Coedwig Beddgelert, ger Porthmadog
Coedwig dawel yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri
Un o'r mannau harddaf a mwyaf dramatig yng Nghymru
Mae’r cyfleusterau canlynol ar gau:
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
O ran ysblander a harddwch gerwin, prin y gall unman guro Cadair Idris, cadwyn syfrdanol o gopaon yn ne Parc Cenedlaethol Eryri.
Y copa uchaf, ac un o fynyddoedd uchaf Cymru, yw Penygadair, ac mae’r golygfeydd o’r copa’n cynnwys y rhan fwyaf o Gymru, o Ben Llŷn yn y gogledd-orllewin i Fannau Brycheiniog yn y de-ddwyrain.
Ffurfiwyd copaon creigiog Cadair Idris gan brosesau folcanig a naddwyd dros nifer o Oesoedd Iâ gan rewlifoedd wrth iddyn nhw falu a chwalu’r creigiau drwy broses rhewi-dadmer.
Mae’r ddaeareg ryfeddol yn cynnal cyfoeth o fywyd gwyllt a phlanhigion arbennig, a dynodwyd rhan helaeth o’r mynydd yn Warchodfa Natur Genedlaethol.
Parcdir hardd wrth droed Cader Idris yw Dôl Idris, a mynedfa hwylus i’r warchodfa.
Roedd y parcdir Dôl Idris ar un adeg yn rhan o ystâd y teulu Idris ac mae llyn a chasgliad o goed egsotig.
Mae llwybr Minffordd i gopa Cadair Idris yn cychwyn ar bwys y ganolfan ymwelwyr.
Ceir pedwar llwybr cerdded byr hefyd.
Os ydych yn teimlo’n egnïol ac yn gwisgo esgidiau addas, gallwch fentro’r llwybr serth i’r warchodfa, er mwyn gwerthfawrogi’r goedwig dderw a’i rhaeadrau byrlymus, gan ddilyn Taith y Ceunant, neu barhau i’r tir agored nes cyrraedd Pont Nant Cadair, a thu hwnt.
Os yw’n well gennych grwydro’n hamddenol ar dir mwy gwastad, neu gael picnic ar lan y llyn, dilynwch ein llwybrau hygyrch.
Mae Llwybr Llyn Dôl Idris a Chylchdaith y Ddôl yn dilyn llwybrau gwastad ag arwyddbyst yn y parcdir. Gellir cyfuno’r ddau lwybr hwn i wneud llwybr hirach.
Mae’r Taith y Ceunant a Pont Nant Cadair yn dringo’n serth o’r ganolfan ymwelwyr ar lwybr Minffordd i fyny i’r Warchodfa Natur Genedlaethol.
⅓ milltir/0.6 cilomedr, hygyrch
Mae’r llwybr cylchol hwn yn dechrau o’r maes parcio ac mae’n mynd yr holl ffordd o gwmpas y llyn yn y parcdir.
Edrychwch am adar fel bronwen y dŵr a’r siglen lwyd, sy’n magu ar lan y llyn, a’r ysgol bysgod ger y bompren, sy’n helpu eogiaid i gyrraedd y nentydd.
Mae meinciau picnic ar hyd y llwybr.
½ milltir/0.8 cilomedr, hygyrch
Mae’r llwybr cylchol hwn ychydig yn hirach ac mae’n mynd drwy’r parcdir i’r ganolfan ymwelwyr.
Chwiliwch am yr adfail ble cynhyrchwyd Dŵr Mwynol a chwrw sinsir Idris am y tro cyntaf.
Mae meinciau picnic ar hyd y llwybr.
460 troedfedd/140m (un ffordd), cymedrol
Mae Taith y Ceunant yn dechrau heibio i’r ganolfan ymwelwyr.
Mae'n dilyn rhan o lwybr Minffordd gyda grisiau serth i’r Fforest Law Geltaidd ac mae golygfeydd ar draws y ceunant.
Mae’n dychwelyd i lawr yr un llwybr.
⅓ milltir/0.6 cilomedr (un ffordd), egnïol
Mae Llwybr Pont Nant Cadair yn dilyn yr un llwybr â Taith y Ceunant ar ran o lwybr Minffordd gyda grisiau serth.
Yna mae’n bwrw ymlaen i lethrau isaf y mynydd agored.
Mae’n dychwelyd i lawr yr un llwybr.
Mae rhwydwaith o lwybrau’n arwain i fyny ac o gwmpas Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cadair Idris, gan gyfarfod ar y copa ym Mhenygadair.
Mae’r llwybrau wedi eu diffinio’n dda gan amlaf ac yn hawdd i’w dilyn ond gall droi’n niwlog yn sydyn iawn a’r cyngor yw cario map a chwmpawd bob amser.
Mae lloches ar ben y Gadair os yw'r tywydd yn troi'n ddrwg.
Hyd yn oed yn yr haf gall y tymheredd ar y copa fod sawl gradd yn is nag yn y maes parcio islaw. Mae cymylau isel yn aml yn gorchuddio’r copa felly gall fod yn llaith ac yn oer.
Mae llwybr yn 6 milltir i’r copa ac yn ôl.
Y llwybr byrraf i fyny Cadair Idris yw’r serthaf hefyd.
Nid oes arwyddbyst ar y ddringfa egnïol iawn hon ac mae’n dechrau heibio i’r ganolfan ymwelwyr ar gyfres hir o risiau caregog a serth iawn.
Dim ond cerddwyr profiadol â dillad ac esgidiau addas, a map, ddylai fentro ar y llwybr hwn.
Mae gan bob llwybr rannau serth sy’n aml yn llithrig, gyda cherrig rhydd a siâl ar y wyneb
Mae gatiau a chamfeydd ar bob llwybr
Cymrwch ofal yn y mannau gwlyb a chorsiog
Gwisgwch esgidiau cerdded da
Ewch â dillad addas gyda chi
Ewch â dŵr a bwyd gyda chi
Mae Canolfan Ymwelwyr Cadair Idris a Thŷ Te Cadair 250 metr o’r maes parcio ar lwybr gwastad.
Mae’r ganolfan ymwelwyr yn cynnwys arddangosfa o fywyd gwyllt, daeareg a'r chwedlau am Warchodfa Natur Genedlaethol Cadair Idris.
Mae’r arddangosfa’n cynnwys:
Cyfoeth Naturiol Cymru sydd piau’r ganolfan ac mae’n cael ei rhedeg mewn partneriaeth â staff Tŷ Te Cadair.
Mae’r ganolfan ymwelwyr a’r ystafell de ar agor yn dymhorol - gweler amseroedd agor yn isod.
Mae'r ganolfan ymwelwyr wedi derbyn achrediad Sicrwydd Ansawdd Atyniad i Ymwelwyr gan Croeso Cymru. Dyfernir Nod Sicrwydd Ansawdd Croeso Cymru i atyniadau sydd wedi eu hasesu’n annibynnol yn erbyn safonau cenedlaethol Cynllun Sicrhau Ansawdd Atyniadau Ymwelwyr.
Yn ôl llên gwerin, cawr oedd Idris; a Chadair Idris oedd lle’r arferai wylio’r sêr.
Tybir mai rwbel o’r adeg pan arferai Idris a’r cewri eraill frwydro a thaflu cerrig at ei gilydd yw’r clogfeini anferth ar lethrau isa’r mynydd.
Yn ôl y sôn os ydych yn ddigon ffodus i fod dal yn fyw ar ôl treulio noson ar y copa, bydd y profiad naill ai’n eich troi’n wallgof neu’n fardd.
Mae’r ffilm am chwedlau Cadair Idris yn ddwyieithog. Mae’r fersiwn Gymraeg yn dod yn gyntaf ac mae’r fersiwn Saesneg yn dilyn ar ôl 7 munud.
Mae Cadair Idris yn Warchodfa Natur Cenedlaethol.
Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.
Mae taith trwy’r Warchodfa fel dringo o ris i ris, o gynefin i gynefin.
O ddyffryn ffrwythlon i gopa creigiog un o fynyddoedd uchaf Cymru.
O ddyffryn Tal-y-llyn, a’i siâp U clasurol, byddwch yn cerdded trwy geunant serth, coediog, i ddyffryn crog a chwm rhewlifol.
Uwchlaw, mae clogwyni Craig Cau a chopa Penygadair, a’u creigiau garw, moel.
Os ydych yn lwcus, efallai y gwelwch hebogiaid tramor yn hela uwchben y clogwyni, neu gael cip ar fwyalchen y mynydd yn yr hafnau creigiog.
Mae tinwennod y garn yn dychwelyd i’r mynydd hefyd, a gellir clywed siff-siaffod a thelorion yr helyg yn canu o amgylch y ganolfan ymwelwyr wrth droed y warchodfa. Mae nifer o blanhigion y goedwig -fel y briallu a blodyn y gwynt- yn blodeuo, a'r blagur yn ysu i agor ar y coed derw.
Yn ystod yr haf mae tri o adar nodweddiadol ein coedydd derw yn dychwelyd: y gwybedog brith, telor y coed a’r tingoch, yn ogystal â gwenoliaid a gwenoliaid y bondo sy’n nythu weithiau dan fondo'r ganolfan ymwelwyr.
Ar y clogwyni yn gynnar yn yr haf, mae’r planhigion arctig-alpaidd ar eu gorau. Nid yw rhai o’r rhain i’w gweld yn unlle arall ymhellach i’r de yng Nghymru.
Mae cornfanadl blewog, sy’n brin yn lleol, yn eu blodau hefyd. Cadair Idris yw ei leoliad mwyaf gogleddol!
Yn nes ymlaen caiff rhai llethrau eu gorchuddio gan rug porffor, gyda fflachiadau o flodau melyn eithin mân i’w gweld yma ac acw. Mae’r corsydd yn disgleirio gyda gwlithlys gludiog, ynghyd â llafn y bladur a thegeirianau brych y rhos, tra mae gweision y neidr yn cadw llygad barcud ar eu plwyf.
Yn y ganolfan ymwelwyr, mae ystlumod pedol lleiaf yn dychwelyd i’w clwydfan yn y to. Caiff lluniau byw o’r ystlumod prin yma eu dangos yn yr arddangosfa, a gwelir hwy'n magu eu rhai bach yn ystod mis Gorffennaf.
Mae canopi trwchus y goedwig law Geltaidd yn gwisgo’i liwiau tymhorol trawiadol ac mae toreth o ffyngau’n ymddangos ar lawr y goedwig.
Wrth i'r glaw chwyddo Nant Cadair mae'r lleithder yn cynyddu yn y ceunant dan gysgod y coed gan gynnig amodau delfrydol i amrywiaeth o fwsoglau a llysiau’r afu hynod brin.
Gyda llai o ymwelwyr ar y mynydd, mae’n gyfle da i archwilio’r Warchodfa Natur Genedlaethol.
Chwiliwch am flodau cain y clychlys dail eiddew a’r teim gwyllt. O dro i dro mae brain coesgoch yn ymweld â’r llethrau glaswelltog i chwilio am bryetach gyda’u pigau crwm coch trawiadol.
Mae rhai glöynnod byw fel y mantell paun, yn dal i fentro allan ar ddiwrnodau braf, ynghyd ag ambell gacynen lus Bombus monticola, sy'n rywogaeth mynyddig gweddol brin, efo pen ôl coch llachar!
Mae’r gaeaf yn amser da i werthfawrogi daeareg drawiadol Cadair Idris.
Mae Cwm Cau yn nodweddiadol o’r hyn a ddigwyddodd yn ystod yr oes iâ diwethaf. Mae Llyn Cau - un o lynnoedd naturiol dyfnaf Cymru - wedi'i amgylchynu bron, gyda chlogwyni serth, mil o droedfeddi o uchder mewn un man.
Dywedir ei fod yn ddiwaelod a bod anghenfil yn llechu ynddo’n rhywle! Efallai na welwch chi byth mo’r creadur dirgel hwn, ond os byddwch yn lwcus iawn efallai y gwelwch garlwm yn ei gôt aeaf wen yn hela’i brae ynghanol y sgri.
Mewn mannau eraill ar y Warchodfa, gallwch weld cliwiau eraill yn ymwneud â gorffennol daearegol y safle, fel lafa clustog ac wynebau creigiau llyfn, wedi’u herydu gan y llif rhew araf ei symudiad.
Mae’r cyfleusterau’n cynnwys:
Darllenwch y wybodaeth ar frig y dudalen hon i ganfod a oes newidiadau i'r amserau agor.
Y ganolfan ymwelwyr
Mae’r ganolfan ymwelwyr a’r ystafell de ar agor yn dymhorol.
Mae’r ganolfan ymwelwyr a’r ystafell de ar agor rhwng 10yb a 5yp yn ystod gwyliau ysgol a phenwythnosau o’r Pasg i fis Medi. I gael rhagor o wybodaeth, gweler y manylion yn lleol.
Gellir hefyd trefnu ymlaen llaw i agor y ganolfan ymwelwyr ar gyfer grwpiau addysg, clybiau a chymdeithasau. Cofiwch gysylltu â rheolwr y warchodfa drwy’r manylion cyswllt isod.
Toiledau
Mae’r toiledau yn y ganolfan ymwelwyr ar agor pan fydd y ganolfan ar agor.
Mae’r toiledau yn y maes parcio’n cael eu rhedeg gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac ar agor bob dydd (nid 24 awr).
Sylwch:
Mae Cadair Idris 10 milltir i’r de o Ddolgellau.
Mae yn Sir Gwynedd.
Mae’r prif fynediad i Warchodfa Natur Genedalethol Cadair Idris drwy faes parcio Dôl Idris sydd rhwng Dolgellau a Machynlleth oddi ar yr A487.
Lawrlwythwch fap o’r lleoliad.
Ewch ar yr A487 o Ddolgellau i Fachynlleth a throwch i’r dde ar y B4405. Mae mynedfa maes parcio Dôl Idris ar y dde yn syth.
Mae’r maes parcio’n cael ei redeg gan Barc Cenedlaethol Eryri a rhaid talu am barcio.
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cadair Idris a Chanolfan Ymwelwyr ar fap Arolwg Ordnans (AR) OL 23.
Y cyfeirnod grid OS yw SH 732 115.
Mae’r orsaf drên agosaf yn Nhywyn.
Mae bysus rhifau 30, 32 a 34 [Dolgellau-Tywyn-Machynlleth] yn rhedeg ar yr A487 ac yn stopio wrth y gyffordd â’r B4405. Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.