Coetir Lloches Ddu, ger Aberystwyth
Ardal bicnic gysgodol a llwybr glan yr afon
Ardal picnic glan yr afon a llwybrau cerdded drwy’r goedwig ddistaw
Mae'r maes parcio a'r ddau lwybr sydd yma ar gau oherwydd gwaith coedwigaeth tan ddiwedd mis Ionawr 2021.
Mae maes parcio bach Grogwynion a’r safle picnic glan yr afon wedi cael eu henwi ar ôl hen gloddfa blwm yng Nghwm Ystwyth.
Cloddiwyd arian, plwm a sinc ers canrifoedd yn y dyffryn serth hwn ac mae olion mwyngloddiau a gweithfeydd diwydiannol eraill yma ac acw ar hyd yr ardal hon.
Mae’r safle picnic mewn llannerch o goed helyg a bedw ger glannau’r Afon Ystwyth ac mae Grogwynion yn fan tawel ar gyfer diwrnod allan gyda’r teulu.
Ceir yna dau lwybr cerdded gydag arwyddbyst yng Nghoetir Ty’n y Bedw sydd ar ochr arall y ffordd i’r maes parcio.
Mae’r llwybrau cerdded yn y coetir cyfagos ac wedi’u cyfeirbwyntio – edrychwch allan am arwyddbyst pren mawr gyferbyn â’r maes parcio sy’n nodi’r man cychwyn.
1 milltir, 1.7 cilomedr, hawdd
Mae’r llwybr byr hwn yn arwain ar hyd ochr cwm Ystwyth, ac mae ganddo rai golygfeydd hyfryd ar hyd llechweddi coedwigol serth.
Mae yno ddringfa fer ar y dechrau, ac mae mainc ar hyd y ffordd y gallwch fwynhau’r golygfeydd ohoni.
3 milltir, 4.6 cilomedr, cymedrol
Mae’r llwybr hirach hwn yn dechrau wrth ddringo trwy goed ffynidwydd enfawr, cyn ymdroelli o amgylch y llechwedd, a chyfnewid rhwng ffyrdd coedwig llydan a llwybrau byr ar hyd nant.
Mae golygfeydd dros gwm Ystwyth, a thros hen weithfeydd plwm.
Mae nifer o ddringfeydd hir, a rhai disgyniadau serth ar hyd y ffordd.
Mae safle picnic Grogwynion 14 milltir i'r de-dwyrain o Aberystwyth.
Mae yn Sir Ceredigion.
Mae'r maes parcio am ddim.
Cymerwch y B4340 o Aberystwyth i Drawsgoed. Dilynwch y ffordd hon drwy Drawsgoed, tan iddi groesi Afon Ystwyth, ac yna trowch i’r chwith yn syth, a dilyn yr afon. Ar ôl mynd heibio’r felin, mae’r maes parcio a’r safle picnic ychydig gannoedd o fetrau ymhellach ar y chwith.
Mae Grogwynion ar fap Arolwg Ordnans (AR) 213.
Cyfeirnod grid yr AO yw SN 694 715.
Yr orsaf drên agosaf yw Aberystwyth.
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Sylwch:
Ffôn: 0300 065 3000
E-bost: ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk