Coetir Lloches Ddu, ger Aberystwyth
Ardal bicnic gysgodol a llwybr glan yr afon
Llwybr pren hygyrch ar draws cyforgors eang, llwybr beicio a llwybr glan yr afon
Mae’r guddfan gwylio adar ar gau ac mae system un ffordd ar y llwybr pren.
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron yn ardal eang o dir gwlyb sy’n llenwi dyffryn llydan Afon Teifi wrth ymyl Tregaron.
Mae’r warchodfa’n cynnwys tair cyforgors – mawn dwfn sydd wedi cronni ers 12000 o flynyddoedd.
Mae’r cyforgorsydd wedi eu hamgylchynu gan gymysgedd cymhleth ac unigryw o gynefinoedd - gwelyau cyrs, glaswelltir gwlyb, coetir ac afonydd, nentydd a phyllau dŵr.
Mae amrywiaeth y cynefin yn gwneud y warchodfa yma’n lle gwych i fywyd gwyllt gyda’i lliwiau cyfnewidiol o goch, brown a melyn yn gyferbyniad cyfoethog i lesni’r bryniau cyfagos.
Er pob argraff gyntaf, mae pobl wedi bod yn byw yma ers cyn cof ac roedd y gors ei hun wrth galon bywyd ac economi’r ardal am ganrifoedd.
Roedd mawn yn danwydd gwerthfawr tan ganol yr 20fed ganrif ac mae tystiolaeth o dorri mawn i’w gweld ym mhob man.
Mae Cors Caron yn Warchodfa Natur Genedlaethol.
Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.
Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.
Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.
Mae’r llwybr pren sydd yn hollol addas ar gyfer pawb dros dde-ddwyrain y gors yn pasio’r adeilad gwylio mawr lle gallwch fwynhau golygfa dawel o’r tirlun a’r bywyd gwyllt.
Mae Llwybr Glan yr Afon yn llwybr cylch hirach sy’n pasio drwy galon Cors Caron.
Mae mynediad hefyd i Lwybr Ystwyth sy’n llwybr Beicio Cenedlaethol Sustrans.
Mae gan y llwybrau cerdded i gyd arwyddbyst ac maen nhw’n cychwyn o’r prif faes parcio.
1½ milltir, 2.6 cilomedr, hygyrch
Mae’r llwybr pren yn arwain dros rai o rannau mwyaf trawiadol y cors at guddfan.
Mae’n hollol hygyrch ac mae ganddo arwyneb pob tywydd ac amryw o feinciau.
4½ milltir, 7.6 cilomedr, cymedrol
Mae’r llwybr cylchol hwn yn dilyn glan yr afon ac yn arwain drwy ganol Cors Caron.
Gall fod yn fwdlyd, ac argymhellir esgidiau glaw!
Sylwch:
6.5 milltir, 10.5 cilomedr (yno ac yn ôl), hawdd
Mae’r llwybr hwn, sy’n llinelloll, yn dilyn hen reilffordd ar hyd ymyl y warchodfa ac yn rhan o Lwybr Ystwyth, Llwybr Beicio Cenedlaethol Sustrans rhwng Tregaron ac Aberystwyth.
Gall cerddwyr, beicwyr a marchogwyr ddefnyddio’r llwybr.
Darllenwch y wybodaeth ar frig y dudalen hon i ganfod a oes newidiadau i'r amserau agor.
Mae’r toiledau ar agor bob amser.
Mae Llwybr Glan yr Afon ar gau ar adegau o achos gorlifo.
Ni chaniateir cŵn ar Lwybr Glan yr Afon.
Sylwch:
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron tua dwy filltir i’r gogledd o Dregaron ar y B4343.
Mae yn Sir Ceredigion.
Gallwch barcio yno am ddim.
Mae’r prif faes parcio 2 filltir o Dregaron ar y B4343 i Bontrhydfendigaid (y cyfeirnod grid OS yw SN 692 625). Dilynwch yr arwydd o’r groesffordd yn Nhregaron tuag at y B4343.
Mae ychydig o le parcio hefyd mewn cilfan oddi ar y B4340 i’r gogledd o Fferm Maesllyn (y cyfeirnod grid OS yw SN 695 631) ac yn Iard Drenau Ystrad Meurig oddi ar y B4340 (y cyfeirnod grid OS yw SN 711 673).
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron ar fap Arolwg Ordnans (AR) 187 a 199.
Y cyfeirnod grid OS ar gyfer y prif faes parcio yw SN 692 625.
Mae’r orsaf drên agosaf yn Aberystwyth.
Mae rhai byssus rhwng Aberystwyth a Llambed yn stopio yn Nhregaron, ac mae'r gwasanaeth o Aberystwyth i Dregaron trwy Bontrhydfendigaid yn mynd heibio Cors Caron.
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Ffôn: 0300 065 3000