Y Bwa, ger Aberystwyth
Llwybrau cerdded trwy goed ffawydd enfawr gyda...
Safle picnic dymunol gyda llwybrau drwy’r goedwig a llwybrau rhedeg.
Lleolir Foel Friog ymysg tirwedd ryfeddol Coedwig Dyfi, ger pentref Aberllefenni, ac mae’n hawdd dod o hyd iddo o’r A487.
Mae’r safle picnic deniadol ger yr afon, a cheir llwybr cerdded cylchol ag arwyddbyst i gopa Pen y Bryn.
Yn ystod diwedd y ddeunawfed ganrif, cyflogwyd llawer iawn o bobl leol yn y chwareli llechi, ond pan ddechreuodd y
chwareli gau yn yr 20fed ganrif, plannwyd y bryniau gan y Comisiwn Coedwigaeth.
Mae’r coed wedi trawsnewid y wlad, ond os craffwch chi, fe allwch chi weld adfeilion adeiladau’r chwarel.
Mae gan y llwybr cerdded arwyddbyst ac mae’n cychwyn o faes parcio Foel Friog.
2 filltir/3.2 cilomedr, anodd
Mae Llwybr Pen y Bryn yn mynd i fyny llwybr serth drwy’r coed cyn ymuno â thrac y goedwig.
Mae’n pasio heibio i adfeilion tai ffermydd ac olion chwareli, gan gynnig golygfeydd ardderchog.
Mae’n disgyn drwy goedwig dderw hynafol, ac yn dychwelyd i’r maes parcio ar hyd llwybr ceffyl drwy’r dyffryn.
Mae Foel Friog yng Nghoedwig Dyfi.
Mae Coedwig Dyfi’n gorwedd yn bennaf i’r gogledd o Afon Dyfi rhwng tref Dolgellau i’r gogledd a Machynlleth i’r de.
Mae copaon ysgithrog yn codi’n uchel dros y llechweddau coediog gyda hen adfeilion a thomenni gwastraff llechi yma ac acw.
Gwelir trenau stêm yn pwffian ar hyd y llethrau, bellach yn cludo ymwelwyr ond yn wreiddiol byddent wedi cludo llechi o’r chwareli i’r arfordir.
Yn ogystal â Foel Friog mae llwybrau ag arwyddbyst yn Nant Gwernol a Tan y Coed.
Mae Coedwig Dyfi yn ffurfio rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:
Ymhen amser bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cysylltiedig a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru ac yn dod â buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
I gael rhagor o wybodaeth am Goedwig Genedlaethol Cymru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
Sylwch:
Mae Foel Friog ar hyd ffordd fach gul gydag arwyddion am Aberllefenni oddi ar yr A487 rhwng Dolgellau a Machynlleth.
Mae'r safle hon yn ymestyn ar draws ffiniau sirol Sir Gwynedd a Sir Powys.
Mae Foel Friog ar fap 215 yr Arolwg Ordnans (OS).
Cyfeirnod grid yr OS yw SH 769 092.
Cymrwch yr A487 i gyfeiriad Machynlleth ac, ychydig ar ôl Canolfan Grefft Corris, trowch yn siarp i’r chwith wrth yr arwydd am Aberllefenni. Mae safle picnic Foel Friog ddwy filltir i lawr y ffordd hon ar y chwith, ac yn syth cyn cyrraedd yr arwydd am bentref Aberllefenni.
Cymrwch yr A487 i gyfeiriad Dolgellau ac, gyferbyn â thafarn Braich Goch, trowch i’r dde wrth yr arwydd am Aberllefenni. Mae safle picnic Foel Friog ddwy filltir i lawr y ffordd hon ar y dde, ac yn syth cyn cyrraedd yr arwydd am bentref Aberllefenni.
Mae'r orsaf drên agosaf ym Machynlleth.Ni chaniateir parcio dros nos.
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Gallwch barcio yno am ddim.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Ffôn: 0300 065 3000