Parc Coedwig Afan – Canolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg, ger Port Talbot
Man cychwyn ar gyfer tri o'n llwybrau beicio mynydd...
Mae coetir Coed y Felin wedi’i leoli yng Ngŵyr, ddeuddeg milltir yn unig o Abertawe.
Yn wreiddiol, roedd y coetir hynafol hwn yn rhan o Ystad Pen-rhys gerllaw, ac mae’n dal i fod ag olion gwaith tirlunio a phlannu coed o ddiwedd y ddeunawfed ganrif.
Mae hefyd yn gartref i olion melin ddŵr a phyllau pysgod a arferai gyflenwi ceginau Castell Pen-rhys.
Ym 1956 fe wnaeth y Comisiwn Coedwigaeth brynu’r coetir, gan gyflwyno coed fel hemlog y gorllewin, sbriws Norwy, ffynidwydd arian a ffawydd.
Rydym yn mynd ati’n raddol i gael gwared â’r conwydd anfrodorol, gan droi Coed y Felin yn goetir llydanddail brodorol yn ôl.
Yn y gwanwyn, cadwch lygad am glychau’r gog, craf y geifr, blodau neidr, gorthyfail, gold y gors, erwain a marchredyn cyffredin. Hefyd ceir llecyn o gennin-Pedr gwyllt.
Ewch trwy’r llidiart o’r maes parcio at y panel croeso, lle ceir map a gwybodaeth am beth sydd i’w weld.
Mae’r map yn dangos cylchdaith wastad (¾ milltir/ 1.1 cilomedr) trwy’r coetir a heibio olion y felin a’r hen byllau pysgod.
Mae gan yr olion felin banel gwybodaeth gerllaw.
Mae’r trywydd yn dilyn ffordd lydan y goedwig a llwybr cul ar hyd y nant, a all fod yn llithrig ac yn fwdlyd.
Ceir dwy fainc ar hyd y ffordd.
Gallwch hefyd ddarganfod gweddill y coetir ar hyd y traciau a’r llwybrau.
Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.
Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.
Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.
Mae Coed y Felin 12 milltir i'r gorllewin o Abertawe.
Mae yn Sir Abertawe.
Mae Coed y Felin ar fap Arolwg Ordnans (AO) 164
Y cyfeirnod grid AO yw SS 493 882.
Ewch ar hyd yr A4118 o Abertawe i gyfeiriad Gŵyr a Phorth Einon.
Yna, ewch yn eich blaen trwy Ben-maen a Nicholaston, gan fynd heibio’r olion, a throi i’r chwith wedyn wrth y fferm, sydd ag arwydd Pen-rhys.
Teithiwch yn eich blaen ar hyd yr is-drac sengl hwn am ½ milltir.
Mae’r ardal barcio ar y dde.
Yr orsaf agosaf â phrif reilffordd yw Tregŵyr.
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae’r ardal barcio ar ochr y ffordd, wrth ymyl mynedfa’r coetir.
Mae parcio’n ddi-dâl.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.