Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, ger Aberystwyth

Beth sydd yma

Nid yw’r pwynt gwefru cerbydau trydan yn gweithio ar hyn o bryd.

 

Edrychwch ar dudalen Facebook Bwlch Nant yr Arian i weld y wybodaeth ddiweddaraf.

Croeso

Mae Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian yn enwog am ei thraddodiad hir o fwydo barcudiaid cochion bob dydd.

Mae’n fan cychwyn ar gyfer amryw o lwybrau ag arwyddbyst arnyn nhw ar gyfer cerddwyr, beicwyr mynydd a rhedwyr.

Mae parc sgiliau gyda trac pwrpasol fel y gall feicwyr mynydd ymarfer eu techneg a llwybr cylchol ag arwyddbyst ar gyfer marchogion ceffylau.

Mae'r ganolfan ymwelwyr wedi’i lleoli ar ben uchaf cwm dramatig ac mae'n safle y mae modd gweld ymhell ohono dros Fae Ceredigion a Mynyddoedd Cambria.

Mae’n dal yn bosibl gweld olion y diwydiant cloddio plwm ar hyd y llwybrau ond heddiw mae llus a grug yn gorchuddio’r bryniau tra bod barcutiaid coch urddasol yn hedfan uwchben.

Gwyliwch ein fideo

Llwybrau cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr y Barcud (yn cynnwys Pos Anifeiliaid a Llwybr Elenydd) 

  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: ¾ milltir/1.3 cilometr
  • Amser: 30 muned

Mae Llwybr y Barcud yn eich arwain o amgylch ymyl y llyn, lle caiff y barcudiaid cochion eu bwydo bob dydd. Mae’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn.

Ar hyd y llwybr mae anifeiliaid pren i’w gweld – cymerwch daflen Pos Anifeiliaid o’r teclyn taflenni neu yn y ganolfan ymwelwyr – tybed faint o anifeiliaid y gallwch ddod o hyd iddynt?

Chwiliwch am gerfluniau a barddoniaeth ar hyd y llwybr sy'n dod â llên gwerin a hanes lleol yn fyw – codwch daflen Llwybr Elenydd yn y ganolfan ymwelwyr.

Llwybr y Mwynwyr

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 1½ milltir/2.3 cilometr
  • Amser: 1 awr

Mae Llwybr y Mwynwyr yn troelli ar hyd pen y cwm, gan ddilyn ffrwd a arferai gludo dŵr i bweru mwyngloddiau plwm. Mae’n dringo llechwedd fer ond serth at Gadair y Cawr sy’n lle gwych i edrych ar yr olygfa. O’r fan yma ewch i lawr i mewn i ardal sydd wedi cael ei phlannu’n ddiweddar â 12,000 o goed brodorol. Ewch i lawr yn ôl i’r ganolfan ymwelwyr.

Llwybr y Grib

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 2½ milltir/4.1 cilometr
  • Amser: 2 awr

Dilynwch yr arwyddion i fyny at y grib sydd wedi ei orchuddio â grug a  mwynhewch y golygfeydd o Fae Ceredigion a Mynyddoedd Cambria. Ewch heibio i’r arsyllfa garreg cyn cerdded i lawr trwy’r coed. Ymunwch â’r llwybr ffrwd main a ddaw â chi’n ôl at y maes parcio.

Llwybrau beicio mynydd

Mae arwyddbyst i’w cael ar bob un o’n llwybrau beicio mynydd o’r dechrau i’r diwedd ac maent wedi’u graddio’n ôl eu hanhawster.

Ceir panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr – dylech ei ddarllen cyn cychwyn ar eich taith.

Llwybr Arian

  • Gradd: Ffordd coedwig a thebyg
  • Pellter: 7.9 cilomedr
  • Cyfanswm y dringo: 160 medr (graddiant mwyaf: 12%)
  • Amser: ¾ – 1½ hours
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae’r lefel yn gymharol isel ar hyd ffyrdd y goedwig, heb unrhyw rannau trac sengl, er bod rhan ohono ar hyd ffordd gyhoeddus sy’n mynd o amgylch y llyn. Mae darn byr eithaf serth ar y ffordd yn ôl. Byddwch yn ymwybodol o geir a reidiwch yn ofalus gan ystyried defnyddwyr eraill.

Mae’r Llwybr Arian yn eich arwain at lyn prydferth Blaenmelindwr.

Mae’n llwybr y bydd y teulu cyfan yn ei fwynhau.

Llwybr Melindwr

  • Gradd: Glas (cymedrol)
  • Dolen 1: 1.85 cilomedr/dringo 75m
  • Dolen 1 & 2: 5 cilomedr/dringo: 110m

Agorwyd Llwybr Melindwr ym Mis Hydref 2019. Dyluniwyd i fod yn un 'cynyddol' ar gyfer beicwyr sy'n gymwys ar lwybrau gradd glas, fel y gallant wella'u sgiliau cyn symud ymlaen i'r radd nesaf.

Mae llwybr Melindwr mewn dau gylch; mae beicio’r ddau gylch yn 5km.

Mae’r cylch cyntaf yn llai na 2km ac yn cynnwys: un rhan lle byddwch yn dringo ffordd goedwig; mainc â golygfa wych; ac un disgyniad troellog cyffrous â llawer o ysgafellau, ar y ffordd yn ôl i’r ganolfan ymwelwyr.

Mae cylch 2 yn mynd â chi i fyny rhan gychwynnol yr 'Italian Job' cyn dod i lawr yr 'Hanner Pibell'. Cymerwch ofal ar y rhan ddwyffordd nesaf a ddefnyddir gan eraill hefyd, cyn dringo o amgylch y ‘Y Trwyn’ i weld golygfa wych o’r môr ymhell draw. Cymerwch seibiant ar y fainc cyn y disgyniad hir a throellog sydd â rholeri ac ysgafellau difyr. Mae’r ffordd goedwig y byddwch yn ei dringo i ddod yn ôl yn cynnwys un rhan ag esgyniad o 12%, ond y disgyniad terfynol cyffrous fydd eich gwobr.

Llwybr Pendam

  • Gradd: coch (anodd)
  • Pellter: 10.2 cilomedr
  • Dringo: 220m

Mae Llwybr Pendam yn cyfuno rhannau o Lwybrau Summit a Syfydrin ac yn cynnig profiad o’r beicio anhygoel a’r golygfeydd rhagorol sydd yma. Er mai hwn yw’r llwybr byrraf yn Nant yr Arian mae’n cynnwys sawl rhan trac sengl dymunol ac ambell ddringfa galed. Mae rhai rhannau yn dechnegol iawn.

Llwybr Summit

  • Gradd: coch (anodd)
  • Pellter: 18.5 cilomedr
  • Dringo: 515m

Mae Llwybr Summit yn cynnig beicio tonnog a chyflym ar lôn sengl bwrpasol, anhygoel sy’n addas i’w defnyddio mewn unrhyw dywydd. Mae’n gwau ei ffordd drwy goedwigoedd conwydd, i lawr llethrau serth a thrwy gymoedd dyfnion.

Llwybr Syfydrin

  • Gradd: du (anodd iawn)
  • Pellter: 36 cilomedr
  • Dringo: 670m

Mae llwybr Syfydrin yn cynnwys Llwybr Summit gyda’i drac sengl ffantastig sy’n llifo a phlymio – ac yn ychwanegu ato trwy eich arwain allan i’r bryniau agored lle ceir golygfeydd anhygoel.

Parc Sgiliau

Mae’r parc sgiliau yn drac pwrpasol fel y gall feicwyr mynydd ymarfer eu techneg neu hyd yn oed ar gyfer cynhesu cyn mynd i’r afael â’r llwybrau hwy sy’n cychwyn o’r ganolfan ymwelwyr.

Mae’r nodweddion yn cynnwys roleri, grisiau, ysgafellau, pennau bwrdd, ‘cluniau’ a dysglau.

Cafodd y parc sgiliau ei gynllunio a’i adeiladu gan Trailcraft.

Cafodd y safle ei ddewis yn ofalus fel nad yw’r llwybr yn effeithio ar lwybrau eraill nac ar yr olygfa o’r llyn.

Llwybrau rhedeg

Mae'r llwybrau rhedeg ag arwyddbyst arnyn nhw yn dechrau o'r maes parcio.

Cafodd llwybrau Y Fuwch a’r Llo eu henwi ar ôl pâr o feini hirion trawiadol yn yr ardal sy’n dyddio’n ôl i’r Oes Efydd. 

Sylwch:

  • Mae'r ddau lwybr yma yn gofyn am lefel resymol o ffitrwydd
  • Byddwch yn barod am gyfuniad diddorol o ffyrdd agored drwy’r goedwig a llwybrau trac sengl lle bydd gwreiddiau, mwd a cherrig dan draed yn achlysurol
  • Mae rhannau o’r llwybrau yn serth a cheir rhan fechan o ffordd darmac ar Y Fuwch
  • Bydd arnoch angen esgidiau a dillad addas
  • Cofiwch fod yn ymwybodol fod pobl eraill yn defnyddio’r llwybrau

Y Llo

3 milltir, 4.9 cilometer, cymedrol

Cyflwyniad hamddenol i redeg llwybrau, mae’r llwybr 5km hwn yn cychwyn ar y gwastad am oddeutu 2km cyn dringo’r grib a mynd i lawr eto i’r maes parcio.

Y Fuwch

6½ milltir, 10.5 cilometr, anodd

Mae’r llwybr heriol hwn yn dilyn Y Llo cyn croesi’r ffordd a rhedeg ar hyd adfeilion hen fferm. Ymunwch â ffordd y goedwig a fydd yn mynd â chi heibio Llyn Syfydrin, yna ewch yn ôl heibio’r adfeilion cyn dringo’n ôl ar hyd y grib i’r maes parcio.

Llwybr marchogaeth

Llwybr Mynydd March

6½ milltir, 10.7 cilometr

Mae’r llwybr hwn sydd wedi ei arwyddo ac sydd wedi ei enwi ar ôl bryn lleol (Mynydd March). Mae golygfeydd godidog o Fae Ceredigion a Phumlumon Fawr, mynydd uchaf canolbarth Cymru.

Mae'r llwybr yn dechrau ar ffordd y goedwig (cyfeirnod grid SN 717 814) ac mae'n dilyn llwybr cylchol sy'n cynnwys cyfuniad o ffyrdd coedwig, ffyrdd cyhoeddus a llwybrau. Ceir rhannau byrion sy’n serth a byddwch yn barod am amrywiaeth o arwynebeddau.

Sylwch:

  • Parciwch y cerbydau cario ceffylau ar hyd ffordd y goedwig y tu hwnt i'r prif faes parcio. Os yw’r giât wedi ei chloi, gofynnwch am allwedd yn y ganolfan ymwelwyr
  • Mae digon o le ar gyfer troi cerbydau mawr a chorlan
  • Mae coedwig Bwlch Nant yr Arian yn croesawu sawl math o ddefnyddwyr hamdden felly byddwch yn ymwybodol y gallech ddod ar draws beicwyr mynydd, cerddwyr a rhedwyr

Cyfeiriannu

Mae pedwar cwrs cyfeiriannu parhaol yma (cyfres o byst y mae'n rhaid i chi eu darganfod yn eu trefn).

Mae'r rhain yn cynnwys cwrs haws ar gyfer dechreuwyr, sy'n cael ei ddefnyddio gan deuluoedd yn aml, a chwrs mwy anodd ar gyfer cyfeirianwyr profiadol.

I gychwyn, lawrlwythwch y mapiau ar waelod y dudalen hon neu ewch i gael copi yn y ganolfan ymwelwyr ar ôl ichi gyrraedd.

Yna defnyddiwch eich sgiliau cyfeiriannu i geisio dod o hyd i byst nodi cyfeiriannu (sy'n cael eu galw'n rheolyddion) yn y drefn gywir.

Bwydo barcudiaid cochion

Aderyn ysglyfaethus digamsyniol yw’r barcud coch, gyda’i gorff browngoch, adenydd onglog a chynffon fforchog ddwfn.

Ym 1999, daeth Bwlch Nant yr Arian yn orsaf bwydo barcudiaid cochion fel rhan o raglen i warchod y nifer bach o farcudiaid cochion a oedd yn yr ardal bryd hynny.

Caiff y barcutiaid coch eu bwydo ger y llyn ym Mwlch Nant yr Arian yn ddyddiol am 2pm yn y gaeaf (GMT) a 3pm yn yr haf (BST).

Gallwch ddisgwyl gweld cynifer â 150 o farcudiaid yn dod i mewn i gael eu bwydo ‒ mae mwy ohonyn nhw yn ystod misoedd y gaeaf fel arfer.

Maent yn gwibio i lawr i godi darn o gig ac yn bwyta wrth hedfan.

Adar lleol yw'r rhain yn bennaf, ac maen nhw'n dod o radiws o 10 milltir i fwydo.

Nid oes unrhyw dâl i wylio'r barcud coch yn bwydo.

Cynghorion ar gyfer gwylio'r barcud coch yn bwydo

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd mewn pryd! Mae'r barcudiaid coch yn cael eu bwydo am 2pm yn y gaeaf (GMT) ac am 3pm yn yr haf (BST)
  • Dilynwch Lwybr Cerdded y Barcud hwylus, o amgylch y llyn i'r man gwylio
  • Parhewch heibio i'r man gwylio i’r guddfan adar mawr er mwyn cael golwg agos o'r barcutiaid
  • Eistedd ar y seddau tu allan i’r caffi sydd â golygfeydd tuag at y Llyn ac ardal fwydo'r barcud coch - Dyma le gwych i wylio'r barcutiaid drwy eich ysbienddrych
  • Mwynhewch yr olygfa ysblennydd o'r caffi os yw'r tywydd yn wael
  • Dysgwch fwy am y barcutiaid coch drwy edrych ar y byrddau gwybodaeth yn y guddfan adar
  • Nid oes unrhyw dâl i wylio'r barcud coch yn bwydo.

Mannau chwarae

Mae dau fan chwarae i’w cael, un ar gyfer plant bach ac un ar gyfer plant hŷn.

  • Mae’r man chwarae i blant bach ar gyfer plant rhwng tair a chwech oed. Mae ganddo barth chwarae ag arwyneb diogel a mynediad hawdd i rieni, cadeiriau gwthio a phlant bach. Mae'r offer yn cynnwys dwy siglen i blant bach ac uned bwrpasol gyda llithren, wal ddringo, rhwyd ddringo ac ysgol
  • Mae Man Chwarae Dizzy Heights ar gyfer plant chwech oed a hŷn. Mae ganddo arwyneb sglodion pren, dwy siglen fasged fawr, ffrâm ddringo orangwtan ac ardal bwrpasol sydd â llithren, wal ddringo, ysgol raffau, polyn diffoddwyr tân a rhwyd ddringo

Mae’r holl offer chwarae wedi'u gwneud o adeiladwaith pren cadarn sy’n gweddu i amgylchiadau’r goedwig.

Pecyn darganfod

Gallwch gael benthyg pecyn darganfod yn y ganolfan ymwelwyr.

Mae pob pecyn yn cynnwys offer defnyddiol fel binocwlars, chwyddwydr, potyn chwilod a chardiau adnabod natur, ynghyd ag arweiniad yn esbonio sut i’w defnyddio.

Caffi

Mae’r caffi’n cynnig diodydd poeth ac oer a dewis o fwydydd a byrbrydau oer.

Cânt eu gweini mewn cynwysyddion i’w cludo, ond gallwch eu bwyta y tu fewn os ydych chi’n dymuno.

Caniateir cŵn mewn i’r caff ac ar y decin y tu allan i’r caffi.

Gweler yr oriau agor isod.

Siop

Mae’r siop yn gwerthu crefftau pren, jamiau a siytinis, poteli o gwrw Cymreig, llyfrau ac amrywiaeth o anrhegion sy’n newid yn gyson.

Gwobr Aur Croeso Cymru

Mae Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian wedi ennill Gwobr Aur Croeso Cymru.

Rhoddir y wobr hon i atyniadau sy’n gwneud ymdrech eithriadol i greu profiadau pleserus a chofiadwy i ymwelwyr.

""

Gwobr y Faner Werdd

Mae Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian wedi ennill Gwobr y Faner Werdd.

Mae'r wobr - a chydlynir yng Nghymru gan Cadwch Gymru'n Daclus - yn arwydd bod gan barc neu fannau gwyrdd y safonau amgylcheddol uchaf posibl, ei fod yn cael ei gynnal a'i gadw'n hardd ac bod ganddo gyfleusterau ardderchog i ymwelwyr.

I gael rhagor o wybodaeth am y Faner Werdd, ewch i wefan Cadwch Gymru'n Daclus.

Coedwig Genedlaethol Cymru

Mae Bwlch Nant yr Arian yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:

  • creu ardaloedd o goetir newydd
  • gwella coetiroedd presennol
  • adfer coetiroedd hynafol unigryw Cymru

Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Dilynwch y dolenni ar waelod y dudalen hon i gael mwy o wybodaeth am ymweld â’r mannau hyn.

Gwybodaeth hygyrchedd

Mae Llwybr y Barcud, sy'n mynd o amgylch ymyl y llyn, yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn. Nid oes grisiau na chamfeydd ac mae'r graddiant yn 10% neu'n llai gyda mannau gorffwys ar y rhannau ar i fyny.

Mae cyfleusterau eraill yn cynnwys:

  • parcio anabl
  • mynediad i gadeiriau olwyn i'r ganolfan ymwelwyr a'r caffi
  • toiledau anabl
  • cyfleusterau yn y caffi ar gyfer pobl â nam ar eu clyw
  • cadair olwyn cwrteisi

Cŵn

Rydym yn croesawu cŵn ym Mwlch Nant yr Arian.

Gallwch ddod â’ch ci pan fyddwch yn defnyddio ein llwybrau cerdded, rhedeg a beicio mynydd, ond rhaid ichi gadw’r ci ar dennyn neu o dan reolaeth agos.

Caniateir cŵn yn y siop, mewn i’r caff ac ar y decin y tu allan i’r caffi.

Cofiwch godi baw eich ci. Mae bagiau di-dâl ar gyfer baw cŵn ar gael mewn sawl dosbarthwr o amgylch y ganolfan ymwelwyr, a gallwch waredu’r bag mewn unrhyw fin sbwriel ar y safle.

I gael ymweliad diogel a braf gyda’ch ci, ac i osgoi achosi problemau i eraill, cofiwch ddilyn y Cod Cerdded Cŵn.

Oriau agor

Darllenwch y wybodaeth ar frig y dudalen we hon i ganfod a oes newidiadau i'r amserau agor neu edrychwch ar dudalen Facebook Bwlch Nant yr Arian i weld y wybodaeth ddiweddaraf.

