Coedwig Dyfi - Tan y Coed, ger Machynlleth

Beth sydd yma

Croeso

Mae Tan y Coed yn goetir hawdd dod o hyd iddo, wedi’i leoli’n syth oddi ar yr A487.

Mae yn fan cychwyn ar gyfer taith cerdded i raeadr a llwybr darganfod anifeiliaid i blant.

Dechreuodd y Comisiwn Coedwigaeth blannu'r coed yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf ar ôl i’r rhyfel ddisbyddu holl goed Prydain.

Parhaodd y plannu drwy’r Ail Ryfel Byd gyda Merched Byddin y Tir, a elwid yn “Timber Jills”, yn plannu’r coed.

Mae safle picnic gyda byrddau yng nghysgod coed anferth mewn ardal eang o laswellt yn y maes parcio.

""

Llwybrau cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Darganfod Anifeiliaid

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 1 milltir/1.8 cilomedr
  • Amser: 1 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Dilynwch yr arwyddbyst coch trwy gonwydd a ffawydd hardd cyn disgyn i lawr i lan yr afon ar lwybrau cul, llai na 80cm o led mewn mannau ar arwyneb anwastad, garw, ble gallwch ddisgwyl gweld mwd, creigiau a gwreiddiau coed. Mae sawl set o risiau a 2 fainc a 2 bwrdd picnic lle cewch gymryd seibiant.

Byddwch yn dditectif natur ar y llwybr arbennig hwn i blant.

Cymerwch daflen wybodaeth o’r dosbarthwr y tu allan i’r toiledau neu lawrlwythwch gopi ar waelod y dudalen hon.

Yna cychwynnwch drwy’r coetir a chanfod atebion i’r cliwiau i ganfod yr anifeiliaid cudd yn y coed.

Mae’r llwybr hwn yn defnyddio rhai o’r un llwybrau â Llwybr Tan y Coed ac yn mynd heibio’r rhaeadr a thrwy’r llwybr cul drwy’r graig.

""

Llwybr Tan y Coed

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 1½ milltir/2.3 cilomedr
  • Amser: 1½ awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Dilynwch yr arwyddbyst gwyrdd ar y llwybr igam-ogam drwy’r goedwig sydd yn aml yn serth ac yn llai na 80cm o led mewn mannau, ar arwyneb garw, anwastad, ble gallwch ddisgwyl gweld mwd, creigiau a gwreiddiau coed.

Cychwynnwch drwy’r coed ar y llwybr hwyaf o’r ddau lwybr drwy’r coetir.

Mae’r llwybr yn eich arwain at y rhaeadr ac yn dilyn yr afon.

Yna gwasgwch drwy’r llwybr cul yn y graig a mwynhewch olygfeydd draw dros Goedwig Dyfi ar eich ffordd yn ôl i’r maes parcio.

""

Gwybodaeth am hygyrchedd

  • lleoedd parcio ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas
  • toiledau hygyrch
  • mainc bicnic hygyrch

Coedwig Dyfi

Mae Tan y Coed wedi’i leoli yng Nghoedwig Dyfi.

Mae Coedwig Dyfi rhwng tref Machynlleth a Dolgellau a gorwedd yng nghysgod Cadair Idris.

Mae’r coetiroedd yn glynu wrth lethrau serth cadwyni o fynyddoedd Tarren a Dyfi gydag afonydd Dysynni, Dulas a Dyfi yn torri trwyddynt wrth anelu tua’r gorllewin i’r môr gerllaw.

Arferai’r ardal gyfan fod yn frith o fwyngloddiau llechi llwyddiannus, yn cyflogi cannoedd o bobl.

Roedd llechi gorenedig yn cael eu cludo i’r arfordir trwy system o dramyrdd a threnau stêm i’w hallforio.

Mae’r trenau sy’n weddill bellach yn cludo ymwelwyr ar draws yr ardal wledig.

Llywbrau cerdded eraill yng Nghoedwig Dyfi

Rhowch gynnig ar ein llwybrau ag arwyddbyst am flas o hanes a diwylliant yr ardal a chewch weld yr afonydd yn rhaeadru a’r coed mawreddog.

Yn ogystal â Tan y Coed, mae llwybrau cerdded yng nghoetiroedd eraill Cyfoeth Naturiol Cymru yng Nghoedwig Dyfi:

Parc Cenedlaethol Eryri

Mae Coedwig Dyfi wedi’i leoli yn Parc Cenedlaethol Eryri.

Eryri yw’r Parc Cenedlaethol mwyaf yng Nghymru ac mae’n gartref i drefi a phentrefi hardd a’r mynydd uchaf yng Nghymru.

Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy’n gofalu amdano.

I gael mwy o wybodaeth am ymweld ag Eryri, ewch i wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Coedwig Genedlaethol Cymru

Mae Coedwig Dyfi yn ffurfio rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:

  • creu ardaloedd o goetir newydd
  • gwella coetiroedd sy’n bodoli eisoes
  • adfer coetiroedd hynafol unigryw Cymru.

Ymhen amser bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cysylltiedig a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru ac yn dod â buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

I gael rhagor o wybodaeth am Goedwig Genedlaethol Cymru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.

Cau a dargyfeirio

Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.

Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.

Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Tan y Coed 3½ milltir i'r gogledd o Fachynlleth.

Mae yn Sir Gwynedd.

Map yr Arolwg Ordnans

Mae Tan y Coed ar fap Explorer OL 23 yr Arolwg Ordnans (OS).

Cyfeirnod grid yr OS yw SH 755 053.

Cyfarwyddiadau

Cymerwch yr A487 o Fachynlleth i gyfeiriad Dolgellau.

Ar ôl 3½ milltir, mae maes parcio Tan y Coed wedi’i arwyddo ar y chwith.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Y prif orsaf rheilffordd agosaf yw Machynlleth.

Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Maes parcio

Mae parcio’n ddi-dâl.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Taflen Coedwig Dyfi PDF [7.7 MB]

Mannau eraill yng Canolbarth Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf