Gwarchodfa Natur Genedlaethol Corsydd Llangloffan, ger Abergwaun

Beth sydd yma

Croeso

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Corsydd Llangloffan yn rhan o’r gorlifdir mwyaf yn Sir Benfro.

Mae amrywiaeth eang o blanhigion a bywyd gwyllt yn cael eu cynnal gan gynefinoedd y warchodfa o gors galchog ddwys a siglenni cyrs, coetiroedd gwlyb a glaswelltir corsiog.

Datblygodd y gymysgedd hon o gynefinoedd ar ôl i’r afon a oedd yn llifo drwy’r dyffryn ar un adeg gael ei gorfodi i ffurfio cwrs newydd tua 12,000 mlynedd yn ôl ar ôl i rewlif ollwng clai a deunyddiau eraill yma.

Rydym yn gofalu am y cynefin hwn o wlyptir drwy beidio â chaniatáu i lefel y dŵr fyth syrthio’n rhy isel, ac rydym yn caniatáu i wartheg a merlod bori’r gors galchog yn yr haf a’r hydref i reoli’r llystyfiant.

Y ffordd orau o ganfod y dirwedd arbennig hon yw drwy ddilyn y llwybr pren sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn dros ran o’r warchodfa.

Llwybr cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Cors Calchog Llangloffan

  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: 1 filltir/1.5 cilomedr ((yna ac yn ôl)
  • Amser: 1 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae Llwybr Cors Galchog Llangloffan yn dilyn llwybr pren  o fynedfa’r warchodfa ac yn dychwelyd yr un ffordd. Mae’r llwybr pren yn addas ar gyfer rhai sy’n defnyddio cadeiriau olwyn a phramiau neu gadeiriau gwthio. Cofiwch gadw ar y llwybr pren gan fod y tir yn feddal ac yn llawn dŵr, a gallai ffosydd dan ddŵr fod wedi cael eu cuddio gan drwch o lystyfiant arnofiol.

Darganfyddwch y gors galchog, y siglen a’r coetir gwlyb ar ein llwybr pren hygyrch.

Beth sydd i’w weld ar y Warchodfa Natur Genedlaethol

Mae Corsydd Llangloffa yn Warchodfa Natur Genedlaethol.

Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.

Mae’r tirlun a’r bywyd gwyllt yn amrywio yn ôl yr adeg o’r flwyddyn – cadwch olwg am y rhain.

  • dalpiau enfawr o hesgen rafunog fawr
  • pefrwellt
  • corsen
  • hesgen-y-dwr fawr

Mae teimlad hynafol i’r coetir gwlyb, mae ei choed wedi eu gorchuddio gan fwsoglau melfedaidd a chennau arian. Ymhlith y planhigion eraill sydd yma mae:

  • rhedynen y gors
  • rhedynen gyfrdwy
  • eurinllys tonnog
  • corsfrwynen lem (un o ddim ond dau leoliad hysbys yn Sir Benfro)

Ar hyd yr afon ceir:

  • mursennod o deulu’r morwynion, sy’n sgleinio’n wyrdd symudliw
  • nadroedd y gwair a gwiberod patrwm diemwnt
  • llygon y dwr
  • y dyfrgi gwibiog

Ymhlith yr adar y gellid eu gweld neu eu clywed mae:

  • hwyaid gwyllt
  • ieir dwr
  • rhegennod dwr
  • giachod cy­redin
  • breision y cyrs
  • troellwyr bach
  • telorion yr hesg a thelorion y cyrs
  • oherwydd bod digon o ddewis yma, daw adar ysglyfaethus draw’n rheolaidd, gan gynnwys bwncathod, cudyllod coch, gweilch glas a thylluanod gwynion

Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru

Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.

Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.

Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru

Mae rhan orllewinol Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Galchog Llangloffan yn cael ei rheoli gan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru.

Ceir llwybr cylchol yn y rhan hon o’r warchodfa sy’n arwain o’r lle parcio ar ffordd B4331 hyd at guddfan adar sy’n edrych dros ardal o ddŵr agored.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Sylwer:

  • Arhoswch ar y llwybr bordiau: caiff ffosydd sydd wedi gorlifo eu cuddio gan lystyfiant trwchus sy’n arnofio ac mae’r ddaear yn feddal ac yn llawn dŵr.
  • Mae ochrau glannau afonydd yn serth, maen nhw’n aml heb eu torri ddigon ac efallai y byddan nhw wedi gordyfu.
  • Mae pyllau dwfn yn yr afon, ac efallai y gwnai ei lefel godi’n gyflym ar ôl glaw trwm.
  • Os ydych chi’n gweld gwiberod neu nadroedd gadewch lonydd iddyn nhw.
  • Cadwch gŵn ar dennyn oherwydd efallai y bydd gwartheg neu ferlod yn pori mewn cae caeedig â weiren bigog yn yr haf a’r hydref.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Trefnu digwyddiad ar ein tir

Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.

Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.

Sut i gyrraedd yma

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Galchog Llangloffan 6½ milltir i’r de orllewin o Abergwaun.

Cod post

Y cod post yw SA62 5ER.

Sylwer: efallai na fydd y cod post hwn yn eich arwain at y gilfan ger mynedfa'r warchodfa os byddwch yn defnyddio sat nav neu ap llywio.

Rydym yn awgrymu eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau isod neu’n defnyddio’r Google map ar y dudalen hon lle ceir pin ar safle’r gilfan.

Cyfarwyddiadau

O Abergwaun dilynwch yr A487 i gyfeiriad Tyddewi.

Trowch yn sydyn i’r chwith i ffordd B4331 sydd wedi’i harwyddo Casmorys.

Ewch heibio maes parcio Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru ar y chwith a chymryd y tro nesaf i’r chwith ar y groesffordd, sydd wedi’i harwyddo Croes Cas-lai.

Dilynwch yr isffordd hon am ¼ milltir ac mae’r gilfan barcio a mynedfa’r warchodfa ar y dde, yn union cyn i’r ffordd groesi pont garreg.

What3Words

Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.

Arolwg Ordnans

Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y gilfan yw SM 904 319 (Explorer Map OL 35).

Cludiant cyhoeddus

Y prif orsaf reilffordd agosaf yw Abergwaun ac Wdig.

Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.

Parcio

Gellir parcio mewn cilfan ger mynedfa'r warchodfa 

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng De Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf