Coetir Lloches Ddu, ger Aberystwyth
Ardal bicnic gysgodol a llwybr glan yr afon
Taith gerdded hawdd ar llannau'r afon drwy goetir
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor ond, o dan y cyfyngiadau coronafeirws presennol yng Nghymru, bwriedir i’r rhain gael eu defnyddio gan bobl sy’n byw yn lleol yn unig.
Fe’ch cynghorir – yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru – i beidio â gyrru i unrhyw un o’n safleoedd i wneud ymarfer corff, oni bai fod gennych reswm dilys, megis cyflwr iechyd neu broblemau symudedd.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Coetir bach yw Pont Llogel, yng Nghoedwig Dyfnant.
Mae’r maes parcio ac ardal bicnic yma wrth ochr hen bont gerrig ar gyrion pentrefan.
Mae taith gerdded fer drwy’r coetir ar hyd afon Efyrnwy.
Mae dwy daith gerdded hwy yn gadael o’r maes parcio ac mae Llwybr Cenedlaethol Glyndŵr yn mynd drwy’r fan yma hefyd.
Mae’r ardal dawel hon wedi cael ei dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig oherwydd yr amrywiaeth helaeth o blanhigion sy’n tyfu yma. Rydym wedi cael gwared â nifer fawr o gonwydd (coed gyda moch coed) er mwyn rhoi cyfle i’r golau dreiddio i lawr y goedwig ac annog planhigion a choed brodorol (megis derw a chyll) i dyfu.
Mae toiled portaloo yn y maes parcio cyhoeddus wrth ochr siop y pentref.
Mae nodwyr ar y llwybr ac mae’n cychwyn o’r maes parcio.
Mae Llwybr Pont Llogel yn daith gerdded gysgodol drwy goetir cymysg wrth ochr afon Efyrnwy.
Mae’r llwybr llydan a gwastad yn dilyn glannau’r afon i fainc bren lle gallwch fwynhau sŵn y dŵr a’r adar.
Oddi yma, gallwch naill ai ddychwelyd yr un ffordd neu ddilyn y llwybr lefel uwch drwy goed derw os ydych yn fodlon mynd ar risiau a rhannau serth.
Mae golygfeydd o’r bryniau drwy’r coed, cyn i’r llwybr ostwng i lannau’r afon a dilyn y prif lwybr yn ôl i’r maes parcio.
Argymhellwn eich bod yn mynd â map Arolwg Ordnans neu lyfr tywys ynglŷn â theithiau cerdded i ddilyn y llwybrau hyn.
Gallwch brynu taflen ar y llwybrau hyn yn y siop ym Mhont Llogel.
Mae’r daith gerdded hon yn coffáu emynwr enwog o’r 18fed ganrif.
Mae’n cychwyn o faes parcio Pont Llogel ac mae’n gorffen yn Hen Gapel John Hughes ym Mhontrobert.
Mae’r llwybr yn dilyn afon Efyrnwy, gan gyflwyno amrywiaeth o dirweddau ac ymweld â llawer o’r mannau sy’n gysylltiedig â bywyd Ann Griffiths.
Mae’n 7 milltir/11 cilomedr bob ffordd a chaiff ei reoli gan Gyngor Sir Powys.
Mae’r daith gerdded hon yn olrhain llwybr rhwng Dyffrynnoedd Efyrnwy a Thanat, llwybr sydd wedi'i droedio gan bererinion, chwarelwyr a phorthmyn yn y canrifoedd a aeth heibio.
Mae’n cychwyn dros y ffordd i faes parcio Pont Llogel ac mae’n gorffen yn Llangynog.
Mae’n daith gerdded heriol â rhannau hir o ddringo sy’n cysylltu gwaelodion y dyffrynnoedd â darnau enfawr o weundir agored.
Mae’n 15 milltir / 24 cilomedr bob ffordd a chaiff ei reoli gan Gyngor Sir Powys.
Mae Llwybr Cenedlaethol Glyndŵr yn mynd drwy Goed Pont Llogel.
Ewch i wefan Llwybr Glyndŵr i gael rhagor o wybodaeth.
Mae Pont Llogel 22 milltir o Ddolgellau.
Mae yn Sir Powys.
Mae parcio’n ddi-dâl.
Ewch ar ffordd yr A470 o Ddolgellau tuag at Fachynlleth a throwch i fynd ar yr A458 tuag at y Trallwng. Yn Llangadfan trowch i’r chwith i fynd ar y B4395, sydd ag arwyddbost am Lyn Efyrnwy. Ewch heibio’r mynedfeydd ar gyfer meysydd parcio Pen-y-ffordd a Hendre ac ewch ymlaen i bentrefan Pont Llogel. Mae’r mynediad i faes parcio Pont Llogel ar y dde, yn syth ar ôl y bont gerrig.
Mae Pont Llogel ar fap Arolwg Ordnans 239.
Cyfeirnod grid Arolwg Ordnans y maes parcio yw SJ 032 154.
Mae'r orsaf reilffordd agosaf yn y Trallwng.
Am fanylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.
0300 065 3000
ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk