Pont Melin Fach, ger Ystradfellte

Beth sydd yma

Mae’r maes parcio ar agor o 1 Hydref 2021 tan 22 Mawrth 2022.

Croeso

Maes parcio bychan a safle picnic yw Pont Melin Fach mewn lleoliad prydferth ger hen bont garreg.

Mae’r llwybr o fan hyn yn mynd heibio pedair rhaeadr ac mae yn gyflwyniad arbennig i Fro’r Sgydau.

Mae’r tir cysgodol, llaith yn llawn mwsoglau, llysiau’r afu a chennau sy’n dibynnu ar y lleithder y mae’r coed a’r rhaeadr yn eu creu.

Nodwch: ffordd gul sy’n arwain at y maes parcio bach hwn ac nid yw ar agor drwy gydol y flwyddyn.

Llwybr cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Elidir

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 3 milltir/4.8 cilometr (un ffordd)
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae'r tir yn wlyb ac yn anwastad mewn sawl man, ac mae yna rai llethrau a dringfeydd serth. Mae yna lwybr llinol sy’n gorffen ym mhentref Pontneddfechan. Mae’r ffordd yn ôl at y maes parcio’n mynd ar hyd yr un llwybr. Gallwch hefyd ddechrau’r llwybr i fyny’r afon o Bontneddfechan.

Mae Llwybr Elidir yn mynd i lawr yr afon o'r maes parcio, gan ddilyn Afon Nedd Fechan.

Mae’r sgwd cyntaf, sef Sgwd Ddwli Uchaf, sydd tua 15 munud i ffordd ar hyd y llwybr.

Dilynwch arwyddbyst y gwyriad i Sgwd Gwladus. Gallwch droi o gwmpas yno neu barhau i lawr i Bontneddfechan.

Tu hwnt Sgwd Gwladus, mae’r llwybr yn gymharol wastad am ei fod yn dilyn trac hen dramffordd geffylau a ddefnyddiwyd yn y gorffennol i gludio dramiau yn llawn cerrig silica i lawr i’r gwaith brics ger Camlas Nedd. Heddiw gallwch weld rhai o fynedfeydd y pyllau o hyd.

Bro’r Sgydau

Mae Pont Melin Fach mewn rhan boblogaidd o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a elwir yn Fro’r Sgydau.

Does yna unlle arall yng Nghymru gyda’r fath gyfoeth ac amrywiaeth o raeadrau mewn ardal mor fach. Yma, yn yr ardal a elwir yn Fro’r Sgydau, mae afonydd Mellte, Hepste, Pyrddin, Nedd Fechan a Sychryd yn ymdroelli i lawr ceunentydd dwfn, coediog, dros gyfres o raeadrau dramatig, cyn ymuno i ffurfio Afon Nedd.

P’un a ydych yn chwilio am antur am ddiwrnod cyfan neu dro am awr yn unig, dylech allu dod o hyd i lwybr addas i chi.

Lleolir Bro’r Sgydau yn bennaf o fewn coetir a reolir ar y cyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Awdurdod Parc Cenedlaethol. Gyda’n gilydd, rydym yn rheoli’r llwybrau ac yn eich helpu chi i archwilio a mwynhau’r ardal unigryw hon.

Ewch i wefan Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i ganfod rhagor o leoedd i ymweld â hwy ym Mro’r Sgydau.

Cau a dargyfeirio

  • Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.
  • Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.
  • Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Pont Melin Fach bedair milltir i'r gogledd-ddwyrain o Lyn-nedd.

Mae coedwigoedd Bro’r Sgydau yn ymestyn ar draws ffiniau Sir Powys, Castell-nedd Port Talbot a Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Map Arolwg Ordnans

Mae Pont Melin Fach ar fap Arolwg Ordnans OL 12.

Cyfeirnod grid yr OS yw SN 908 105.

Cyfarwyddiadau

Cymerwch y B4242 o Lyn-nedd i Bontneddfechan.

Trowch i'r chwith tuag at Ystradfellte a dilynwch y ffordd hon am ddau gilometr.

Trowch i'r chwith a dilyn ffordd ‘dim ffordd drwodd’ (sy’n ‘anaddas i fysiau’).

Dilynwch y ffordd gul hon (lle mae mannau pasio yn brin) am un cilometr ac mae maes parcio Pont Melin Fach ar y chwith wedi i chi groesi'r bont garreg.

Cludiant cyhoeddus

Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Castell-nedd.

Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i  wefan Traveline Cymru.

Parcio

Does dim angen talu i barcio ceir.

Mae’r maes parcio yn fach a gall lenwi’n gyflym.

Nid yw'r maes parcio ar agor drwy gydol y flwyddyn.

Manylion cyswllt

0300 065 3000

ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng De Ddwyrain Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf