Gelli Ddu, ger Aberystwyth

Beth sydd yma

Croeso

Mae’r Gelli Ddu yn lleoliad tawel wrth ymyl Afon Ystwyth sy’n llifo trwy’r cwm serth hwn ar ei ffordd i Aberystwyth.

Mae yna ardal bicnic o dan gysgod coed ynn, bedw a chastanwydd pêr mawr, a mainc bren hyfryd wrth ymyl y dŵr hollol glir.

Mae Llwybr Glan yr Ystwyth yn llwybr byr drwy goetir ffawydd sydd wedi’i orchuddio â chlychau’r gog yn y gwanwyn.

Daeth yr enw Saesneg, Black Covert, o’r gair ‘covert’ sef ardal lle magwyd ffesantod ar Ystâd Trawscoed.

Menyw ac afon

Llwybrau cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybrau

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded

Llwybr Glan yr Ystwyth

  • Gradd: Hawdd
  • Pellter: 1.7 milltir/2.2 cilomedr

Mae’r llwybr hwn yn cynnig taith gerdded ysgafn o’r man picnic ar hyd Afon Ystwyth.

Mae’n dychwelyd drwy goetir, sydd wedi’i lenwi ag arogl resin a charpedi o glychau’r gog yn y gwanwyn.

Llwybr Coed Allt Fedw

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 2.2 milltir/3.5 cilomedr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae llawer o ddringfeydd hir a disgyniadau serth ar hyd y llwybr hwn.

Mae Llwybr Coed Allt Fedw yn mynd heibio i bwll llonydd wrth iddo arwain at y fryngaer 2,000 mlwydd oed, sef Allt Fedw.

Yma mae golygfan sydd â golygfeydd panoramig dros fryniau tonnog a dyffrynnoedd.

Cau a dargyfeirio

Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.

Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.

Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Gelli Ddu 9 milltir i’r de-ddwyrain o Aberystwyth.

Mae yn Sir Ceredigion.

Map yr Arolwg Ordnans

Mae Gelli Ddu ar fap Explorer 213 yr Arolwg Ordnans (OS).

Cyfeirnod grid yr OS yw SN 667 729.

Cyfarwyddiadau

Cymrwch y B4340 o Aberystwyth i Drawsgoed.

Ar ôl Abermagwr, trowch i’r dde dros y bont (sydd ag arwydd yn dweud Llanilar B4575), ac yna trowch yn syth i’r chwith ac i’r chwith eto i mewn i’r maes parcio.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Aberystwyth.

Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Maes parcio

Mae'r maes parcio am ddim.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng Canolbarth Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf