Coed Cilgwyn, ger Llanymddyfri

Beth sydd yma

Croeso

Yn swatio yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin, nid yw safle Coed Cilgwyn ymhell o Lanymddyfri ac mae’n hawdd iawn dod o hyd iddo.

Mae gan y coetir tawel hwn gymysgedd bendigedig o wahanol goed, gan gynnwys ffynidwydd Douglas mawr, coed ffawydd hen a sbriws.

Coetir bychan ydyw gyda llwybr cylchol byr ac mae yna ddigonedd i’w weld drwy gydol y flwyddyn.

Yn y gwanwyn, mae clystyrau o glychau'r gog wrth ymyl y llwybr cerdded.

Ar ddiwrnod poeth o haf ceir rhywfaint o gysgod brith ar hyd y llwybr cerdded drwy’r coetir, gydag arogl conwydd yn yr aer.

Os dewch draw yn yr hydref, bydd y coetir yn llawn cysgod tymhorol wrth i ddail y coed ffawydd droi eu lliw.

Wrth i’r dail ddechrau disgyn yn ystod y misoedd oerach, maent yn gorchuddio’r llwybr cerdded gyda charped crin – perffaith ar gyfer tro iachusol yn y gaeaf.

Ceir arwyddbyst ar y llwybr cerdded ac mae’n cychwyn ar ffordd y goedwig wrth fynedfa’r coetir.

Llwybr cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Cilgwyn

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 2 milltir/3.4 cilomedr
  • Dringo: 330 troedfedd/100 metr
  • Amser: 1¼ awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Addas i deuluoedd, heb ddim grisiau. Angen lefel dda o ffitrwydd. Argymhellir esgidiau cerdded sydd â gafael da. Gall y llwybrau fod yn llithrig pan fo hi’n wlyb. Mae derbyniad ôn symudol da ar hyd y daith.

Llwybr cylchol ag arwyddbyst yw Llwybr Cilgwyn, ac er ei fod yn weddol fyr mae’n dringo’n gyson a cheir ambell ran serth.

Mae’n cychwyn ar ffordd y goedwig, sy’n dringo’n gyson. Ceir golygfeydd eang dros diroedd fferm.

Yna, mae’n troi ar lwybr glaswelltog cul drwy’r coetir. Mae’r llwybr hwn yn ymdroelli heibio coed ffawydd a chonwydd urddasol wrth ddringo’n gyson at y pwll dŵr, lle y ceir mainc yn y llannerch gysgodol.

Yna, mae’r llwybr yn croesi ffordd y goedwig ac yn dilyn llethr o hen goed ffawydd, sy’n llawn o glychau’r gog yn y gwanwyn, cyn arwain yn ôl i lawr at y man cychwyn ar ffordd y goedwig.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Coed Cilgwyn 3 milltir i’r de-orllewin o Lanymddyfri.

Mae yn Sir Gaerfyrddin.

Map yr Arolwg Ordnans

Mae Coed Cilgwyn ar fap Arolwg Ordnans (OS) OL 12.

Cyfeirnod grid yr OS yw SN 744 297.

Cyfarwyddiadau

Ewch ar hyd yr A4069 o Lanymddyfri i Langadog.

Ar ôl milltir, trowch i’r chwith ar hyd ffordd ddi-ddosbarth gyda’r arwydd Myddfai, ac ewch yn eich blaen am filltir arall.

Wrth y gyffordd, ewch yn syth yn eich blaen, ac ar ôl 1¼ milltir fe welwch fynedfa Coed Cilgwyn ar y chwith, yn syth ar ôl Fferm Maenordy Cilgwyn.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Llanymddyfri.

Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru

Parcio

Gallwch barcio mewn ardal fach ar bwys mynedfa'r goedwig.

Gallwch barcio yno am ddim.

Cofiwch barcio’n ofalus gan adael agoriadau’r gatiau’n glir i breswylwyr ac i roi mynediad brys i’r coed.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng De Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf