Parc Coedwig Gwydir - Llyn Sarnau, ger Llanrwst

Beth sydd yma

Croeso

Mae Llyn Sarnau yn fan hyfryd i fwynhau picnic wrth un o'r byrddau o amgylch y maes parcio.

Mae'r llyn yn weddol bas ac felly mae'n aml yn sychu allan yn ystod yr haf - er nad yw'n ddeniadol iawn efallai mewn tywydd brafiach, mae'n gartref pwysig i fywyd gwyllt sy'n hoff o wlyptiroedd.

Darganfod golygfeydd o fynyddoedd a dyffrynnoedd hardd, llynnoedd trawiadol a hen fwyngloddiau plwm segur ar y llwybr cerdded.

Llwybr cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr y Llynnoedd

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 2.6 milltir/4.2 cilomedr
  • Amser: 1-2½ awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae’r rhan fwyaf o’r llwybr hwn ar ffyrdd coedwig wedi’u cysylltu gan lwybrau cul garw o lai na 50 cm o led mewn mannau, sy’n arw ac anwastad dan droed, a gallwch ddisgwyl mwd, creigiaua gwreiddiau coed. Mae tair mainc ar y llwybr, a bwrdd picnic yn y maes parcio sy’n addas i gadair olwyn.

Gadewch y maes parcio a phwyllwch i werthfawrogi’r olygfa o’r meinciau.

Byddwch yn cyrraedd llwybr sy’n mynd o gwmpas, wedyn i lawr canol llyn bychan.

Troellwch drwy hen Fwynglawdd Uchel Hafna, a oedd yn ferw o ddiwydiant ar un adeg, yna parhewch ar hyd llwybr tonnog drwy’r goedwig, gan gynnwys golygfan ar ben ymyl clogwyn.

Gwybodaeth hygyrchedd

Mae’r cyfleusterau yn Llyn Sarnau ar gyfer ymwelwyr ag anableddau yn cynnwys:

  • lleoedd parcio ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas
  • llwybrau yn arwain o’r lleoedd parcio ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas i’r byrddau picnic hygyrch, ar gyfer cadeiriau olwyn. Ceir golygfeydd hyfryd o’r byrddau picnic hygyrch

Parc Coedwig Gwydir

Mae Llyn Sarnau ym Mharc Coedwig Gwydir.

Lleolir Parc Coedwig Gwydir yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri ac mae'n amgylchynu pentref Betws-y-coed.

Gwaith cloddio plwm a sinc oedd prif nodwedd yr ardal ac mae gwaddol hen dai peiriant, tomenni sbwriel a chronfeydd dŵr yn nodweddiadol o'r goedwig a geir heddiw.

Mae sawl un o'r mwyngloddiau pwysicaf wedi cael eu hadfer yn rhannol a'u gwneud yn ddiogel i ymwelwyr.

Mae llwybrau ag arwyddbyst yn dechrau o Fetws-y-coed a sawl feysydd parcio eraill Cyfoeth Naturiol Cymru:

  • Betws-y-coed - llwybrau cerdded heddychlon drwy'r goedwig ymhell o fwrlwm twristiaid
  • Cae'n y Coed - ardal bicnic hawdd dod o hyd iddi a llwybr cerdded gyda golygfeydd panoramig o'r mynyddoedd
  • Mwynglawdd Cyffty - llwybr byr trwy rai o hen waith plwm
  • Dolwyddelan - llwybr cerdded ar hyd ffordd Rufeinig a llwybr beicio gyda golygfeydd o'r mynyddoedd cyfagos
  • Hafna - llwybr cerdded drwy adfeilion hen waith plwm a llwybr beicio mynydd gradd coch
  • Llyn Crafnant - llwybrau cerdded o amgylch y llyn a llwybr hygyrch ar hyd glan yr afon
  • Llyn Geirionydd - ardal picnic gyda llwybr cerdded heibio i ddau lyn prydferth
  • Penmachno - llwybrau beicio mynydd anghysbell gyda golygfeydd ysblennydd
  • Mainc Lifio - dau lwybr beicio mynydd gradd coch a llwybr cerdded hanesyddol
  • Ty’n Llwyn – llwybr cerdded i raeadr enwog Ewynnol

Coedwig Genedlaethol Cymru

Mae Parc Coedwig Gwydir yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:

  • creu ardaloedd o goetir newydd
  • gwella coetiroedd presennol
  • adfer coetiroedd hynafol unigryw Cymru

Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Llyn Sarnau ddwy filltir i'r gorllewin o Lanrwst.

Mae yn Sir Conwy.

Map Arolwg Ordnans

Mae Llyn Sarnau ar fap Arolwg Ordnans (AR) OL 17.

Cyfeirnod grid yr AO yw SH 778 592.

Cyfarwyddiadau

Cymerwch y B5106 o Lanrwst tuag at Fetws-y-coed.

Ar ôl troi i’r chwith wrth yr arwydd brown a gwyn ar gyfer Castell Gwydir, trowch i’r dde yn syth ar is-ffordd.

Ewch heibio i’r meysydd parcio ar gyfer Mainc Lifio ac Hafna a bydd maes parcio Llyn Sarnau ar y chwith.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Llanrwst.

Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Parcio

Mae parcio’n ddi-dâl.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng Gogledd Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf