Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cadair Idris, ger Dolgellau
Un o'r mannau harddaf a mwyaf dramatig yng Nghymru
Coedwig dawel yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Mae coedwig enfawr hon yn drysor cudd o lwybrau cerdded a beicio, cyfleoedd ffotograffig a bywyd gwyllt.
Edrychwch ar y golygfeydd godidog ar draws Eryri, cael picnic ger llyn diarffordd Llyn Llywelyn a chlustfeiniwch am sain hen drenau Rheilffordd Ucheldir Cymru, sy’n rhedeg drwy’r goedwig ar eu taith o Gaernarfon i Borthmadog.
Yn ogystal â cherdded a beicio ar ein llwybrau sydd wedi’u cyfeirbwyntio, gallwch hefyd farchogaeth ceffylau ar ein llwybrau ceffylau a ffyrdd goedwig neu redeg ar y rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus.
Mae nodwyr ar y llwybr ac mae’n cychwyn o’r maes parcio.
Dyma lwybr cylchol gyda golygfeydd ar draws Coedwig Beddgelert i Eryri.
Mae’n cychwyn o’r maes parcio ac yn mynd drwy’r coetir i lyn diarffordd prydferth, Llyn Llywelyn.
Mae’r llwybr cylchol byr hwn yn werth yr ymdrech ac mae’r llyn yn le prydferth i gael saib gyda golygfa wych.
Mae’r llwybr hwn yn daith hyfryd o ben gogleddol Coedwig Beddgelert gyda dringfa araf a graddol a golygfeydd cofiadwy i gyfeiriad pen dwyreiniol Parc Cenedlaethol Eryri.
Mae’n mynd heibio i’r llyn ar y ffordd yn ôl i’r maes parcio.
Mae llwybr aml-ddefnydd Lôn Gwyrfai, o Feddgelert i Rhyd-ddu, ym Mharc Cenedlaethol Eryri yn mynd drwy’r goedwig.
Ewch i wefan Parc Cenedlaethol Eryri am fwy gwybodaeth.
Mae Coedwig Beddgelert wedi’i leoli yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri.
Eryri yw’r Parc Cenedlaethol mwyaf yng Nghymru ac mae’n gartref i drefi a phentrefi hardd a’r mynydd uchaf yng Nghymru.
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy’n gofalu amdano.
I gael mwy o wybodaeth am ymweld ag Eryri, ewch i wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Mae Coedwig Beddgelert 2 filltir i'r gogledd o bentref Beddgelert.
Mae yn Sir Gwynedd.
Gellir parcio yng Nghoedwig Beddgelert yn rhad ac am ddim.
Dilynwch ffordd A4085 o Feddgelert i gyfeiriad Caernarfon.
Ar ôl 1 filltir, ewch heibio mynedfa Forest Holidays ac yna trowch i'r chwith nes cyrraedd llwybr.
Dilynwch y llwybr hwn am 1/2 milltir i faes parcio Coedwig Beddgelert.
Mae Coedwig Beddgelert ar fap Arolwg Ordnans (AR) OL 17.
Cyfeirnod grid AO SH 574 503.
Yr orsaf drenau agosaf yw Porthmadog.
Am fwy o fanylion am drafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
0300 065 3000