Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coedydd Maentwrog, ger Porthmadog

Beth sydd yma

Fe wnaeth y gwyntoedd cryfion diweddar effeithio'n sylweddol ar ein safleoedd.

 

Rydym yn parhau i asesu'r difrod, ond bydd hyn yn cymryd peth amser.

 

Efallai y byddwn yn cau'r maes parcio a chyfleusterau eraill ar fyr rybudd wrth i ni wneud gwaith adfer.

 

Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan arwyddion neu staff lleol, gan gynnwys lle mae llwybrau wedi eu dargyfeirio neu eu cau, a byddwch yn wyliadwrus o'r perygl o goed neu ganghennau sy’n cwympo.

Croeso

Coetir derw Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coedydd Maentwrog yw’r hyn sy’n weddill o goedwig law Geltaidd enfawr a ymestynai ar hyd ochr orllewinol Prydain ac Iwerddon ar un adeg.

Mae'r glawiad uchel a'r chwistrell o'i nentydd byrlymus serth yn cynnal amgylchedd llaith sydd bron yn barhaol o dan y canopi coed, gan gefnogi coedwig law dymherus brin.

Mae llawer o'r mwsoglau, llysiau'r afu a'r cennau ar foncyffion y coed a’r creigiau'n goroesi mewn ardaloedd llaith yn unig – mae rhai mor brin nes eu bod o bwysigrwydd rhyngwladol.

Mae'r coetir hefyd yn lle gwych i bryfed sy'n darparu bwyd i'r ystlumod sy'n clwydo ac yn bridio yma, gan gynnwys yr ystlum pedol lleiaf prin

Gallwch ddilyn llwybr cylchol drwy’r coetir o faes parcio Coed Llyn Mair neu gerdded i Orsaf Tan y Bwlch ar Reilffordd Ffestiniog.

Mae ardal bicnic ar lan y llyn gyferbyn â’r maes parcio sy’n fan cychwyn ar gyfer llwybrau cerdded a beicio hirach a reolir gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

""

Llwybrau cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Gorsaf Gyswllt

  • Gradd: Hawdd
  • Pellter: 0.4 milltir/0.6 kilometres yno ac yn ôl
  • Amser: 30 muned
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae wyneb y llwybr o’r faes parcio i orsaf Tan y Bwlch ar ochr orllewinol yr afon yn llydan a chadarn a cheir rhigolau dŵr o bryd i’w gilydd a rhes fechan o risiau. Ceir mannau gorffwys bob 100m a byrddau picnic ar ben y bryn. Mae’r llwybr o orsaf Tan y Bwlch i’r faes parcio ar ochr ddwyreiniol yr afon yn serth ac anwastad – os ydych yn ansicr, ewch ar hyd yr un llwybr i faes parcio ar ochr orllewinol yr afon.

Dilynwch yr arwyddion glas a dringo'n raddol drwy'r coetiroedd derw hyd at orsaf reilffordd Tan-y-Bwlch.

Mae'r orsaf hon ar Reilffordd Ffestiniog ac mae ganddi gaffi gyda thoiledau.

""

Llwybr Coed Llyn Mair

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter:  0.4 miles/0.6 kilometres
  • Amser: 30-45 muned
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae wyneb y llwybr yn naturiol gyda chreigiau a gwreiddiau amlwg, a sawl cyfres o risia.

Dilynwch yr arwyddion coch wrth i'r llwybr ddringo drwy'r coed, a chwiliwch am y cerfluniau bach a mawr ar y ffordd.

Yna, mae'r llwybr yn arwain i lawr ar hyd ochr y ceunant a cheir golygfeydd o'r nant islaw.

""

Beth sydd i’w weld ar y Warchodfa Natur Genedlaethol

Mae Coedydd Maentwrog yn Warchodfa Natur Genedlaethol.

Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.

Mae’r tirlun a’r bywyd gwyllt yn amrywio yn ôl yr adeg o’r flwyddyn – cadwch olwg am y rhain.

Mwsogl, llysiau’r afu a chennau

Safwch ger y ceunant, lle mae canopi’r coed yn fwy trwchus ac mae ewyn dŵr yn codi’n ddi-baid o’r nant, ac fe deimlwch ar unwaith ei bod yn fwy llaith yno.

Mae hyn yn creu amodau perffaith ar gyfer 200 o rywogaethau o fwsogl a llysiau’r afu a 120 o rywogaethau o gen, gan gynnwys cen ysblennydd llysiau’r ysgyfaint sy’n tyfu ar goed aeddfed.

Gwyfynod, ystlumod ac adar

Mae’r goedwig hefyd yn gartref gwych i bryfed, a 286 o wahanol fathau o wyfynod bychain yn unig.

Ceir digonedd o fwyd felly i’r ystlumod amrywiol sy’n byw yma.

Ar nosweithiau cynnes o haf, os byddwch yn lwcus, efallai y gwelwch yr ystlum pedol lleiaf prin, yn hela’n uchel ym mrigau’r goedwig.

Yn yr haf, efallai y byddwch yn ddigon bodlon yn eistedd yn un o’r llennyrch llonydd yn aros i’r tingochiaid, y gwybedogion brith a theloriaid y coed gyrraedd – y mudwyr haf sy’n nodweddiadol o "goed derw ucheldirol".

Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru

Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.

Coedydd Derw Meirionnydd

Mae Coedydd Maentwrog yn un o’r chwech o Goedydd Derw Meirionnydd mawr sydd wedi'u gwarchod fel Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol.

Mae'r coedydd derw hyn yr un mor bwysig yn fyd-eang ac yr un mor fregus â rhai coedwigoedd glaw trofannol ac maent yn weddillion 'coed gwyllt' Atlantig helaeth a oedd ar un adeg yn ymestyn i lawr ochr orllewinol Prydain ac Iwerddon.

Gellir ymweld â dau o Goedydd Derw eraill Meirionnydd yn ofalus:

Mae llystyfiant trwchus a mynediad serth yn golygu nad yw'r Coedydd Derw eraill (Coed Camlyn, Coed Cymerau, a Choed y Rhygen) yn addas ar gyfer ymwelwyr.

Parc Cenedlaethol Eryri

Mae Coedydd Maentwrog wedi’i leoli ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Eryri yw’r Parc Cenedlaethol mwyaf yng Nghymru ac mae’n gartref i drefi a phentrefi hardd a’r mynydd uchaf yng Nghymru.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy’n gofalu amdano.

I gael mwy o wybodaeth am ymweld ag Eryri, ewch i wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Sylwer:

  • Rheilffordd gul a threnau aml – peidiwch byth â cherdded ar y cledrau.
  • Llethrau, clogwyni a chreigiau serth – gwisgwch esgidiau priodol, cadwch at y llwybrau a chymerwch ofal.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Trefnu digwyddiad ar ein tir

Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.

Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.

Sut i gyrraedd yma

Mae Coedydd Maentwrog 7 milltir i'r gogledd ddwyrain o Borthmadog.

Cod post

Y cod post yw LL41 3AQ.

Sylwer: efallai na fydd y cod post hwn yn eich arwain at y maes parcio os byddwch yn defnyddio sat nav neu ap llywio.

Rydym yn awgrymu eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau isod neu’n defnyddio’r Google map ar y dudalen hon lle ceir pin ar safle’r maes parcio.

Cyfarwyddiadau

Cymerwch yr A487 o Borthmadog i Faentwrog.

Trowch i'r chwith i ddilyn y B4410 wrth dafarn yr Oakeley Arms ac, ar ôl tua 500 m, mae'r maes parcio ar y dde.

What3Words

Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.

Arolwg Ordnans

Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer maes parcio Coed Llyn Mair yw SH 652 413 (Explorer Map OL 18).

Cludiant cyhoeddus

Y prif orsaf reilffordd agosaf yw Penrhyndeudraeth.

Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.

Parcio

Mae’r maes parcio yn rhad ac am ddim.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng Gogledd Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf