Coedwig Hafren, ger Llanidloes

Beth sydd yma

Mae’r llwybr pren hygyrch (ar Lwybr y Rhaeadrau) sy’n arwain at yr olygfan ar agor, ond mae angen i ymwelwyr ddychwelyd i’r maes parcio ar hyd y llwybr pren gan fod y llwybr cylchol sy’n dychwelyd drwy’r goedwig wedi cau oherwydd gwaith cynaeafu.

Croeso

Mae llwybrau cerdded heibio rhaeadrau, i bawb eu mwynhau, yng Nghoedwig Hafren.

Ceir teithiau cerdded byrrach drwy'r coetir i Raeadr enwog Afon Hafren, Rhaeadr y gwddf a Rhaeadr Blaen Hafren, ac mae llwybr estyll yn mynd â chi ar hyd glan yr afon i Bistyll Rhaeadr.

Plannwyd coedwig Hafren gan y Comisiwn Coedwigaeth yn 1930au ac fe’i henwyd ar ôl yr Afon Hafren. 

Mae tarddiad Afon Hafren y tu allan i ffin y goedwig ond gallwch gerdded iddi ar ein taith gerdded â mynegbyst.

Mae afon Hafren yn dechrau'n ddistaw mewn cors fawn sgwâr ar lethrau Pumlumon, mynydd uchaf Canolbarth Cymru ond, mewn dim o dro, mae’n troi’n ffrwd gyda rhaeadrau a chwympiadau yn plymio’n wyllt drwy’r goedwig.

Coedwig Hafren yw'r man cychwyn (neu ddiwedd) ar gyfer dwy daith gerdded hir, llinellol-Llwybr Dyffryn Gwy a ffordd Hafren

Llwybrau cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybrau yn y prif faes parcio (Rhyd-y-Benwch).

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded

Llwybr y Rhaeadrau

  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: ½ milltir/0.9 cilomedr
  • Amser: 30 munud
  • Gwybodaeth y llwybr: Mae'r llwybr yn dilyn o'r safle parcio i'r lwybr pren. Mae'n dod yn ôl ar llwybr llydan drwy'r coed. 

Mae Llwybr y Rhaeadrau yn mynd i lawr at lwybr pren ar hyd glan yr afon a thros Raeadr Hafren lle gallwch eistedd a mwynhau’r olygfa oddi ar lwyfan wedi’i godi cyn dychwelyd drwy’r coed i’r maes parcio.

""

Llwybr Hafren-Torri-Gwddf

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 1¾ milltir/2.8 cilomedr
  • Amser: 1 awr

Mae Llwybr Hafren-Torri-Gwddf yn dilyn y llwybr pren ar lan yr afon cyn pasio drwy ddôl gyda meinciau picnic a choetir.

Mae yna'n croesi pompren lle mae Afon Hafren yn pistyllio i lawr gyli’n genllif gwyn ac i mewn i raeadr enwog Hafren-Torri-Gwddf.

Llwybr Dŵr Torri Gwddf

Llwybr Rhaeadr Blaen Hafren

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 3½ milltir/6 cilomedr
  • Amser: 1½ awr

Mae Llwybr Rhaeadr Blaen Hafren yn dro golygfaol drwy galon y goedwig ac yn dilyn glan Afon Hafren yr holl ffordd i Raeadr Blaen Hafren.

""

Llwybr Tarddiad Hafren

  • Gradd: Anodd
  • Pellter: 8 milltir/12.8 cilomedr
  • Amser: 4½ awr

Mae Llwybr Tarddiad Hafren yn arwain drwy’r coed ac allan i lwybr cerrig drwy weundir corsog ac ymlaen i darddiad Afon Hafren a nodir gan bostyn pren ar uchder o 620 metr (2034 troedfedd).

Mae’r ffordd yn ôl yn mynd heibio i raeadr ac olion hen waith copr o’r Oes Efydd.

""

Llwybr Bro Gwy

Mae Llwybr Bro Gwy’n daith gerdded bell o 136 milltir ar hyd glan Afon Gwy i Gas-gwent.  

Coedwig Hafren yw man cychwyn a diwedd y daith llinell syth hon.  

Gweler Llwybr Bro Gwy.

Llwybr Afon Hafren

Mae Llwybr Afon Hafren yn daith gerdded bell 210 milltir i Fryste.

Coedwig Hafren yw man cychwyn (neu ddiwedd) y llwybr llinell syth hwn a dyma’r daith gerdded glan yr afon hiraf ym Mhrydain.

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Long Distance Walkers Association.

Sarn Sabrina

Taith gron 25 milltir gydag arwyddbyst yw Sarn Sabrina, a rhan ohoni’n pasio drwy Goedwig Hafren.

Enwir y llwybr ar ôl y chwedl Geltaidd am sabrina, nymff ddŵr oedd yn byw yn nyfroedd Afon Hafren yn ôl y sôn.

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Sarn Sabrina.

Llwybr Sustrans

Mae gan lwybr beicio Sustrans rhif 8 arwyddbyst ar ei hyd ac mae’n mynd rhwng Caerdydd a Chaergybi.

Mae’n pasio drwy Goedwig Hafren ar hyd ffordd sy’n cael ei chynnal gan Gyngor Sir Powys.

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Sustrans.

Gweilch y Pysgod yng Nghoedwig Hafren

Mae gweilch y pysgod yn treulio’r haf ger Llyn Clywedog yng Nghoedwig Hafren ac yn dychwelyd i Affrica ddiwedd mis Awst.

Gallwch wylio’r ffrwd fyw o un o nythod y gweilch yn ystod y tymor bridio (sy’n digwydd fel arfer o fis Mawrth i fis Awst).

Gwybodaeth hygyrchedd

Mae’r cyfleusterau’n cynnwys:

  • parcio bathodyn glas
  • toiledau hygyrch
  • Llwybr y Rhaeadrau (llwybr hygyrch)

Teulu

Coedwig Genedlaethol Cymru

Mae Coedwig Hafren yn ffurfio rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:

  • creu ardaloedd o goetir newydd
  • gwella coetiroedd sy’n bodoli eisoes
  • adfer coetiroedd hynafol unigryw Cymru.

Ymhen amser bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cysylltiedig a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru ac yn dod â buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

I gael rhagor o wybodaeth amGoedwig Genedlaethol Cymru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.

Cau a dargyfeirio

  • Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.
  • Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.
  • Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Coedwig Hafren 6 milltir i’r gorllewin o Lanidloes.

Mae yn Sir Powys.

Map Arolwg Ordnans

Mae Coedwig Hafren ar fap Arolwg Ordnans (AO) 214.

Cyfeirnod AO yw SN 857 869.

Cyfarwyddiadau

Dilynwch Stryd y Bont Fer allan o ganol tref Llanidloes.

Croeswch yr afon a throi i’r chwith.

Dilynwch y ordd gul hon am 5½ milltir, gan fynd heibio’r Hen Neuadd, ac mae maes parcio Rhyd-y-Benwch ar y chwith.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Caersws.

Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan TravelineCymru.

Maes parcio

Prif faes parcio yw Rhyd-y-Benwch.

Mae parcio’n ddi-dâl.

​Ni chaniateir parcio dros nos.​

Manylion cyswllt

0300 065 3000

ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Taflen Coedwig Hafren PDF [13.3 MB]

Mannau eraill yng Canolbarth Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf