Coed Nash, ger Llanandras

Beth sydd yma

Croeso

Mae hanner Coed Nash yng Nghymru a’r hanner arall yn Lloegr, sy’n dangos yn glir eich bod yn ardal y gororau.

Mae’r llwybr cylchol yn arwain at Olygfa Burfa ac oddi yno ceir golygfeydd dros Goedwig Maesyfed a Burfa Bank, un o’r llu o fryngaerau ar y rhan hon o’r ffin.

Mae'r cynefin coetir yma yn ddelfrydol i weld bwncathod a gweilch Marthin neu efallai y gwelwch bilaod a gyflingroesion sy’n ffynnu ar y conau mawr a gynhyrchir gan y ffynidwydd Douglas urddasol.

Mae’n gyfle da hefyd i weld un o'r nifer fawr o iyrchod sy'n byw yma ac, os dewch draw yn yr hydref, cofiwch gadw llygad yn agored am ffwng lliwgar.

Llwybr cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded

Llwybr Nash

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 2.1 filltir/3.5 cilomedr
  • Amser: 1½ awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae’r llwybr yn dringo’n serth o’r maes parcio a cheir gwreiddiau coed dan droed. Mae’r rhan hon yn fwdlyd a llithrig ar ôl tywydd gwlyb. Yna, mae’r llwybr yn dilyn ffordd goedwig drwy’r coed a gallwch ddewis dilyn llwybr byr ond serth i lawr yn ôl i’r maes parcio. Mae’r prif lwybr yn mynd yn ei flaen ar hyd llwybrau culion drwy’r coetir a cheir rhywfaint o waith dringo mewn mannau. Mae mainc yn yr olygfan.  

Ar ôl gwaith dringo serth drwy’r coetir, mae’r llwybr yn dod at ffordd goedwig ac yna’n mynd yn ei flaen gan ddringo at olygfan Burfa.

Mae’r olygfan yn edrych dros fryngaer Oes Haearn Burfa Bank, ac oddi yma ceir golygfeydd dros Ddyffryn Maesyfed a thu hwnt, draw i Swydd Henffordd.

""

Coedwig Maesyfed

Mae Coed Nash wedi’i leoli yn yr ardal elwir yng Nghoedwig Maesyfed.

Roedd Coedwig Maesyfed unwaith yn dir hela brenhinol.

Yr adeg honno, nid ardal goediog oedd hon ond darn o dir agored, wedi ei neilltuo’n gyfreithiol fel tir hela ceirw i’r brenhinoedd Normanaidd.

Heddiw mae Coedwig Maesyfed yn dir ffermio mynydd gyda gweundir helaeth, dyffrynnoedd culion serth a bryniau, ac mae’n codi i’r pwynt uchaf yn Sir Faesyfed, sef Y Domen Ddu sy’n 650 metr (2150 troedfedd) o uchder.

Ceir llwybrau cerdded mewn dau goetir arall a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru o fewn Coedwig Maesyfed.

Ewch i Coed Cwningar a Fishpools i gael rhagor o wybodaeth. 

Coedwig Genedlaethol Cymru

Mae Coed Nash yn ffurfio rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:

  • creu ardaloedd o goetir newydd
  • gwella coetiroedd sy’n bodoli eisoes
  • adfer coetiroedd hynafol unigryw Cymru.

Ymhen amser bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cysylltiedig a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru ac yn dod â buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

I gael rhagor o wybodaeth am Goedwig Genedlaethol Cymru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.

Cau a dargyfeirio

Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.

Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.

Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Coed Nash 1 filltir i'r de o Lanandras.

Mae yn Sir Powys.

Map yr Arolwg Ordnans

Mae Coed Nash ar fap Explorer 201 yr Arolwg Ordnans (OS).

Cyfeirnod grid yr OS yw SO 314 635.

Cyfarwyddiadau

Yn Llanandras, trowch oddi ar ffordd B4356 gyferbyn â’r ganolfan hamdden a dilynwch yr is-ffordd gul.

Cadwch i’r dde ger yr arwydd parcio Cyfoeth Naturiol Cymru a dilynwch y lôn i’r maes parcio.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Trefyclo.

Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Maes parcio

Mae parcio’n ddi-dâl.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng Canolbarth Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf