Parc Coedwig Afan – Canolfan Ymwelwyr, ger Port Talbot
Prif fan cychwyn llwybrau beicio mynydd a llwybrau...
Mae Coedwig Cwm Rhaeadr yng nghanol llonyddwch Cwm Tywi.
Gallwch fwynhau golygfeydd o’r rhaeadr uchaf yn Sir Gaerfyrddin wrth grwydro ar hyd Llwybr y Rhaeadr.
Mae yma hefyd lwybr byr hygyrch drwy’r coetir a llwybr beicio mynydd i feicwyr profiadol.
Coetir cymysg yw hwn sy’n amrywio o gonwydd anferth i goed llydanddail brodorol a cheir carpedi o glychau'r gog yn y gwanwyn.
Mae’r safle picnic ynghanol coed conwydd uchel ger y maes parcio ac mae golygfeydd arbennig i’w cael o’r byrddau picnic.
Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Mae’r llwybr hwn drwy’r coetir yn mynd heibio amrywiaeth o wahanol goed gan gynnwys ffynidwydd Douglas anferth a blannwyd yn y 40au.
Mae’n mynd heibio pwll bychan lle mae llwybr pren byr yn croesi’r dŵr – cadwch lygad yn agored am weision y neidr yn yr haf.
Mae’r llwybr hwn yn cychwyn drwy’r coetir ac ar ôl ychydig yn dilyn glan yr afon.
Pan fyddwch tua hanner ffordd ar hyd y llwybr ceir golygfeydd o’r rhaeadr yn byrlymu i lawr y mynydd.
Ceir golygfeydd hefyd o’r cwm a’r bryniau o’i gwmpas o’r llwybr hwn.
Mae arwyddbyst i’w cael ar bob un o’n llwybrau beicio mynydd o’r dechrau i’r diwedd ac maent wedi’u graddio’n ôl eu hanhawster.
Ceir panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr – dylech ei ddarllen cyn cychwyn ar eich taith.
Mae gan y llwybr beicio mynydd Cwm Rhaeadr arwyddbyst ac mae’n cychwyn o’r maes parcio.
Mae Llwybr Beicio Mynydd Cwm Rhaeadr yn cynnig beicio untrac gwych, gan gynnwys llwybr goriwaered dros gefnen greigiog, a golygfeydd ysblennydd dros y dyffryn a’r rhaeadr hardd.
Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.
Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.
Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.
Mae Coedwig Cwm Rhaeadr 6 milltir i’r gogledd o Lanymddyfri.
Mae yn Sir Gaerfyrddin.
Mae Coedwig Cwm Rhaeadr ar fap Explorer 187 yr Arolwg Ordnans (OS).
Cyfeirnod grid yr OS yw SN 765 422.
O Lanymddyfri dilynwch yr arwyddion i Gilycwm.
Yna dilynwch yr arwydd i gyfeiriad Cronfa Ddŵr Llyn Brianne am 2 filltir ac mae’r maes parcio ar y chwith.
Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Cynghordy.
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae parcio’n ddi-dâl.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.