  • Mae'r ganolfan ymwelwyr ar agor rhwng 11yb a 4yh saith diwrnod yr wythnos (ac eithrio Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan)
  • Mae'r caffi ar agor rhwng 11yb a 3yh saith diwrnod yr wythnos (ac eithrio Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan).
  • Mae'r siop ar agor rhwng 11yb at 4yh saith diwrnod yr wythnos (ac eithrio Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan). Mae ar gau yn ystod cyfnodau bwydo barcudiaid cochion
  • Caiff y barcudiaid cochion eu bwydo bob dydd am 2pm yn y gaeaf (GMT) a 3pm yn yr haf (BST). Mae'r amseroedd yn amrywio o'r gaeaf i'r haf yn seiliedig ar Amser Haf Prydain

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma neu edrychwch ar dudalen Facebook Bwlch Nant yr Arian i weld y wybodaeth ddiweddaraf.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Gwybodaeth mewn tywydd eithafol

Mewn tywydd eithafol fel eira, rhew neu wyntoedd cryfion:

  • Mae'n bosibl y byddwn yn cau’r maes parcio, y ganolfan ymwelwyr neu gyfleusterau eraill ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.
  • Gallai’r maes parcio a’r ffordd tuag at y ganolfan fod yn rhewllyd – dylech ddisgwyl gyrru ar arwynebau llithrig cyn gynted ag y byddwch yn gadael yr A44.
  • Gallai arwyneb pob llwybr fod yn llithrig, yn enwedig os oes rhew o dan yr eira – nid ydym yn trin unrhyw un o’r llwybrau o amgylch y ganolfan ymwelwyr nac yn y parc coedwig.

Trefnu digwyddiad ar ein tir

Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.

Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.

Sut i gyrraedd yma

Mae Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian 9 milltir i’r dwyrain o Aberystwyth.

Cod post

Y cod post yw SY23 3AB.

Sylwer: efallai na fydd y cod post hwn yn eich arwain at y maes parcio os byddwch yn defnyddio sat nav neu ap llywio.

Rydym yn awgrymu eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau isod neu’n defnyddio’r Google map ar y dudalen hon lle ceir pin ar safle’r maes parcio.

Cyfarwyddiadau

Cymerwch yr A44 o Aberystwyth i gyfeiriad Llangurig.

Ar ôl 9 milltir, mae maes parcio’r ganolfan ymwelwyr wedi’i arwyddo ar y chwith.

What3Words

Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.

Arolwg Ordnans

Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio yw SN 718 812 (Explorer Map 213)

Cludiant cyhoeddus

Y prif orsaf reilffordd agosaf yw Aberystwyth.

Bydd bws X47 rhwng Aberystwyth a Llanidloes yn stopio ar gais wrth fynedfa’r maes parcio.

Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.

Parcio

Ni chaniateir parcio dros nos.

Costau parcio

  • £1.50 am 1 awr
  • £3 am hyd at 3 awr
  • £5 am ddiwrnod cyfan

Sut i dalu

Ar ôl cyrraedd talwch wrth y peiriant tocynnau yn y maes parcio.

Mae’r peiriant tocynnau yn y maes parcio isaf yn derbyn arian parod a chardiau. Mae’r peiriant tocynnau yn y maes parcio uchaf yn derbyn arian parod yn unig.

Nid yw’r peiriannau tocynnau yn rhoi newid felly gofalwch fod gennych yr arian cywir os ydych yn dymuno defnyddio arian mân i dalu.

Tocyn parcio blynyddol

Gallwch brynu tocyn parcio blynyddol am £30 o’r peiriant tocynnau yn y maes parcio isaf neu o’r siop yn y ganolfan ymwelwyr.

Cysylltu â'r ganolfan ymwelwyr

0300 065 5470

bnya@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Bwlch Nant yr Arian Visitor Centre, Ponterwyd, Aberystwyth SY23 3AB

Diweddarwyd ddiwethaf