Coedwig Beddgelert, ger Porthmadog
Coedwig dawel yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri
Safle picnic wrth afon droellog Mawddach a phorth i'r llwybr Rhaeadrau a Gwaith Aur
Mae’r Rhaeadrau a’r Llwybr Mwyngloddiau Aur yn anaddas ar gyfer cadeiriau gwthio a sgwteri symudedd ar hyn o bryd.
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Maes parcio Tyddyn Gwladys yw'r porth i safleoedd enwog Rhaeadr Mawddach a Phistyll Cain.
Mae'r llwbyr cerdded yn mynd heibio i'r rhaeadrau a gwaith aur Gwynfynydd a gaeodd ym 1999.
Yn y maes parcio, ceir byrddau picnic o dan goed mawr wrth ymyl afon droellog Mawddach.
Lawrlwythwch ragor o wybodaeth am Dyddyn Gwladys.
Ceir arwyddbyst ar hyd y llwybr cerdded ac mae'n dechrau o'r maes parcio.
Uchafbwyntiau: Mae’r rhaeadrau eu hunain yn gwneud y daith hon yn werth chweil.
Pellter: 2¼ filltir, 3.6 cilomedr
Gradd: cymedrol
Disgrifiad y llwybr: Dilynwch ffordd y goedwig tua’r gogledd ar hyd afon Mawddach drwy ddyffryn serth â choed mawr o’ch cwmpas, i gyfeiriad y rhaeadrau. Dilynwch yr arwyddbyst ar hyd ochr ddwyreiniol yr afon a chroesi’r bont bren yn ôl i’r maes parcio.
Mae’r llwybr yn dilyn ffyrdd y goedwig bron i gyd, ag un darn o drac preifat garw iawn cyn i chi gyrraedd y rhaeadrau ac un llethr serth ond byr 20%/1 mewn 5 ar ôl eu gadael.
Nid oes grisiau na chamfeydd ac mae’r llwybr yn addas ar gyfer cadeiriau gwthio plant bach a sgwteri symudedd.
Mae ddwy fainc ac ein bwrdd picnic ar hyd y llwybr hwn a dwy giât gyda lleoedd pasio 80cm o led.
Mwy o wybodaeth: cerdyn llwybr a llwybr sain
Sylwch:
Mae maes parcio Tyddyn Gwladys oddi ar yr A470, ger pentref Ganllwyd.
Mae yn Sir Gwynedd.
Cyfeirnod grid yr AO yw SH 734 262.
Mae'r maes parcio am ddim.
Lawrlwythwch fap o’r lleoliad.
O'r de: Cymerwch yr A470 i'r gogledd o Ddolgellau. Ar ôl mynd drwy bentref Ganllwyd, trowch i'r dde ar ôl yr ysgol. Dilynwch y ffordd fach hon dros bont garreg a pharhewch ar hyd y ffordd ar y dde gydag afon Mawddach islaw. Mae maes parcio Tyddyn Gwladys ar y dde ar ddiwedd y ffordd darmac ar ôl tua 1.5 cilomedr (byddwch yn gweld maes parcio Pont Cae'n y Coed ar y ffordd).
O'r gogledd: Cymerwch yr A470 i'r de o Ganolfan Ymwelwyr Parc Coed y Brenin. Ar ôl cyrraedd pentref Ganllwyd trowch i'r chwith yn syth ar ôl yr arwydd terfyn cyflymder 40mya. Dilynwch y ffordd fach hon dros bont garreg a pharhewch ar hyd y ffordd i'r dde gydag afon Mawddach islaw. Mae maes parcio Tyddyn Gwladys ar y dde ar ddiwedd y ffordd darmac ar ôl tua 1.5 cilomedr (byddwch yn gweld maes parcio Pont Cae'n y Coed ar y ffordd).
Mae'r gorsafoedd trên agosaf yn y Bermo (llinell Arfordir Cambria) a Blaenau Ffestiniog (llinell Blaenau Ffestiniog-Llandudno).
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i www.cymraeg.traveline.cymru
Mae Coed y Brenin yn cynnig profiad coetir cyflawn i ymwelwyr ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Ceir amrywiaeth o lwybrau ag arwyddbyst sydd at ddant pawb ac yn addas ar gyfer pob lefel o ffitrwydd ym mharc y goedwig. Yn eu plith mae llwybrau beicio mynydd, llwybrau i'r teulu, llwybrau rhedeg a llwybrau geogelcio a chyfeiriadu o'r radd flaenaf.
Yn ogystal â'r llwybrau cerdded sy'n dechrau yma yn Nhyddyn Gwladys, dyma feysydd parcio gyda chyfleusterau ar gyfer ymwelwyr ym Mharc Coed y Brenin:
Canolfan Ymwelwyr Parc Coed y Brenin
Ffôn: 01341 440747