Golygfan y Bannau, ger Trefynwy
Teithiau cerdded drwy rostir a choetir heddychion
Ar un adeg roedd Coed Gwent yn faes hela i Gastell Cas-gwent ac yr ardal fwyaf o goetir hynafol yng Nghymru ydy fe.
Cafodd mwyafrif y coed brodorol gwreiddiol yma eu cwympo yng nghanol yr 20fed ganrif i greu lle i goed conwydd sy'n tyfu'n gyflym ac sy'n cynhyrchu pren.
Rydym yn adfer Coed Gwent yn goetir llydanddail brodorol ac mae ein prosiect adfer coetiroedd hynafol wedi’i ardystio o dan fenter Canopi'r Gymanwlad y Frenhines.
Mae'r goedwig yn frith o nodweddion archeolegol, o lwybrau hynafol i olion hen felin.
Gallwch grwydro Coed Gwent ar droed, ar feic neu ar gefn ceffyl.
Mae panel croesawu yn y maes parcio sydd â map a gwybodaeth am yr hyn sydd i'w weld.
Mae yna hefyd arwyddbyst i helpu i'ch tywys ar hyd y llwybrau drwy'r goedwig.
Yn y gwanwyn mae’r llwybrau wedi’u hamgylchynu gan garpedi o glychau'r gog.
Ceisiwch sylwi ar nythod morgrug y coed - mae'r twmpathau hyn hyd at 4 troedfedd o ran uchder.
Mwynhewch gytgord yr adar yn canu ac efallai y gwelwch geirw neu hyd yn oed wiber.
Coed Cadw sydd berchen ar ran sylweddol o Goed Gwent ac sy’n ei rheoli.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am yr hyn y gallwch ei weld yng Nghoed Gwent ewch i wefan Coed Cadw.
Mae Coed Gwent yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:
Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.
Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.
Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.
Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.
Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.
Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.
Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.
Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.
Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.
Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.
Mae Coed Gwent 7 milltir i'r gorllewin o Gas-gwent.
Y cod post yw NP15 1LX.
Sylwer: efallai na fydd y cod post hwn yn eich arwain at y maes parcio os byddwch yn defnyddio sat nav neu ap llywio.
Rydym yn awgrymu eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau isod neu’n defnyddio’r Google map ar y dudalen hon lle ceir pin ar safle’r maes parcio.
O Gasnewydd, cymerwch yr A48 tuag at Gaer-went.
Ar ôl 6 ½ milltir, trowch i'r chwith i fynd ar y ffordd i Frynbuga, a nodir ag arwydd ar gyfer Llanfairisgoed (Llanfair Disgoed / Llanvair Discoed).
Ar ôl tua 3 milltir, ewch heibio cronfa ddŵr Coed Gwent ac mae maes parcio Foresters’ Oaks ar y chwith.
Ewch yn eich blaen am ¾ milltir arall, ac mae maes parcio Cadira Beeches ar y dde.
Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.
Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer maes parcio maes parcio Cadira Beeches yw ST 422 948 (Explorer Map OL14 neu 152.).
Y prif orsaf reilffordd agosaf yw Cil-y-Coed.
Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae dau faes parcio yng Nghoed Gwent:
Mae maes parcio Cadira Beeches yn rhad ac am ddim.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.