Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Crymlyn, ger Abertawe

Beth sydd yma

Croeso

Cors Crymlyn yw ffen mwyaf iseldir Cymru ac mae’r gwelyau hesg a’r corslwyni yn gartref i amrywiaeth eang o blanhigion, adar a phryfed y gwlypdir.

Y ffordd orau o brofi’r Gwarchodfa Natur Genedlaethol yw drwy gerdded ar hyd y llwybrau sy’n cynnwys llwybrau pren drwy ganol y gors.

Cors Crymlyn yw un o’r safleoedd gwlyptir pwysicaf yn Ewrop ac mae’n rhyfeddol ei bod wedi goroesi o ystyried mor agos ydyw at Abertawe ddiwydiannol.

Dros y blynyddoedd, bu’n gymydog i burfa olew, gorsaf bŵer a thip sbwriel, ynghyd â sawl pwll glo a safleoedd diwydiannol eraill, ac eto, arhosodd y gors yn gyflawn a di-nam i bob pwrpas.

Gerllaw mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Pant y Sais, sydd ychydig yn llai, ond ceir llwybr pren yma sy’n hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn.

Llwybrau cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybrau.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr y Gors

  • Gradd: hawdd
  • Pellter: 1 milltir/1.4 cilometr
  • Amser: ¾ awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae'r llwybr yn dilyn traciau gwelltog gwastad a rhannau o lwybr pren. Mae sawl giât. Cadwch at y llwybrau pren gan fod tir gwlyb peryglus yno. Mae ceffylau a merlod yn pori yma – peidiwch â mynd at y ceffylau na cheisio eu bwydo; cadwch gŵn dan reolaeth agos, symudwch o amgylch y gre, a chaewch y giatiau ar eich ôl.

Mae’r llwybr hwn yn dilyn y llwybrau pren allan i ganol y gors.

Gwrandewch am gân adar y gorsle ar ddechrau’r haf, a chadwch lygad am yr arddangosfa hyfryd o flodau gwylltion yn ystod y gwanwyn a’r haf.

Llwybr y Gors a’r Balŵn

  • Gradd: hawdd
  • Pellter: 1¼ milltir/2.21 cilometr
  • Amser: 1 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae'r llwybr yn dilyn traciau gwelltog gwastad a rhannau o lwybr pren. Mae sawl giât. Cadwch at y llwybrau pren gan fod tir gwlyb peryglus yno. Mae ceffylau a merlod yn pori yma – peidiwch â mynd at y ceffylau na cheisio eu bwydo; cadwch gŵn dan reolaeth agos, symudwch o amgylch y gre, a chaewch y giatiau ar eich ôl.

Mae’r llwybr hwn, sydd ychydig yn hirach, hefyd yn dilyn y llwybr pren, ond mae’n dychwelyd heibio i’r ‘Cae Balŵn’.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, dyma ble roedd safle balŵn mawr a osodwyd i geisio atal ymosodiadau o’r awyr gan yr Almaenwyr ar burfa olew Llandarcy – mae’r pwyntiau angori concrit crwn yn dal yn amlwg yn y ddaear.

Beth sydd i’w weld ar y Warchodfa Natur Genedlaethol

Mae’r corsleoedd ble mae cyrs a hesg yn tyfu’n gartref i amrywiaeth enfawr o blanhigion, adar a thrychfilod y gwlyptiroedd.

Corsleoedd gwych i gartrefu adar

Bydd niferoedd mawr o deloriaid amrywiol yn cael eu magu yma – telor y cawn a thelor yr helyg yn enwedig, ynghyd â thelor Cetti, telor y gwair, bras y cyrs a rhegen y dŵr.

Ar ddechrau’r haf bydd y warchodfa’n fwy gan sŵn adar yn canu wrth iddynt sefydlu’u tiriogaeth.

Ymysg ymwelwyr prinnach, a welir fel arfer yn ffeniau Dwyrain Anglia, mae boda’r wern, titw barfog ac aderyn y bwn.

Fe allwch chi hefyd weld y boda, cudyll coch, gwalch glas a’r barcud yn hedfan uwchlaw’r warchodfa.

Lle rhyfeddol i drychfilod

Mae’n hawdd iawn gweld gwas y neidr a’r fursen, sydd mor niferus yma wrth iddynt hofran a gwibio dros ddŵr agored y gors.

Mae ieir bach yr haf yn lluosog yma hefyd, fel y glöyn brwmstan.

Mae corryn mwyaf a phrinnaf Prydain, corryn rafft y ffen, yn byw yma. Dim ond mewn ardaloedd o ddŵr agored y bydd yn byw, felly mae’n annhebygol iawn y gwelwch chi un ohonynt pan fyddwch chi’n ymweld.

Planhigion y gwlyptiroedd

Ymysg y cyrs a’r hesg, gwelir blodau sy’n nodweddiadol o dir gwlyb gan gynnwys y gellesgen felen, pumbys y gors a’r llafnlys mawr.

Chwiliwch am y clystyrau mawr o’r rhedyn blodeuog hefyd, sy’n un o nodweddion hynod Crymlyn.

Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru

Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.

Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.

Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.

Amseroedd agor

Mae bariwn y maes parcio’n cael ei gloi dros nos

Dim ond ar gyfer ymweliadau neu ddigwyddiadau a archebir ymlaen llaw y bydd y ganolfan ymwelwyr yn agor.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Ceir mynediad i faes parcio Cors Crymlyn ar hyd ffyrdd cul oddi ar Ffordd Fabian (ffordd ddeuol yr A483). Mae’r warchodfa rhyw filltir (1.6km) oddi ar yr A483.

Mae yn Sir Abertawe.

Map Arolwg Ordnans

Mae Cors Crymlyn ar fap Arolwg Ordnans (AR) 165.

Y cyfeirnod grid OS yw SS 685 942.

Cyfarwyddiadau

O Abertawe: dilynwch yr A483 (Ffordd Fabian) i’r dwyrain allan o ganol y ddinas i gyfeiriad Caerdydd. Ewch heibio i barc manwerthu mawr a chroeswch yr afon. 100 metr ar ôl cyffordd Parcio a Theithio Ffordd Fabian, trowch i’r chwith yn syth ar ôl y garej BMW a gerllaw tafarn y Mile End. Dilynwch yr heol hon (Teras Wern) a throwch i’r dde yn y gyffordd-T gyda Heol Tir John. Dilynwch y lôn gul hon, gan fyd tua’r chwith ger mynedfa’r safle amwynder dinesig. Ar ôl ½ milltir, mae’r maes parcio ar y dde.

O’r M4: dewch oddi ar y draffordd ar Gyffordd 42 ar i’r A483 (Ffordd Fabian) i ganol dinas Abertawe. Pasiwch Gampws y Bae Prifysgol Abertawe ar y chwith ac yna trowch i’r dde ar gyffordd Parcio a Theithio Ffordd Fabian. Trowch o gwmpas yn y Parcio a Theithio ac ailymunwch â’r A483, gan deithio’n ôl tua’r dwyrain a’r M4. Trowch i’r chwith ar ôl 100m (yn syth ar ôl y garej BMW a gerllaw tafarn y Mile End). Dilynwch yr heol hon (Teras Wern) a throwch i’r dde yn y gyffordd-T gyda Heol Tir John. Dilynwch y lôn gul hon, gan fyd tua’r chwith ger mynedfa’r safle amwynder dinesig ar Ffordd Dinam. Ar ôl ½ milltir, mae’r maes parcio ar y dde.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Mae gwasanaeth bws yn mynd i Bort Tennant, tua hanner milltir i ffwrdd.

I gael manylion am drafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Maes parcio

Mae parcio’n ddi-dâl.

Mae bariwn y maes parcio’n cael ei gloi dros nos.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Cau a dargyfeirio

  • Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.
  • Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.
  • Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Mannau eraill yng De Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf