Y Bwa, ger Aberystwyth
Llwybrau cerdded trwy goed ffawydd enfawr gyda...
Mae Coed y Bont yn goetir cymunedol wedi’i leoli ar gyrion pentref Pontrhydfendigaid.
Mae’n cynnwys dwy goedwig gyffiniol, Coed Dolgoed a Choed Cnwch.
Mae Coed Dolgoed yn goetir isel, fflat, yn llawn o goed llydanddail brodorol, yn bennaf helyg a bedw llwyd gyda chriafol, cyll, aethnenni a derw.
Mae Coed Cnwch yn goetir hynafol wedi’i leoli ar y llethr cyfagos, yn cynnwys hen goed derw ac ardaloedd o goed cyll a rhai coed conwydd.
Mae amrywiaeth o gyfleusterau ar gael i ymwelwyr yng Nghoed y Bont, gan gynnwys dau lwybr cerdded trwy Goed Dolgoed sy’n wastad.
Mae Cymdeithas Coetir Cymunedol Coed y Bont yn helpu i ofalu am y coetiroedd.
Mae’r gymdeithas gymunedol wedi datblygu amrywiaeth o gyfleusterau ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr.
Mae’r rhain yn cynnwys:
Mae dau lwybr coed wedi’u creu’n bwrpasol yng nghoetir is a gwastad Coed Dolgoed.
Mae’r llwybr byr hwn yn eich arwain drwy goetir ifanc ac yn mynd heibio pwll lle ceir ynys fechan.
Mae’r pwll yn sychu yn yr haf ond mae’n rhywle tawel lle gallwch eistedd ar un o’r meinciau.
Chwiliwch am yr aethnenni ‘crynedig’ – a’u dail sy’n ysgwyd yn yr awel ac yn troi’n aur yn yr hydref.
Beth am grwydro’n hamddenol drwy’r coed bedw a dilyn y llwybr sy’n mynd rhwng y ddau bwll bychan.
Mae hon yn rhan gorslyd iawn o’r coetir felly chwiliwch am weision y neidr ddiwedd yr haf.
Mae’r llwybr yn dychwelyd i’r man cychwyn ar hyd ffordd y goedwig o ble ceir golygfeydd o Ben-y-Bannau, bryn trawiadol tua’r gogledd.
Mae rhwydwaith o lwybrau mwy garw a mwy serth trwy goetir hynafol Coed Cnwch, sydd wedi’i leoli ar lethr y bryn.
Mae cofnod o lygod pengrwn y dŵr ac iyrchod yng Nghoed y Bont, ac mae’r pryfaid niferus yn bwydo nifer o adar sy’n bridio.
Mae oddeutu 80 o wahanol rywogaethau o adar wedi’u gweld neu’u clywed yn y coetir gan gynnwys y titw tomos las, titw mawr, delor y cnau, gwybedog brith, gwybedog mannog, tingoch, titw’r wern a’r dylluan frech. Mae’r barcud coch yn nythu yma.
Mae’r coed collddail a’r pyllau yng Nghoed Dolgoed yn ffefryn gan loÿnnod byw, gwyfynod a gweision neidr.
Mae coetir hynafol Coed Cnwch ar y llethr yn cynnwys coed derw a choed cyll sydd ganrifoedd oed, ynghyd ag ardaloedd gwlypach o goed bedw a gwern.
Mae’r brithwaith o goed aeddfed yn llawn cennau a ffyngau, gan gynnwys y menyg cyll prin, ac mae’r coetir yn ofnadwy o brydferth yn y gwanwyn, wedi’i orchuddio â charped o glychau’r gog.
Mae peth darnau o larwydd a ffynidwydden Douglas yn parhau i fod yma ers i’r Comisiwn Coedwigaeth eu plannu yn y 1970au. Bydd y coed conwydd yn cael eu gwaredu’n raddol, fel rhan o raglen i adfer coetir hynafol.
Mae Cymdeithas Coetir Cymunedol Coed y Bont yn helpu i ofalu am y coetiroedd, mewn partneriaeth gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, o fewn termau’r cytundeb rheoli.
Mae gwirfoddolwyr o’r gymdeithas yn ymgymryd â nifer o dasgau cynnal a chadw, megis adnewyddu a gwella llwybrau, gosod seddi a chadw’r llystyfiant dan reolaeth.
Mae eu gwaith wedi arwain at gynnydd yn yr amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau sydd yma, ynghyd â gwella mynediad i’r coetir i bobl leol ac ymwelwyr.
Mae’r gymdeithas hefyd yn trefnu digwyddiadau yn y coetir gan gynnwys diwrnodau cadwraeth a theithiau cerdded tymhorol wedi’u harwain.
Tudalen Facebook Cymdeithas Gymunedol Coetir Coed y Bont
Gwefan Cymdeithas Gymunedol Coetir Coed y Bont
Roedd coetiroedd Coed y Bont unwaith o fewn tiroedd abaty Sistersaidd Ystrad Fflur, un o’r abatai mwyaf ym Mhrydain.
Mae Coed y Bont ar Lwybr Ystrad Fflur ac mae byrddau gwybodaeth am hanes yr abaty yn y maes parcio.
Mae adfeilion yr Abaty gerllaw, ac maent ar agor i’r cyhoedd.
Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Cadw.
Mae Coed y Bont wedi’i leoli ym Mynyddoedd Cambria, lle mae’r awyr dros nos ymhlith y rhai mwyaf tywyll yn Ewrop.
Coed y Bont yw un o’r lleoedd gorau yn lleol i weld y sêr ac mae wedi’i ddynodi’n Safle Darganfod Awyr Dywyll.
Mae Safleoedd Darganfod Awyr Dywyll:
Darllenwch syniadau ynglŷn â rhyfeddu at yr awyr yn y nos ar wefan Partneriaeth Darganfod Awyr Dywyll y DU
Mae Coed y Bont yn ffurfio rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:
Ymhen amser bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cysylltiedig a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru ac yn dod â buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
I gael rhagor o wybodaeth am Goedwig Genedlaethol Cymru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
Mae’r ddau lwybr o amgylch y coetir isaf (Coed Dolgoed) ar dir gwastad.
Mae graean ar wyneb y llwybrau felly maent yn gallu bod yn anwastad mewn mannau.
Maen nhw’n addas ar gyfer sgwteri symudedd oddi ar y ffordd, ac mae’n bosibl y byddant yn addas ar gyfer bygis a chadeiriau olwyn cryf.
Ceir sawl mainc ar hyd y ddau lwybr.
Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.
Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.
Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.
Mae coetir cymunedol Coed y Bont 6 milltir i’r gogledd o Dregaron.
Mae yn Sir Ceredigion.
Mae Coed y Bont ar fap Explorer 187 yr Arolwg Ordnans (OS).
Cyfeirnod grid yr OS yw SN 737 659.
Dilynwch y B4343 o Dregaron tuag at Bontrhydfendigaid.
Ar ôl cyrraedd Pontrhydfendigaid, trowch i’r dde ar Ffordd yr Abaty, gan ddilyn yr arwydd brown a gwyn ar gyfer Abaty Ystrad Fflur.
Ar ôl hanner milltir, mae maes parcio Coed y Bont ar y dde.
Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Aberystwyth.
Mae gwasanaeth bws yn rhedeg i Bontrhydfendigaid
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae parcio’n ddi-dâl.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Nid oes staff Cyfoeth Naturiol Cymru yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.