Parc Coedwig Afan – Canolfan Beicio Mynydd Glyncorrwg, ger Port Talbot
Man cychwyn ar gyfer tri o'n llwybrau beicio mynydd...
Mae coetir Coed y Parc wedi’i leoli yng Ngŵyr, naw milltir yn unig o Abertawe, ac ers talwm arferai fod yn barc ceirw canoloesol a oedd yn eiddo i’r Arglwyddi de Breos, sef Arglwyddi Gŵyr.
Mae nifer o safleoedd archaeolegol cenedlaethol bwysig i’w cael yma, yn cynnwys siambr gladdu Neolithig, ogofâu ac odynau calch.
Mae archaeolegwyr wedi darganfod gweddillion hyd at 40 o ddynion, merched a phlant yn y Garnedd Hir.
Mae Ogof Cathole yn nodwedd naturiol yn y calchfaen ac mae ei mynedfa yn 15 metr o uchder.
Adeiladwyd yr odyn galch yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg er mwyn cynhyrchu calch i wella’r tir ac i’w ddefnyddio mewn morter.
Mae Coed y Parc yn cynnwys coed derw, coed ynn a choed conwydd ysblennydd, ac yn y fan hon y ceir rhai o’r planhigfeydd hynaf yn Ne Cymru (cafodd y derw, yr ynn a’r masarn eu plannu ym 1851).
Rydym wedi bod yn clirio llecynnau bach o gonwydd cymysg ac yn teneuo rhai o’r coed llydanddail er mwyn i fwy o olau gyrraedd llawr y goedwig a pheri i fwy o blanhigion a blodau dyfu.
Mae’r coetir yn gartref i fwncathod, cnocellau, delorion y cnau, ystlumod pedol lleiaf ac ystlumod pedol mwyaf, yn ogystal â thoreth o rywogaethau eraill.
Ceir panel croeso yn y maes parcio, ynghyd â map a gwybodaeth am yr hyn sydd i’w weld.
Dilynwch ffordd raeanog, lydan y goedwig i gyrraedd y nodweddion archaeolegol – mae gan bob un banel gwybodaeth gerllaw.
Mae’r safle picnic wrth fynedfa’r maes parcio a cheir mainc ar hyd ffordd y goedwig.
Bydd y rhwydwaith o lwybrau troed yn eich tywys trwy’r coetir, neu ymhellach pe baech yn dymuno mynd am dro hirach.
Mae Llwybr Gŵyr yn mynd trwy Goed y Parc – cadwch olwg am yr arwyddbyst.
Mae’r llwybr pellter mawr hwn yn 35 milltir (56 cilometr) o hyd, ac mae’n arwain o Rosili yn ne-orllewin Penrhyn Gŵyr hyd at Benlle’r Castell ar ucheldir y Mawr.
I gael mwy o wybodaeth, edrychwch ar wefan Cymdeithas y Cerddwyr Pellter Mawr (Long Distance Walkers Association).
Lleolir Canolfan Treftadaeth Gŵyr ar yr A4118, hanner milltir o Goed y Parc.
Mae’r amgueddfa bywyd gwledig hon wedi’i seilio ar felin ddŵr weithredol o’r ddeuddegfed ganrif, a cheir ystafell de yno.
I gael mwy o wybodaeth, edrychwch ar wefan Canolfan Treftadaeth Gŵyr.
Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.
Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.
Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.
Mae Coed y Parc 9 milltir i'r gorllewin o Abertawe.
Mae yn Sir Abertawe.
Mae Coed y Parc ar fap Arolwg Ordnans (AO) 164
Y cyfeirnod grid AO yw SS 538 896.
Ewch ar hyd yr A4118 o Abertawe i gyfeiriad Gŵyr a Phorth Einon.
Ewch trwy bentref Parkmill ac ar ôl ⅓ milltir trowch i'r dde, gan ddilyn yr arwyddion brown a gwyn i Barc Le Breos.
Ewch ymlaen ar hyd yr isffordd hon am ½ milltir ac mae'r maes parcio ar y chwith.
Yr orsaf agosaf â phrif reilffordd yw Tregŵyr.
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae parcio’n ddi-dâl.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.