Coetir Lloches Ddu, ger Aberystwyth
Ardal bicnic gysgodol a llwybr glan yr afon
Mae tirwedd odidog yr aber, a'r môr a’r mynyddoedd yma yn gartref i ystod anhygoel o gynefinoedd gwahanol
Mae’r adeilad y ganolfan ymwelwyr ar gau.
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor ond, o dan y cyfyngiadau coronafeirws presennol yng Nghymru, bwriedir i’r rhain gael eu defnyddio gan bobl sy’n byw yn lleol yn unig.
Fe’ch cynghorir – yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru – i beidio â gyrru i unrhyw un o’n safleoedd i wneud ymarfer corff, oni bai fod gennych reswm dilys, megis cyflwr iechyd neu broblemau symudedd.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi, hanner ffordd rhwng Aberystwyth a Machynlleth. Mae’r Warchodfa Natur Genedlaethol hon yn cwmpasu 2,000 hectar ac yn cynnwys tair prif ardal:
Mae’r aber hwn yn cynnwys ardaloedd o bwysigrwydd rhyngwladol o safbwynt fflatiau llaid, banciau tywod a morfa heli, ac yn darparu ardaloedd bwydo a chlwydo arbennig i adar dŵr
Lleolir twyni tywod gwych Ynyslas ar ochr ddeheuol ceg yr aber, a rhain yw’r twyni mwyaf yng Ngheredigion.
Maent yn dangos holl gyfnodau ffurfiant a thyfiant y twyni, o lannau tywodlyd, i raean â llystyfiant, blaendwyni, twyni symudol a thwyni sefydlog.
Maent yn gartref i boblogaeth gyforiog o degeirianau, mwsogl, llys yr afu, ffwng, pryfed a phryfed cop; llawer ohonynt yn rhywogaethau prin, gyda rhai ohonynt ar gael yn unlle arall ym Mhrydain.
Gorwedda Cors Fochno i’r de ddwyrain o’r twyni ac Afon Leri. Dyma un o’r enghreifftiau gorau a mwyaf o gyforgors fawn ym Mhrydain.
Cychwynnwyd ei ffurfiad o gwmpas 5500 CC pan oedd rhan o’r gorlifdir wedi ei orchuddio gan fforest, ond fel yr oedd lefel y môr yn codi, daeth siglenni cyrs yn ei lle ac yna’r gors fawn. Mae wyneb y gors heddiw yn dapestri aur a choch o fwsoglau migwyn. Mae’ r rhannau mwyaf gorllewinol wedi ei erydu gan y môr, ond pan fo’r llanw’n isel, mae’n bosib gweld bonion coed wedi marw ar y traeth yn ymyl Borth.
Mae rhywogaethau anghyffredin a phrin yn byw yma megis y gwlithlys, gwrid y gors a’r fursen fach goch.
Ynyslas yw prif bwynt mynediad i’r Warchodfa Natur Genedlaethol.
Mae'r ganolfan ymwelwyr gyda siop fechan yn agor o’r Pasg tan ddiwedd Medi.
Mae llwybr estyllod pren 500 metr o hyd o’r ganolfan ymwelwyr ar draws y twyni i’r traeth ac mae llwybr cregyn o’r ganolfan ymwelwyr i lwybr estyllod ar draws y twyni i’r traeth.
Mae llwybr troed o’r maes carafanau i’r llwybr cregyn lle mae’n ymuno â'r llwybr estyllod.
Mae'r ganolfan ymwelwyr wedi derbyn achrediad Sicrwydd Ansawdd Atyniad i Ymwelwyr gan Croeso Cymru. Dyfernir Nod Sicrwydd Ansawdd Croeso Cymru i atyniadau sydd wedi eu hasesu’n annibynnol yn erbyn safonau cenedlaethol Cynllun Sicrhau Ansawdd Atyniadau Ymwelwyr.
Mae’r cyfleusterau i ymwelwyr yn Ynys-las yn cynnwys:
Dalier sylw:
Cadwch gŵn ar dennyn o fewn y caeau pori o fis Hydref hyd at ddiwedd mis Mawrth. Mae gan yr ardaloedd hyn sydd wedi eu hamgylchynu â ffens giatiau ac arwyddion sy’n dangos fod defaid yn bresennol. Cofiwch gadw cŵn ar dennyn yn yr ardaloedd hyn. Mae pori yn ystod y gaeaf yn helpu i gynnal a chadw’r twyni tywod arbennig sy’n llawn blodau. Cofiwch gadw cŵn dan reolaeth ym mhob rhan a pheidiwch â gadael iddynt redeg ar ôl adar ar hyd llinell y llanw a defnyddiwch y biniau baw cŵn pwrpasol.
Mae cylchdaith gerdded ddwyffordd wedi eu marcio ac yn cychwyn o faes parcio’r traeth yn Ynyslas.
1¼ milltir, 2 gilomedr, hawdd
Ymlwybrwch trwy dwyni, sy’n newid trwy’r amser, ac ar hyd y traeth, gydag arddangosfa ysblennydd o flodau yn y gwanwyn a’r haf, a ffwng lliwgar yn yr Hydref.
2½ milltir, 4 cilomedr, hawdd
Cewch brofi amrywiaeth eang o gynefinoedd gan gynnwys twyni tywod, glan y môr, tir amaeth a morfa heli a golygfeydd godidog o’r aber.
1 milltir, 1.5 cilomedr
Dilynwch y gylchdaith llwybr estyllod pren o amgylch Cors Fochno i gael blas o’i chynefinoedd arbennig.
Edrychwch allan am y newidiadau i’r dirwedd ac i’r bywyd gwyllt yn ystod y flwyddyn.
Darllenwch ymlaen er mwyn gweld beth allwch ei ddarganfod yma yn ystod y gwahanol dymhorau.
Fel mae’r tywydd yn cynhesu, mae blodau’r gwanwyn yn blodeuo yn y twyni a’r hesgen gotwm ar y gyforgors.
Gallwch gael cipolwg ar un o’r niferoedd o ymlusgiaid sy’n byw yma fel y fadfall, madfall y tywod, y neidr ddu a’r neidr fraith. Mae’r wenynen durio wanwynol yn brysur yma yn y gwanwyn hefyd.
Os mai cân yr adar sy’n mynd â’ch bryd yna rydych yn siŵr o fwynhau clywed yr ehedydd, y llinos, y sïff siaff, a thelor yr helyg yn canu. Fin nos gellir clywed gweilch y nos yn canu.
Daw’r gwanwyn ag arddangosfa amrywiol o flodau i’r warchodfa. Gwelir tegeirian rhuddgoch a thegeirian gwenynog ar ddechrau’r haf yn y llaciau twyni (ardaloedd gwlyb y twyni) ac yna’r tegeirian bera. Mae yna hefyd flodau lliwgar yn y morfa heli, clustog Fair, serenllys y morfa, troellig arfor, ac yna ddiwedd yr haf, caldrist y gors.
Llenwir yr awyr â phili palaod a gwyfynod sy’n hedfan yn y dydd, tra bo gwas y Neidr yn saethu o amgylch y gyforgors.
Gallwch hyd yn oed weld y gweilch a’r dyfrgi ar yr aber.
Mae lliwiau’r hydref yn gyfoethog ac amrywiol yn y gyforgors. Mae’n cael ei gwisgo mewn ystod o liwiau rhuddgoch.
Mae ffwng yn cynnwys capiau cwyr, seren y ddaear, coden fwg a ffwng nyth aderyn yn ychwanegu at yr arddangosfa liwgar.
Gellir gweld rhydwyr sy’n ymfudo ar yr aber.
Yn ystod misoedd y gaeaf, mae aber y Ddyfi yn gartref i adar gwyllt y gaeaf, tra ar y traeth, gallwch weld rhydwyr, pibydd y tywod a’r cwtiad aur.
Cadwch eich llygaid ar agor er mwyn gweld yr adar ysglyfaethus dros y gors, yn arbennig y canlynol:
Efallai hyd yn oed y cewch gipolwg ar wyddau Bronwyn Yr Ynys Las: dyma’r unig leoliad trwy Gymru a Lloegr y gallwch eu gweld.
Mae Dyfi yn Warchodfa Natur Genedlaethol.
Mae Gwarchodfeydd Natur Genedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.
Mae dros 70 o warchodfeydd natur cenedlaethol yng Nghymru.
Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Genedlaethol.
Mae maes parcio bychan ar gyfer ymwelwyr anabl wrth ymyl y brif ffordd mynediad i Ynyslas, 30 metr i’r de o’r traeth.
Mae mynediad o faes parcio ymwelwyr anabl ar hyd trac wyneb caled gyda ramp pren addas ar gyfer cadeiriau olwyn ar gyfer Canolfan Ymwelwyr Ynyslas.
Mae rhan o lwybr y twyni yn addas i gadeiriau olwyn: o’r ganolfan ymwelwyr i gyfeiriad y de am 300m hyd at y prif lac twyni; mae rhiwiau graddol ar hyd y rhan hon.
Mae’n bosib cael mynediad i’r toiledau yng Nghanolfan Ymwelwyr Ynyslas (ar agor Pasg tan Medi).
Sylwch:
Darllenwch y wybodaeth ar frig y dudalen hon i ganfod a oes newidiadau i'r amserau agor.
Mae Canolfan Ymwelwyr Ynys-Las yn agored yn ddyddiol o 9am tan 5pm rhwng y Pasg a 22 Medi.
Mae'r toiledau ar agor o 9 am tan 5 pm.
Mae yn Sir Ceredigion.
Prif bwynt mynediad i’r Dyfi: Gwarchodfa Natur Genedlaethol yw Ynyslas, sydd 2km i’r gogledd o Borth ar y B4353.
Cyfeirnod Grid OS yw SN 609 941.
Mae’ r maes parcio ar y traeth llanw sy’n cael ei orchuddio gan ddŵr y môr ar lanw mawr. Sylwch ar amseroedd llanw ar yr arwydd rhybudd sy’n cael ei arddangos yn y fynedfa yn ystod cyfnodau â llanw uchel.
Pris parcio £2.
Mae’r trac at Gors Fochno ar ochr ddeheuol y B4353 dri chilometr o Dre’r-ddôl. Ewch drwy’r gât ar ddechrau’r trac (cofiwch ei chau ar ôl gyrru trwyddi) ac mae’r lle parcio 800 metr ar hyd y trac.
Mae’r llwybr estyllod pren o amgylch y gors yn cychwyn o’r ardal barcio.
Nid oes llawer o leoedd parcio yma, ond mae’r parcio am ddim.
Cyfeirnod grid OS yw SN 636 926.
Lleolir yr orsaf drênau agosaf yn Borth.
Mae gwasanaeth bws o Aberystwyth i Dre’r-ddôl, sy’n mynd trwy Borth ac Ynyslas. Am mwy o wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Ffôn: 01970 872901 (Pasg tan Medi) neu 0300 065 3000 (Mis Hydref tan y Pasg)