Parc Coedwig Afan – Rhyslyn, ger Port Talbot
Llwybrau cerdded a beicio mynydd gyda golygfeydd...
Cau a dargyfeiriadau llwybrau beicio mynydd
Dilynwch unrhyw wyriadau ar y safle a chyfarwyddiadau gan staff i aros neu i ganiatáu i eraill fynd heibio, a byddwch yn ymwybodol o lorïau sy’n cludo pren.
Gweler y manylion isod a darllenwch y paneli diweddaru yn y meysydd parcio ac yn y canolfannau ymwelwyr.
Mae gwyriadau wedi’u harwyddo ar y safle ar y llwybrau hyn:
Cwympo Coed yn Rhyslyn
Noder – efallai y bydd rhannau o’r llwybrau hyn wedi cau neu wedi cael eu dargyfeirio oherwydd gwaith cynaeafu parhaus:
Llwybrau beicio mynydd:
Llwybrau cerdded:
Gweler y paneli gwybodaeth yn y meysydd parcio a dilynwch y gwyriadau a’r cyfarwyddiadau gan staff i aros neu i ildio i eraill. Rydyn ni hefyd yn torri coed sydd â chlefyd y llarwydd yn ardal Rhyslyn ym Mharc Coedwig Afan. Bydd llawer o’n llwybrau cerdded a llwybrau beicio mynydd yn parhau ar agor - ond bydd rhai yn cael eu dargyfeirio neu eu cau yn ystod y gwaith hwn. Dilynwch yr arwyddion o ran hyn. Y nod yw gorffen y gwaith yma erbyn mis Mai 2023.
Edrychwch ar y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith torri coed a’i effeithiau
Crëwyd Parc Coedwig Afan yn y 1970au ac mae wedi tyfu i fod yn un o gyrchfannau beicio mynydd eiconig Prydain.
Wedi'i leoli mewn hen ddyffryn glofaol ychydig filltiroedd o'r M4, mae parc y goedwig yn cynnig llwybrau beicio mynydd i ddechreuwyr a beicwyr profiadol.
Mae tri o'n llwybrau beicio mynydd gradd goch yn dechrau o'r maes parcio yng Nghanolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg.
Mae'r rhan fwyaf o'n llwybrau beicio mynydd yn dechrau o Ganolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan.
Mae arwyddbyst i’w cael ar bob un o’n llwybrau beicio mynydd o’r dechrau i’r diwedd ac maent wedi’u graddio’n ôl eu hanhawster.
Ceir panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr – dylech ei ddarllen cyn cychwyn ar eich taith.
Dyma'r mwyaf technegol o'r holl lwybrau ym Mharc Coedwig Afan ac mae 90% ohono’n drac sengl wedi’i adeiladu’n arbennig.
Mae dringfa 6 cilometr o hyd ar drac defaid yn arwain at olygfeydd gwych o Ddyffryn Afan.
Mae’r cwymp eithafol ar drac sengl cul yn golygu gwefr heb ei ail a disgynfeydd hir, heriol gyda grisiau creigiog i'w taclo, y cyfan yn creu un llwybr rhyfeddol.
Mae dolen ychwanegol ddewisol 2.3 cilometr o hyd sydd wedi'i graddio'n ddu.
Am daith hirach, cyfunwch hwn â Llwybr y Wal drwy un o’r cysylltiadau W2.
Mae gan Lwybr Blade lawer o draciau sengl, sy'n cynnig llwybr gwych i feicwyr mwy profiadol.
Mae'r llwybr hwn yn mynd â chi i rannau uwch a mwy anghysbell o'r goedwig gyda golygfeydd anhygoel dros Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae'n troi a throelli drwy'r goedwig bell gyda rhai dringfeydd a disgynfeydd technegol heriol cyn dychwelyd i Lyncorrwg.
Gallwch hefyd ychwanegu dolen o lwybr Skyline ond gwnewch yn siŵr fod gennych y cyfarpar iawn gan fod y ddolen ychwanegol hon yn mynd â chi i ardal anghysbell iawn lle mae’r tywydd yn gallu newid yn sydyn.
Ar ôl bod ar gau am sawl blwyddyn oherwydd gwaith datblygu fferm wynt gyfagos, mae Llwybr Awyrlin wedi cael ei ailgynllunio ac fe ailagorodd ym mis Hydref 2021.
Mae’n dringo ar hyd yr un llwybr cul â Lefel White ac yn parhau trwy ddringfeydd hir ar hyd heolydd coedwig gyda disgyniadau melys, rhwydd ar draciau unigol.
Wrth edrych tua’r gorwel, cewch olygfeydd heb eu hail dros Fannau Brycheiniog, Mynyddoedd y Preselau, y Mynyddoedd Du ac arfordir De Cymru.
Bydd y llwybr hwn yn profi eich stamina a’ch dewrder, gyda thraciau unigol technegol megis ‘Ar y Dibyn’ a ‘Caledfwlch’.
Mae hefyd 2 ddolen llwybr tarw ar y llwybr.
Mae Parc Coedwig Afan yn ffurfio rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:
Ymhen amser bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cysylltiedig a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru ac yn dod â buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
I gael rhagor o wybodaeth am Goedwig Genedlaethol Cymru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.
Mae cyfleusterau i ymwelwyr yng Nghanolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg yn cynnwys:
Mae'r cyfleusterau hyn a'r maes parcio yn cael eu rheoli'n breifat.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Canolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg.
Mae Parc Coedwig Afan chwe milltir o gyffordd 40 yr M4.
Mae yn sir Castell-nedd Port Talbot.
Mae Rhyslyn ar fap Arolwg Ordnans (AO) Explorer 166.
Cyfeirnod grid AO Canolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg yw SS 872 984.
Gadewch yr M4 yng nghyffordd 40 ar yr A4107 tuag at y Cymer.
Gyrrwch heibio Canolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan.
Parhewch am dair milltir er mwyn mynd drwy’r Cymer ac yna dilynwch yr arwyddion brown a gwyn ar gyfer Canolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg.
Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Maesteg.
Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae'r maes parcio, caffi, siop beiciau mynydd, toiledau a chyfleusterau ymwelwyr eraill yng Nghanolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg yn cael eu rheoli'n breifat.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Canolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg.