Beth sydd yma

Croeso

Mae Fishpools yn yr ardal sy’n cael ei galw’n Goedwig Maesyfed, sef ardal o dir ffermio mynydd, gweundir, dyffrynnoedd culion serth a bryniau.

Mae’r llwybr cerdded yn mynd heibio hen dŵr arsyllu Bwrdd Dŵr Birmingham ac yn arwain at olygfan sy’n edrych dros bentref Bleddfa a’r wlad oddi amgylch.

Ystyr Bleddfa yw “lle’r blaidd” ac yn ôl y traddodiad, gyrrwyd y bleiddiaid olaf yng Nghymru allan o Goedwig Maesyfed i’r dyffryn yma a’u lladd.

Ceir golygfeydd estynedig o’r maes parcio.

Llwybr cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded

Llwybr Fishpools

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 2½ milltir/3.8 cilomedr
  • Amser: 2 awr

Yn gyntaf mae’r llwybr yn mynd heibio hen dŵr canfod dŵr a ddefnyddid i arolygu’r biblinell sy’n ymestyn o Ddyffryn Elan i gronfa ddŵr yng Nghanolbarth Lloegr.

Ym mhellach ymlaen, ceir golygfeydd prydferth i’r gorllewin, allan ar hyd y dyffryn a’r bryniau o amgylch Abaty Cwm Hir.

Mae’r llwybr dolen opsiynol (½ milltir/0.9 cilomedr) yn mynd o amgylch y rhostir lle’r oedd pobl leol ar un adeg torri mawn ar gyfer tanwydd (hawl hynafol o’r enw “mawnog”).

Coedwig Maesyfed

Mae Fishpools wedi’i leoli yn yr ardal elwir yng Nghoedwig Maesyfed.

Roedd Coedwig Maesyfed unwaith yn dir hela brenhinol. Yr adeg honno, nid ardal goediog oedd hon ond darn o dir agored, wedi ei neilltuo’n gyfreithiol fel tir hela ceirw i’r brenhinoedd Normanaidd.

Heddiw mae Coedwig Maesyfed yn dir ffermio mynydd gyda gweundir helaeth, dyffrynnoedd culion serth a bryniau, ac mae’n codi i’r pwynt uchaf yn Sir Faesyfed, sef Y Domen Ddu sy’n 650 metr (2150 troedfedd) o uchder.

Ceir llwybrau cerdded mewn dau goetir arall a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru o fewn Coedwig Maesyfed.

Ewch i Coed Nash a Coed Cwningar i gael rhagor o wybodaeth. 

Cau a dargyfeirio

Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.

Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.

Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae maes parcio Fishpools 8 milltir i’r gorllewin o Drefyclo.

Mae yn Sir Powys.

Map yr Arolwg Ordnans

Mae Fishpools ar fap Explorer 200 yr Arolwg Ordnans (OS).

Cyfeirnod grid yr OS yw SO 188 681.

Cyfarwyddiadau

O Drefyclo dilynwch ffordd A488 i bentref Bleddfa.

Ar ôl mynd drwy’r pentref dilynwch y ffordd hon am ychydig dros 1 filltir a bydd arwydd mynedfa maes parcio Fishpools ar y chwith.

Trowch yma a dilynwch y lôn i’r maes parcio.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Dolau.

Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Maes parcio

Mae parcio’n ddi-dâl.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng Canolbarth Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf