Parc Coedwig Gwydir - Llyn Geirionydd, ger Llanrwst

Beth sydd yma

Croeso

Mae Llyn Geirionydd yn lle poblogaidd i gael picnic ar lan y dŵr.

Gallwch ddilyn y llwybr cerdded cylchol sydd wedi’i arwyddo o Lyn Geirionydd drwy’r goedwig hyd at Lyn Crafnant gerllaw – a mwynhau golygfeydd o’r llynnoedd a’r mynyddoedd ar y ffordd.

Llyn Geirionydd, yn ôl pob sôn, oedd cartref y bardd o’r 6ed ganrif, Taliesin, a saif cofeb iddo ar y lan ogleddol.

Yn y 1870au, roedd hon yn dirwedd ddiwydiannol ddiffaith - yn wir, mae'r maes parcio ar domen sbwriel ger mynedfa hen waith plwm.

Llwybr cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Geirionydd i Grafnant

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 4.6 milltir/7.4 cilomedr
  • Dringo: 300 metr
  • Amser: 2-3 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae’r llwybr ar gyfuniad o ffyrdd coedwig, ffordd darmac, a llwybr troed cul serth, yn llai nag 80cm o led mewn rhai mannau, sy’n arw ac anwastad dan droed, a gallwch ddisgwyl llaid mwd, creigiau a gwreiddiau coed. Mae dwy ryd fechan i’w croesi a giât mochyn yn union cyn ichi gwrdd â ffordd y cyngor. Mae hefyd dau rwystr coedwig y bydd angen ichi gerdded o’u hamgylch gyda bwlch o ryw 70 cm ar yr ochr. Mae meinciau picnic a thoiledau yn y ddau faes parcio, ac un fainc yn yr olygfan uwchlaw Crafnant.

Mae’r gylchdaith hon yn mynd drwy’r goedwig ac yn cysylltu’r ddau lyn.

Dilynwch y llwybr heibio pen deheuol Llyn Geirionydd nes bod y llwybr yn culhau ac yn eich taflu i gysgod a brith olau coed llarwydd tal.

Disgynnwch yn serth drwy blanhigfa byrwydd ddistaw gysgodol ac yna heibio coed ynn a drain gwynion yn drwm o fwsogl a chen, sy’n arwydd o’r awyr iach yma.

Parhewch ar ffordd darmac heibio i Lyn Crafnant a ffordd goedwig, gan ddringo i olygfan, yna disgynnwch yn ôl i Lyn Geirionydd.

Parc Coedwig Gwydir

Mae Llyn Geirionydd ym Mharc Coedwig Gwydir.

Lleolir Parc Coedwig Gwydir yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri ac mae'n amgylchynu pentref Betws-y-coed.

Gwaith cloddio plwm a sinc oedd prif nodwedd yr ardal ac mae gwaddol hen dai peiriant, tomenni sbwriel a chronfeydd dŵr yn nodweddiadol o'r goedwig a geir heddiw.

Mae sawl un o'r mwyngloddiau pwysicaf wedi cael eu hadfer yn rhannol a'u gwneud yn ddiogel i ymwelwyr.

Mae llwybrau ag arwyddbyst yn dechrau o Fetws-y-coed a sawl feysydd parcio eraill Cyfoeth Naturiol Cymru:

  • Betws-y-coed - llwybrau cerdded heddychlon drwy'r goedwig ymhell o fwrlwm twristiaid
  • Cae'n y Coed - ardal bicnic hawdd dod o hyd iddi a llwybr cerdded gyda golygfeydd panoramig o'r mynyddoedd
  • Mwynglawdd Cyffty - llwybr byr trwy rai o hen waith plwm
  • Dolwyddelan - llwybr cerdded ar hyd ffordd Rufeinig a llwybr beicio gyda golygfeydd o'r mynyddoedd cyfagos
  • Hafna - llwybr cerdded drwy adfeilion hen waith plwm a llwybr beicio mynydd gradd coch
  • Llyn Crafnant - llwybrau cerdded o amgylch y llyn a llwybr hygyrch ar hyd glan yr afon
  • Llyn Sarnau - safle picnic â llwybr cerdded i ddau lyn trawiadol
  • Penmachno - llwybrau beicio mynydd anghysbell gyda golygfeydd ysblennydd
  • Mainc Lifio - dau lwybr beicio mynydd gradd coch a llwybr cerdded hanesyddol
  • Ty’n Llwyn – llwybr cerdded i raeadr enwog Ewynnol

Coedwig Genedlaethol Cymru

Mae Parc Coedwig Gwydir yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:

  • creu ardaloedd o goetir newydd
  • gwella coetiroedd presennol
  • adfer coetiroedd hynafol unigryw Cymru

Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Gwybodaeth diogelwch dŵr

Mae Llyn Geirionydd yn 12 metr o ddyfnder a gall y dŵr fod yn oer iawn.

Nid oes staff ar y safle.

Mae signal ffonau symudol yn wael.

Nofio a gweithgareddau hamdden di-fodur

Caniateir nofio a rhai gweithgareddau hamdden di-fodur ar Lyn Geirionydd o faes parcio Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae rhai cyfyngiadau ac mae pen gogleddol y llyn yn eiddo preifat.

Dylai defnyddwyr y llyn osgoi'r ardal sgïo dŵr, neu aros yn agos at y lan ym mhen pellaf y llyn, pan ddefnyddir cychod sgïo - gweler y panel gwybodaeth diogelwch dŵr ar y safle ac yn yr adran lawrlwythiadau ar waelod y dudalen hon.

Sylwer:

  • Dilynwch y cyngor diogelwch ar gyfer y gweithgaredd ydych chi wedi’i ddewis a defnyddiwch gymhorthion hynofedd neu fflotiau tynnu.
  • Cadwch blant dan oruchwyliaeth bob amser.
  • Parchwch ddefnyddwyr eraill.
  • Byddwch yn ymwybodol o'r peryglon ar y safle - gweler y panel gwybodaeth diogelwch dŵr ar y safle ac yn yr adran lawrlwythiadau ar waelod y dudalen hon.

Sgïo dŵr

Caniateir sgïo dŵr ar Lyn Geirionydd trwy drwydded yn unig.

Rheolir y trwyddedau gan Glwb Sgïo Dŵr Llyn Geirionydd.

Mae'r clwb sgïo dŵr yn gofyn i ddefnyddwyr y llyn osgoi'r ardal sgïo dŵr, neu aros yn agos at lan bellaf y llyn, pan fydd cychod sgïo yn cael eu defnyddio.

Sylwer:

  • Mae’r lanfa lansio cychod yn eiddo preifat ac yn perthyn i Glwb Sgïo Dŵr Llyn Geirionydd.
  • Nid oes mynediad i gerbyd neu drelar i ardal glan y llyn.
  • Dim ond canolfannau awyr agored sydd wedi cael caniatâd sy’n cael defnyddio’r lanfa lansio ger y maes parcio.

Rhagor o wybodaeth

Gweler y panel gwybodaeth diogelwch dŵr ar y safle ac yn yr adran lawrlwythiadau ar waelod y dudalen hon.

Er mwyn cael cyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i ymweld â'n lleoedd yn ddiogel ewch i Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Oriau agor

Darllenwch y wybodaeth ar frig y dudalen hon i ganfod a oes newidiadau i'r amserau agor.

Mae’r toiledau yn agored rhwng 9am a 7pm drwy’r flwyddyn.

Byddant yn cael eu cloi dros nos.

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Llyn Geirionydd 4 milltir i'r gorllewin o Lanrwst.

Mae yn Sir Conwy.

Map Arolwg Ordnans

Mae Llyn Geirionydd ar fap Arolwg Ordnans (AO) Explorer OL17.

Cyfeirnod grid yr AO yw SH 763 604.

Cyfarwyddiadau

Cymerwch y B5106 o Lanrwst tuag at Fetws-y-coed.

Ar ôl troi i’r chwith wrth yr arwydd brown a gwyn ar gyfer Castell Gwydir, trowch i’r dde yn syth ar is-ffordd.

Ewch heibio i nifer o feysydd parcio Cyfoeth Naturiol Cymru a throwch i’r dde wrth yr arwyddbost ar gyfer Llyn Geirionydd.

Dilynwch y ffordd hon i’r maes parcio.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Yr prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Llanrwst.

Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Maes parcio

Mae parcio’n ddi-dâl.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng Gogledd Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf