Coetir Lloches Ddu, ger Aberystwyth
Ardal bicnic gysgodol a llwybr glan yr afon
Taith gerdded coetir gyda charpedi o glychau’r gog yn y gwanwyn
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor ond, o dan y cyfyngiadau coronafeirws presennol yng Nghymru, bwriedir i’r rhain gael eu defnyddio gan bobl sy’n byw yn lleol yn unig.
Fe’ch cynghorir – yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru – i beidio â gyrru i unrhyw un o’n safleoedd i wneud ymarfer corff, oni bai fod gennych reswm dilys, megis cyflwr iechyd neu broblemau symudedd.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Yn daith fer yn y car o Aberystwyth, mae Gogerddan yn safle picnic sy’n hawdd i’w ganfod ac sydd â thaith gerdded goedwigol.
Mae’r maes parcio a’r ardal bicnic yn agos at goetir hynafol a fu unwaith yn rhan o ystâd Gogerddan, oedd yn adnabyddus am ei gwaith plwm.
Roedd y coetir hynafol hwn unwaith yn rhan o ystâd mwyngloddio ariannog Gogerddan.
Mae’r coetir yn gartref i hen goed hardd, gan gynnwys derw, castanwydd pêr a phisgwydd, sy’n dangos amrywiaeth o liwiau tymhorol yn yr hydref.
Yn ystod y gwanwyn gwelwch arddangosfa drawiadol o gylchau’r gog a blodau tymhorol eraill.
Mae’r safle picnic mewn lleoliad cysgodol wrth ochr Nant Clarach, ac mae’r daith gerdded gylchol yn dechrau yn y maes parcio.
Mae hon yn daith gerdded gymharol fyr, ond caiff y dringfeydd serth drwy’r coed eu gwobrwyo â rhai golygfeydd hyfryd.
Ceir arwyddbyst ar y llwybr cerdded sy’n cychwyn o’r maes parcio.
1½ milltir/2.4 cilomedr, cymedrol
Mae Llwybr Gogerddan yn dringo drwy’r coetir.
Mae’r llwybr yn mynd heibio i hen goed hardd, ac yn y gwanwyn mae’r coetir wedi’i orchuddio â chlychau’r gog.
Mae nifer o ddringfeydd a disgyniadau serth ar hyd y ffordd, ynghyd â mainc bren yn yr olygfan sy’n edrych dros y caeau a’r bryniau.
Mae Coetir Gogerddan 3 milltir i’r gogledd ddwyrain o Aberystwyth.
Mae yn Sir Ceredigion.
Dilynwch ffordd A487 o Aberystwyth i gyfeiriad Machynlleth. Ar ôl 2½ milltir, trowch i'r dde am Benrhyncoch ac ewch yn syth ymlaen pan ddewch at y
groesffordd. Mae'r maes parcio ar y chwith mewn ½ milltir, ar ôl mynd heibio’r tai gwydr mawr.
Mae Coetir Gogerddan ar fap Arolwg Ordnans (AR) 213.
Y cyfeirnod grid AR ar gyfer y maes parcio yw SN 633 836.
Mae’r orsaf drenau agosaf yn Aberystwyth.
Mae’r gwasanaeth bws o Aberystwyth i Penrhyncoch yn stopio yn fynedfa Prifysgol Aberystwyth, yn agos iawn i faes parcio coetir Gogerddan.
Am mwy o wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Gellid parcio yn rhad ac am ddim yn y maes parcio hwn.
0300 065 3000