Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Erddreiniog, Ynys Môn

Beth sydd yma

Croeso

Cors Erddreiniog yw’r fwyaf o dair cors sy’n Warchodfeydd Natur Cenedlaethol Ynys Môn.

Crwydrwch y corsydd a’r rhosydd ac fe ddarganfyddwch amrywiaeth o fywyd gwyllt sy’n anodd ei ganfod unrhyw le arall ym Mhrydain

Mae mwy o gorsydd calchog yng Nghymru nag unman arall yn y DG tu allan i East Anglia.

Mae’r math hwn o wlypdir dan fygythiad ac yn brin iawn –  oherwydd yr amrywiaeth anhygoel o fywyd gwyllt mae’n cynnal, diogelir y gwarchodfeydd hyn gan ystod o ddynodiadau.

Llwybr cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybrau.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Cors a Llyn

  • Gradd: Hawdd
  • Pellter: 3¼ milltir/5.2 cilometr (yna ac yn ôl o'r ffordd yng Nghapel Coch)
  • Amser: 1½ awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: I gyrraedd mynedfa’r warchodfa, rhaid cerdded i lawr trac cul o bentref Capel Coch.Mae’r llwybrau’n gyffredinol heb arwyneb a gallant fynd yn fwdlyd ar ôl tywydd gwlyb.

Mwynhewch golygfeydd y corstir a’r arddangosfa bywyd gwyllt yn y gwanwyn a’r haf.

Gwrandewch am alwadau adar y corsle ar ddechrau’r haf.

Ymweld â Chors Erddreiniog

Er eich diogelwch:

  • dŵr dwfn – cadwch i ffwrdd o ymyl y dŵr a pheidiwch â nofio.
  • llwybrau mwdlyd mewn tywydd gwlyb – gwisgwch esgidiau gyda gafael da.
  • mae’r llwybrau ar hyd y warchodfa’n wastad ar y cyfan ond gall rhan y coetir fynd yn eithaf serth.
  • mae da byw yn pori rhannau o’r teithiau cerdded – peidiwch â mynd atynt na cheisio’u bwydo, cadwch reolaeth ar gwn, symudwch o gwmpas y gyr a chaewch y gatiau ar eich ôl.
  • os gwelwch wiber, peidiwch â mynd ati.
  • bydd adar gwyllt yn cael eu saethu rhwng mis Hydref a mis Chwefror: ufuddhewch i bob arwydd.

Beth sydd i’w weld ar y Warchodfa Natur Genedlaethol

Mae’r planhigion yng Nghors Erddreiniog yn cefnogi ystod o drychfilod, sydd yna’n denu nifer fawr o adar y gwlyptir.

Cynefin ffendir

Glaw yw’r unig ddwr a gaiff corsydd mawnog, tra bod corsydd calchog (a elwir weithiau’n ffen) yn cael eu bwydo gan nentydd a dwr daear hefyd.

Mae dwr o’r creigiau calchfaen sy’n amgylchynu Corsydd Ynys Môn yn llawn mwynau, ac yn creu amodau perffaith ar gyfer amrywiaeth o blanhigion ac anifeiliaid prin.

Llyn oedd gwaelod y dy‑ryn ar un adeg, a gallwch weld ei weddillion o hyd yn Llyn yr Wyth Eidion.

Mawnog ddofn yw’r rhan fwyaf o’r ardal hon erbyn hyn, sy’n cael ei bwydo gan ffrydiau o ddwr calchog.

Creuwyd ffosydd helaeth â llaw dros 100 mlynedd yn ôl er mwyn sychu’r tir ar gyfer pori. Datblygodd amrywiaeth gyfoethog o blanhigion yma hefyd.

Yn ogystal â chors galchog, fe sylwch hefyd ar gynefinoedd amlwg fel rhosydd gwlyb, sy’n ferw o liwiau pan fydd y grug a’r eithin yn eu blodau.

Yn y gwanwyn, fe welwch garped o friallu, blodau’r gwynt, fioledau a thegeirian coch y gwanwyn ar hyd y coetir cyll.

Corsleoedd sy’n wych i adar

Gallwch weld hyd at 150 o rywogaethau adar yma.

Mae’r warchodfa yn llawn bwrlwm yn y gwanwyn a’r haf gyda chân adar fel:

  • telor y cyrs
  • telor yr hesg
  • bras y cyrs
  • troellwr bach
  • clochdar y cerrig

Hwyrach y gwelwch hefyd y gornchwiglen a’r gylfinir, neu hyd yn oed y gïach cyffredin.

Tegeirianau

Tegeirianau yw sêr y gors galchog.

Ac eithrio llond llaw o safleoedd eraill yng ngogledd Cymru, mae Cors Erddreiniog yn unigryw ym Mhrydain am yr amrywiaeth o rywogaethau a geir yma.

Cadwch lygad allan yn arbennig am:

  • tegeirian y gors culddail
  • tegeirian pêr
  • tegeirian llydanwyrdd bach
  • tegeirian y clêr

Cors wych ar gyfer bwystfilod bach

Mae yna falwen droellog fechan fan hyn y gellir ond dod o hyd iddi mewn tri safle ym Mhrydain.

Ceir digonedd o loÿnnod byw, fel y fritheg berlog bach, britheg y gors a’r copor bach.

Y rhai hawsaf i’w gweld yw’r gweision neidr a’r mursennod niferus (mae 20 rhywogaeth wedi'u cyfrif) sy’n hofran ac yn gwibio ar draws y warchodfa.

Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol

Llefydd yw Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol sydd ag enghreifftiau gwych o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearyddol.

Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.

Mae tair o’r corstiroedd ar Ynys Môn wedi cael eu henwi fel Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol:

Darganfod mwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol

Darganfod mwy am Brosiect LIFE Corsydd Môn a Llŷn

Cau a dargyfeirio

Weithiau, rhaid inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er eich diogelwch tra byddwn yn mynd i’r afael â gwaith cynnal a chadw

O dro i dro, efallai y bydd yn rhaid inni gau safle mewn tywydd eithafol, fel gwyntoedd cryfion neu eira a rhew, oherwydd y perygl posibl i ymwelwyr a staff 

Cofiwch ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a welwch ar y safle, a gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro sydd mewn grym

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Cors Erddreiniog 16 milltir i'r gogledd orllewin o Fangor.

Mae yn Sir Fôn.

Map yr Arolwg Ordnans

Mae Cors Erddreiniog o ar fap yr Arolwg Ordnans (OS) Esplorer 263.

Cyfeirnod grid yr OS yw SH 463 819.

Cyfarwyddiadau

Cymerwch yr A4087 o Fangor, parhewch i ymuno â'r A55 tuag at Gaergybi, gan fynd dros Bont Britannia ac i Ynys Môn.

Gadewch yr A55 ar gyffordd 6, gan fynd ar yr A5114 i Langefni.

Dilynwch y B5111 allan o system unffordd Llangefni tuag at Lannerch-y-medd. Ewch ymlaen trwy bentref Rhosmeirch ac ar ôl tua 1 milltir, trowch i'r dde, gan ddilyn arwydd Capel Coch.

Parhewch am 2 filltir arall i bentref Capel Coch.

I gyrraedd mynedfa’r warchodfa, rhaid cerdded i lawr trac cul o bentref Capel Coch.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Mae'r orsaf drên agosaf ym Mangor neu yn Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch (sef stop ar gais).

Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Maes parcio

Nid oes maes parcio wrth y warchodfa, ac mae mynediad ar droed drwy drac cul o bentref Capel Coch.

Prin yw'r llefydd parcio ar ochr y ffordd yng Nghapel Coch - parciwch yn ystyriol.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng Gogledd Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf