Parc Coedwig Afan – Canolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg, ger Port Talbot
Man cychwyn ar gyfer tri o'n llwybrau beicio mynydd...
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Oxwich wedi'i lleoli ar arfordir deheuol Gŵyr, dim ond 11 milltir o Abertawe.
Mae’r warchodfa’n cynnwys cyfuniad hudolus o draethau, twyni tywod, llynnoedd, coetir, clogwyni, morfa heli a chorsydd dŵr croyw – yn wir, mae’n anarferol cael cymaint o wahanol gynefinoedd mewn ardal mor fechan yn y DU.
Mae Bae Oxwich yn un o draethau mwyaf poblogaidd Gŵyr, yn enwedig yn ystod yr haf ac mae'r traeth tywod hir hwn wedi cael ei gydnabod ddwywaith fel Traeth y Flwyddyn y DU.
Mae llawer o ymwelwyr yn cael eu denu gan y traeth gwych, ond mae yna gynefin bywyd gwyllt anhygoel yn gwahodd hefyd.
Os cerddwch chi ychydig i mewn i’r tir o'r traeth hardd yma cewch eich gwobrwyo gan fywyd gwyllt yn y twyni.
Yn yr haf, mae llawer o fathau o flodau gwyllt yn blodeuo yma, ac mae'r awyr yn fyw gyda sïo’r pryfed.
Mae'r brif fynedfa i'r warchodfa a'r maes parcio yn eiddo i Ystâd Pen-rhys.
Mae'r ystâd yn berchen ar, ac yn gofalu am ran o draeth Oxwich a hefyd yn darparu cyfleusterau i ymwelwyr gan gynnwys toiledau a dwy siop sy'n gwerthu lluniaeth, teganau traeth ac offer.
Hefyd mae bwyty ar y traeth ger y maes parcio.
Mae yna ddau lwybr cerdded cylchol. Mae'r ddau yn mynd â chi drwy'r twyni, lle mae merlod yn pori drwy'r flwyddyn.
3 milltir, 4.8km, cymedrol
Mae'r llwybr hwn yn dechrau ger y ciosg wrth fynedfa’r maes parcio. Mae'n dilyn rhan o Lwybr Arfordir Cymru drwy'r twyni tywod - edrychwch am degeirianau a blodau gwyllt yn yr haf. Mae'n dychwelyd ar hyd y traeth tywodlyd.
2½ milltir, 4km, cymedrol
Mae'r llwybr hwn yn cychwyn o lecyn bach wrth fynedfa'r goedwig, neu gallwch ymuno â hi trwy ddilyn rhan gyntaf y Llwybr Twyni a Thraeth. Mae golygfeydd syfrdanol o Fae Oxwich o'r hen goetir heddychlon hwn sydd wedi'i orchuddio â blodau yn y gwanwyn. Mae'r llwybr yn gul ac yn serth mewn mannau, gydag arwynebau anwastad a grisiau ar yr ardaloedd mwyaf serth.
I gyrraedd y guddfan adar, edrychwch am y panel Whitestones yn y warchodfa. O'r fan hon, cerddwch am ryw 100m i giât mochyn a chroesi'r ffordd. Ewch trwy giât mochyn arall ar y llwybr byrddau sy'n eich tywys dros y gors dŵr croyw a’r gwelyau cyrs tuag at y guddfan.
Mae Llwybr Arfordir Cymru yn mynd trwy'r twyni ac ymyl Coedwig Nicholaston.
Diolch i'w amrywiaeth o gynefinoedd, mae Oxwich yn gartref i ystod amrywiol o fywyd gwyllt, gan gynnwys creaduriaid prin a blodau gwyllt lliwgar.
Gellir gweld tegeirianau gwyllt yn y twyni ddiwedd Mai a Mehefin. Mae cregyn wedi’u malu o'r traeth yn chwythu i’r mewndir ac yn darparu pridd sialc iddynt, sy’n ddelfrydol.
Yn y llaciau (y cloddiau llaith rhwng y twyni), edrychwch am y crwynllys Cymreig prin a phlanhigion anghyffredin eraill fel glesyn-y-gaeaf deilgrwn.
Mae cyfoeth y blodau gwyllt yn y warchodfa yn cynnal llawer o loÿnnod byw a phryfed eraill.
Mae poblogaeth o'r glöyn byw bach glas a gydnabyddir yn genedlaethol.
Mae rhywogaethau prin eraill yn cynnwys y chwilen beachcomber a'r gwas neidr flewog sy'n byw yn yr ardal gorsiog.
Mae'r llynnoedd a'r morfa yn Oxwich yn hafan i fywyd adar.
Mae'r llynnoedd yn darparu cynefin gaeafu i adar gwyllt a'r crwydryn achlysurol fel adar y bwn.
Cadwch lygad allan am hwyaid, rhegennod dŵr, gwyachod bach a ieir dŵr o'n cuddfan adar ger y llyn yn y Whitestones, lle allwch fynd ato ar hyd llwybr pren ar draws y gors dŵr croyw a'r gwelyau cyrs.
Mae'r cyfuniad o gorsydd, llynnoedd a choedwigoedd yn golygu llefydd clwydo da a dewisiadau cyfoethog i ystlumod.
Yn ystod y nos ac yn y bore mae arddangosfa ysblennydd o ystlumod yn y coetiroedd wrth iddynt chwilio am bryfed.
Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.
Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.
Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.
Darllenwch y wybodaeth ar frig y dudalen hon i ganfod a oes newidiadau i'r amserau agor.
Ystâd Pen-rhys sy’n berchen ar y maes parcio a’r toiledau, sydd ar agor yn dymhorol.
Mae siopau’r traeth ar agor o fis Ebrill i fis Medi.
Mae'r bwyty ar lan y traeth ar agor drwy'r flwyddyn.
Sylwch:
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Oxwich 11 milltir i’r gorllewin o Abertawe, ychydig y tu allan i bentref Oxwich ym Mhenrhyn Gŵyr.
Mae yn Sir Abertawe.
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Oxwich ar fap Arolwg Ordnans (AR) 164.
Y cyfeirnod grid OS yw SS 501 865.
Cymerwch yr A4118 o Abertawe tuag at Gŵyr a Phorth Eynon.
Parhewch trwy Benmaen a Nicholaston a throi i'r chwith ar ôl yr eglwys, wrth ymyl adfail, i lawr ffordd fach sydd ag arwyddion at Oxwich a Slade.
Bydd y maes parcio mawr ar y chwith.
Mae’r orsaf drenau agosaf yn Nhre-gŵyr.
Mae yna wasanaeth bws o orsaf fysiau a gorsaf reilffordd Abertawe.
Mae’r orsaf drên agosaf yn Nhre-gŵyr.
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Ystâd Pen-rhys sy’n berchen ar y maes parcio.
Mae'n agored yn dymhorol ac mae'r pris yn amrywio.
Ewch i wefan Ystâd Pen-rhys i ddysgu mwy am y trefniadau parcio a mynediad i gerbydau camper vans, cychod a jet-sgis.
Ffôn: 0300 065 3000