Golygfan y Bannau, ger Trefynwy
Teithiau cerdded drwy rostir a choetir heddychion
Efallai y byddwn yn cau'r maes parcio a chyfleusterau eraill ar fyr rybudd wrth i ni wneud gwaith adfer oherwydd difrod yn sgil stormydd diweddar. Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan arwyddion neu staff lleol, gan gynnwys lle mae llwybrau wedi eu dargyfeirio neu eu cau, a byddwch yn wyliadwrus o'r perygl o goed neu ganghennau sy’n cwympo.
Yn swatio rhwng dinas Casnewydd ac aber afon Hafren, mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd un o’r lleoliadau gorau yn y wlad i wylio adar, ac mae’r cyfleusterau ar gyfer ymwelwyr yn caniatáu i chi wneud y gorau o’r profiad.
Rhan o ardal dawel Lefelau Gwent yw’r warchodfa ac mae’n cynnwys amrywiaeth eang o gynefinoedd tir isel, yn cynnwys glaswelltir gwlyb, gwelyau cyrs, morfa heli a lagŵnau heli.
Ceir rhwydwaith saith cilomedr o lwybrau wedi eu hail-wynebu yn ardal corsleoedd Aber-wysg. Mae cors sgriniau gwylio â golygfeydd ar draws sianeli’r dyfnddwr, cors blatfform gwylio wedi’i godi a cuddfan wylio adar.
Mae pontŵn sy’n arnofio yn llunio llwybr uniongyrchol at oleudy Dwyrain Wysg sydd dros 120 oed.
Ceir arwyddbyst ar hyd yr holl lwybrau cerdded.
Sylwer: croesawir cŵn ar dennyn byr ar y Lonydd Gwyrdd a Rhodfa’r Arfordir yn unig.
1 milltir/1.6 cilomedr, hygyrch
Yn hwyr yn y gwanwyn ac ar ddechrau’r haf, chwiliwch am degeirianau.
1 milltir/1.7 cilomedr, hygyrch
Llwybr drwy’r gwelyau cyrs, dros y bont sy’n arnofio a heibio’r goleudy.
1½ miles/2.3 cilomedr, hygyrch
Mynd drwy wahanol gynefinoedd megis gwelyau cyrs a choedlannau a heibio dwr agored a’r aber.
2½ milltir/4 cilomedr, hygyrch
Mae’n gyfuniad o’r llwybr tegeirianau, llwybr y goedlan a’r aber a rhan o Lwybr Arfordir Cymru.
3¾ miles/5.9 cilomedr, hawdd
Mae uchafbwyntiau yn cynnwys goleudy Dwyrain Wysg, golygfeydd dros Aber Afon Hafren cyn belled ag Exmoor, cuddfan adar a lonydd gwyrdd (gall Fish-house Lane fod yn fwdlyd iawn yn y gaeaf neu ar ôl glaw trwm).
Mae croeso i gwn ar dennyn byr ar y daith gerdded hon, ond cofiwch lanhau ar ôl eich ci.
Partneriaeth yw Gwlyptiroedd Casnewydd rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Dinas Casnewydd a’r RSPB.
Yr RSPB sy’n rheoli’r Ganolfan Ymwelwyr, y caffi a'r toiledau.
Mae’r RSPB yn trefnu digwyddiadau sy’n amrywio o ddiwrnodau hwyliog i deuluoedd i deithiau cerdded tywysedig - mae’n hanfodol archebu lle ar gyfer rhai ohonynt.
Am fwy o wybodaeth:
Mae Gwlypdiroedd Casnewydd yn Warchodfa Natur Genedlaethol.
Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.
Mae’r tirlun a’r bywyd gwyllt yn amrywio yn ôl yr adeg o’r flwyddyn – cadwch olwg am y rhain.
Clustfeiniwch am atsain ‘bwwwn’ aderyn y bwn yn y gwelyau cyrs, ‘tincian’ y titwod barfog a gwichian rhegenod y dŵr.
Mae’r telorion Cetti yma drwy gydol y flwyddyn, ond yn y gwanwyn mae telorion y cyrs a’r hesg yn cyrraedd mewn niferoedd a’r gwrywod yn canu’n uchel yn y cyrs.
Cadwch lygad am gornicyll a chambig yn arddangos eu hunain, a cheisiwch wrando am gân rhywogaethau o deloriaid ac ehedyddion.
Draw ar y lagwnau heli, efallai y gwelwch rywogaethau o rydyddion mudol.
Yr adeg hon o'r flwyddyn, gall ymwelwyr sydd â phlant ifanc fwynhau chwilio am hwyaid bach ac adar bach o gwmpas y warchodfa.
Yn yr haf, gallwch fwynhau blodau a phlanhigion y warchodfa yn eu holl ogoniant.
Mae’r tegeirianau’n blodeuo ym mhobman, a chadwch olwg am y gardwenynen feinlais brin ymysg blodau’r pys bythol.
Wrth gerdded draw at y lagŵnau heli, fe welwch gynefin cwbl wahanol. Hon yw’r unig fan yng Nghymru lle mae’r cambig – aderyn rhydiog, hirgoes a chanddo big nodedig sy’n crymu at i fyny – yn magu.
Yn ystod y misoedd cynhesaf, mae'r dolydd gwair o amgylch y warchodfa yn frith o flodau gwyllt.
Os byddwch yn cerdded ar hyd y llwybrau, o amgylch y gwelyau cors, chwiliwch am degeirianau, gweision y neidr, hebogau yr ehedydd a gwenyn feinllais.
Gyda'r nos, bydd tylluanod gwyn yn dod allan i hela dros y gwelltir.
Yr hydref yw’r adeg orau yn y flwyddyn i wylio adar yng Ngwlyptiroedd Casnewydd, gan mai dyna pryd mae’r adar gwylltion mudol a’r adar rhydiog yn dechrau cyrraedd.
Dyma adeg wych o'r flwyddyn i wylio rhywogaethau o rydyddion mudol ar y lagwnau heli a man clwydo'r drudwy ar y gwely cors.
Yn y cyfamser, mae heidiau o esgyll cochion a chesig y ddrycin yn brysur yn bwydo ar y gwrychoedd ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, sydd ar ffin y warchodfa.
Mae’r heidiau mwyaf o adar i’w gweld yn y gaeaf – cadwch olwg am y cudyllod bach a’r hebog tramor pan fo haid o gornchwiglod yn cael eu dychryn.
Chwiliwch am heidiau mawr o chwiwellau, corhwyaid, pibydd y mawn a chornicyll.
Yn yr awyr agored eang uwchben y warchodfa, rydych yn debygol o weld adar ysglyfaeth sy'n hela, megis y boda tramor, y cudyll bach a boda'r wern.
Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.
Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.
Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.
Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.
Sylwer:
Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.
Mae’r holl lwybrau o gwmpas y gwelyau cyrs yn Aber Wysg yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn, ac mae meinciau bob rhyw 200 metr.
Mae’r llwybrau’n wastad, gyda rhai llethrau esmwyth a ramp igam-ogam i ddringo’r pum metr i fyny at y gwelyau cyrs sydd ar lefel uwch.
Mae’r cyfleusterau’n cynnwys:
Croesawir cŵn ar dennyn byr ar y Lonydd Gwyrdd a Rhodfa’r Arfordir yn unig.
Cysylltwch â'r RSPB am yr amserau agor:
Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau'r llwybrau neu unrhyw newidiadau eraill iddynt yma.
Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.
Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.
Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.
Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.
Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.
Rydym yn argymell eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau hyn neu’n defnyddio’r map Google isod lle mae pin yn nodi’r lleoliad.
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd 5 milltir i’r de o Gasnewydd.
O Gyffordd 24 ar yr M4: cymerwch yr A48 i’r gorllewin, ac yna dilynwch yr arwyddion hwyaid brown a gwyn i faes parcio Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd.
O Gyffordd 28 ar yr M4: cymerwch yr A48 i’r dwyrain, ac yna dilynwch yr arwyddion hwyaid brown a gwyn i faes parcio Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd.
Mae’r maes parcio ar ffordd Gorllewin yr As, ychydig cyn y fynedfa i Orsaf Bŵer Aber Wysg.
Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio yw ST 334 834 (Explorer Map 152).
Y cod post yw NP18 2BZ. Sylwer bod y cod post hwn yn cwmpasu ardal eang ac ni fydd yn mynd â chi yn uniongyrchol i’r fynedfa.
Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.
Mae yna wasanaeth bws sy’n rhedeg yn ôl y galw i Wlypdiroedd Casnewydd.
Ffoniwch 01633 21120 i fwcio bws cyn 5pm ar y diwrnod cyn y byddwch yn dymuno teithio.
Y prif orsaf reilffordd agosaf yw Casnewydd.
Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae gan Lwybr Beicio Cenedlaethol Sustrans, Rhif 4, gangen sy’n cysylltu â Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd gan ddefnyddio llwybrau beicio a ffyrdd tawel.
Yn y maes parcio mae lle pwrpasol dan do i gadw beiciau a stand beiciau wrth fynedfa’r canolfan ymwelwyr.
Y RSPB sy’n rheoli’r maes parcio.
Prisiau meysydd parcio £5 (mae aelodau’r RSPB yn parcio am ddim).
Yr RSPB sy’n rheoli’r Ganolfan Ymwelwyr.
Cysylltwch â’r RSPB 01633 636363 neu newport-wetlands@rspb.org.uk
Nid oes staff Cyfoeth Naturiol Cymru yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â thîm cwsmeriaid Cyfoeth Naturiol Cymru gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.