydd yn wlyb. Ceir dringfa fer ar gychwyn y llwybr a rhan fechan ar ffordd gyhoeddus dawel. Ceir llidiart hanner ffordd ar hyd y llwybr, ac mae nifer o fyrddau picnic i’w cael. Gall beicwyr hefyd ddefnyddio'r llwybr hwn.

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Mae Coedwig Glasfynydd yng nghanol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae'r Parc Cenedlaethol yn cwmpasu tua 520 milltir sgwâr o fynyddoedd a rhostiroedd yn y De a’r Canolbarth.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy’n gofalu amdano.

I gael rhagor o wybodaeth am ymweld â Bannau Brycheiniog, ewch i wefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol

Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol, ac mae ansawdd yr awyr dywyll a geir yno gyda’r gorau trwy’r DU i gyd.

Coedwig Glasfynydd yw ‘calon y tywyllwch’ o fewn parth Awyr Dywyll y Parc Cenedlaethol, gyda’r Mynydd Du yn cynnig cefndir dramatig.

Cewch fwy o wybodaeth am syllu ar y sêr ar wefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Cau a dargyfeirio

Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.

Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.

Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Coedwig Glasfynydd 13 milltir i'r de-ddwyrain o Lanymddyfri.

Mae'r safle hon yn ymestyn ar draws ffiniau Sir Powys a Sir Gaerfyrddin.

Map Arolwg Ordnans (AO)

Mae Coedwig Glasfynydd ar fap Arolwg Ordnans (AO) OL 12.

Y cyfeirnod grid AO yw SN 820 271.

Cyfarwyddiadau

Dilynwch yr A40 o Lanymddyfri tuag at Aberhonddu.

Yn Nhrecastell, trowch i'r dde gan ddilyn yr arwyddion brown a gwyn i Gronfa Ddŵr Wysg.

Ar ôl 3¾ milltir anwybyddwch yr arwydd brown a gwyn ar y troad i’r dde i'r gronfa ddŵr ac ewch yn syth ymlaen am ½ milltir.

Mae'r maes parcio ar y chwith.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Yr orsaf agosaf â phrif reilffordd yw Llanymddyfri.

Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Maes parcio

Mae parcio’n ddi-dâl.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Os bydd maes parcio Coedwig Glasfynydd yn llawn, gallwch gychwyn y llwybr o’r maes parcio Dŵr Cymru wrth ymyl yr argae – dilynwch yr arwyddion brown a gwyn yr holl ffordd at Gronfa Ddŵr Wysg.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Mannau eraill yng De Ddwyrain Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf