Coetir Lloches Ddu, ger Aberystwyth
Ardal bicnic gysgodol a llwybr glan yr afon
Llwybrau ag arwyddbyst ar gyfer cerdded a beicio mynydd mewn coetir anghysbell
Mae llwybr beicio mynydd Cwm Rhaeadr yn parhau i fod wedi cau oherwydd gwaith coedwigaeth.
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor ond, o dan y cyfyngiadau coronafeirws presennol yng Nghymru, bwriedir i’r rhain gael eu defnyddio gan bobl sy’n byw yn lleol yn unig.
Fe’ch cynghorir – yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru – i beidio â gyrru i unrhyw un o’n safleoedd i wneud ymarfer corff, oni bai fod gennych reswm dilys, megis cyflwr iechyd neu broblemau symudedd.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Coetir anghysbell gyda safle picnic yng Nghwm Tywi Uchaf yn Sir Gaerfyrddin yw Cwm Rhaeadr.
Coetir cymysg yw hwn sy’n cynnwys coed llydanddail brodorol a chonwydd estron.
Cafodd y ffynidwydd Douglas mawr yma eu plannu yn 1947. Coed ifanc yw’r rhain o gymharu â’r coed anferth sy’n tyfu yn eu cynefin naturiol ar arfordiroedd gorllewinol Gogledd America.
Uchafbwynt y coetir yw’r olygfa o’r rhaeadr, sef y rhaeadr uchaf yn Sir Gaerfyrddin, wrth iddi arllwys oddi ar Fynydd Mallaen.
Gallwch gael cip arni ar hyd Llwybr y Rhaeadr drwy’r coed.
Mae yma hefyd lwybr byrrach, sy’n addas i rai o bob gallu a llwybr beicio mynydd i feicwyr profiadol.
Mae gan y llwybrau cerdded i gyd arwyddbyst ac yn cychwyn o’r maes parcio.
¾ milltir, 1.3 km, hygyrch
Mae’r llwybr hwn drwy’r coed yn addas i rai mewn cadeiriau olwyn.
Mae'n mynd heibio i ddau bwll dŵr sy’n llecyn poblogaidd i weld gweision y neidr ddiwedd yr haf.
2½ milltir, 4 km, cymedrol
Mae Llwybr y Rhaeadr yn mynd â chi ar hyd gwaelod y dyffryn gan gynnig ambell i gip ar y rhaeadr drwy’r coed.
Mae yma hefyd nifer o draciau cysylltu sy'n rhoi dewis o lwybrau eraill, byrrach.
6.7 km, gradd coch
Mae gan y llwybr beicio mynydd Cwm Rhaeadr arwyddbyst ac mae’n cychwyn o’r maes parcio.
Mae Llwybr Beicio Mynydd Cwm Rhaeadr yn cynnig beicio untrac gwych, gan gynnwys llwybr goriwaered dros gefnen greigiog, a golygfeydd ysblennydd dros y dyffryn a’r rhaeadr hardd.
Gallwch ddarllen y wybodaeth sydd ar y safle cyn cychwyn ar eich taith feicio.
Ewch i’n tudalen beicio mynydd am restr o’n holl lwybrau beicio mynydd a gwybodaeth am y gwahanol raddau i wneud yn siŵr eich bod yn dewis llwybr sy’n iawn i chi.
Mae’r Llwybr Pob Gallu yn addas i rai mewn cadeiriau olwyn.
Mae’n dri chwarter milltir o hyd a’i ddarn mwyaf serth yw 1/20.
Sylwch:
Mae Cwm Rhaeadr wrth ymyl Llanymddyfri a thua milltir i’r gogledd o bentref Cilycwm.
Mae yn Sir Gaerfyrddin.
Gallwch barcio yno am ddim.
Lawrlwythwch fap o’r lleoliad.
Dilynwch yr arwyddion am Gilycwm o’r A482 neu’r A483 ac yna ewch ymlaen i gyfeiriad y gogledd allan o Gilycwm tuag at Gronfa Ddŵr Llyn Brianne nes cyrraedd yr arwydd am Gwm Rhaeadr.
Mae Cwm Rhaeadr ar fap Arolwg Ordnans (AR) 187.
Y cyfeirnod grid OS yw SN 765 423.
Mae’r orsaf drên agosaf yn Llanymddyfri.
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Ffôn: 0300 065 3000
E-bost: ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk