Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coed y Cerrig, ger Y Fenni

Beth sydd yma

Croeso

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coed y Cerrig yn ardal goediog mewn dyffryn bychan dwfn a ffurfiwyd gan rewlifoedd.

Mae coetir gwern, gwlyb yn gorchuddio llawr y dyffryn, a gellir ei archwilio drwy ddilyn ein llwybr pren hygyrch.

Hefyd, ceir llwybr cerdded byr ond serth sy’n arwain drwy’r coetir cymysg sy’n glynu wrth ochrau serth y dyffryn ac mae hwn yn llawn arogl persawrus clychau'r gog yn y gwanwyn.

Mae’r warchodfa mewn rhan dawel o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ond, ar un adeg, roedd y ffordd drwyddi yn rheilffordd brysur a oedd yn cludo deunyddiau i adeiladu cronfa ddŵr Grwyne Fawr.

Llwybrau cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybrau.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Pren y Gwern

  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: 0.4 milltir/0.6 cilomedr
  • Amser: 30 muned
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae’r llwybr yn cychwyn dros y ffordd o'r maes parcio – cymerwch ofal wrth groesi’r ffordd. Mae’r llwybr bordiau llydan a gwastad, gyda lleoedd pasio, yn eich galluogi i fwynhau’r coetir yng ngwaelod gwlyb y dyffryn. Gallwch wneud cylchdaith drwy gynnwys yr adran heb lwybr pren sy’n cael ei ddangos ar y map. Mae meinciau pren ar hyd y llwybr. Mae mwd meddal – peidiwch â chrwydro o’r llwybr pren neu’r llwybr.

Sylwch ar goesynnau’r gwern – tystiolaeth o ‘brysgoedio’ (torri’n agos i’r bôn ac ail dyfu).

Edrychwch allan am gold y gors ac ymbarelau pinc, tyner y triaglog sy’n tyfu ar hyd y llwybr coed yn y gwanwyn, ac aroglwch glychau’r gog sy’n tyfu ar hyd y llwybr.

Dringfa’r Coetir

  • Gradd: Anodd
  • Peltter: ¼ milltir/0.5 cilomedr
  • Amser: 30 muned
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae’r llwybr cylchol, byr hwn yn dringo’n serth ar hyd cyfres o risiau carreg, anwastad ac yn parhau ar hyd y coetir gan ddisgyn ar hyd llethr i’r maes parcio. Gallwch hefyd ymuno â’r llwybr troed cyhoeddus sy’n parhau i fyny, allan o’r warchodfa.

Mwynhewch y môr o glychau’r gog sydd ar hyd y llwybr un y gwanwyn.

Beth sydd i’w weld ar y Warchodfa Natur Genedlaethol

Mae Coed y Cerrig yn Warchodfa Natur Genedlaethol.

Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.

Mae’r tirlun a’r bywyd gwyllt yn amrywio yn ôl yr adeg o’r flwyddyn – cadwch olwg am y rhain.

Gwanwyn

  • Edrychwch am flodau pinc, siâp pyramid, trawiadol y tegeirian por or, cynnar
  • Mwynhewch y môr o glychau’r gog sydd ar hyd y llwybr
  • Edrychwch am y deintlys rhyfedd a di-liw

Haf

  • Gwrandewch ar drydar telor y coed (tebyg i ddarn arian sy’n troelli)
  • Edrychwch am ach du a gwyn y gwybedog brith
  • Byddwch yn barod am y tingoch gwrywaidd lliwgar sy’n edrych fel ysbeiliwr yn ei ddu, oren a llwyd

Mathau eraill o fywyd gwyllt i edrych amdanynt

  • Cewch gipolwg o’r gweirlöyn brych wrth iddo wibio drwy belydrau’r haul
  • Cadwch lygad allan am fawredd y clychlys dail danadl
  • Edrychwch am wychder rhyfedd y tegeirian nyth aderyn yn gynnar yn yr haf

Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru

Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.

Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Mae Coed y Cerrig ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae'r Parc Cenedlaethol yn cwmpasu tua 520 milltir sgwâr o fynyddoedd a rhostiroedd yn y De a’r Canolbarth.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sy’n gofalu amdano.

I gael rhagor o wybodaeth am ymweld â Bannau Brycheiniog, ewch i wefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Sylwer:

  • Mae yna lethrau serth a gall fod yn llithrig o dan draed pan fo’r amodau’n wlyb.
  • Mwd meddal – peidiwch â chrwydro o’r llwybr pren neu’r llwybr.
  • Cymerwch ofal wrth groesi’r ffordd i gyrraedd y llwybr pren.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Gwybodaeth am hygyrchedd

Mae'r llwybr pren llydan a gwastad yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn.

Mae'n cychwyn ychydig dros y ffordd o'r maes parcio ac mae iddo fannau pasio a meinciau pren.

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Trefnu digwyddiad ar ein tir

Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.

Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.

Sut i gyrraedd yma

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coed y Cerrig 4 milltir i’r gogledd o’r Fenni.

Cod post

Y cod post yw NP7 7NA.

Sylwer: efallai na fydd y cod post hwn yn eich arwain at y maes parcio os byddwch yn defnyddio sat nav neu ap llywio.

Rydym yn awgrymu eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau isod neu’n defnyddio’r Google map ar y dudalen hon lle ceir pin ar safle’r maes parcio.

Cyfarwyddiadau

Dilynwch yr A465 o’r Fenni i gyfeiriad Henffordd.

Ar ôl 4 milltir, trowch i’r chwith i bentref Llanfihangel Crucornau.

Ymhen ½ milltir trowch i’r chwith ar isffordd i Landdewi Nant Hodni.

Ar ôl 1¼ milltir cymerwch y fforch chwith, a dilynwch yr arwyddion brown a gwyn y warchodfa natur.

Mae’r maes parcio ar y dde ymhen 1¼ milltir.

What3Words

Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.

Arolwg Ordnans

Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio yw SO 293 211 (Explorer Map OL 13).

Cludiant cyhoeddus

Y prif orsaf reilffordd agosaf yw'r Fenni.

Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.

Parcio

Mae'r maes parcio yn fach ac mae lle i hyd at dri char.

Mae’r maes parcio yn rhad ac am ddim.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng De Ddwyrain Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf