Gwarchodfa Natur Genedlaethol Pant y Sais, ger Abertawe

Beth sydd yma

Croeso

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Pant y Sais yn rhannu nifer o’i rhinweddau gyda Chors Crymlyn- sydd ychydig i’r gorllewin ac yn dipyn mwy o ran maint.

Mae’r gwelyau cyrs a hesg yn gynefin i ystod fawr o blanhigion cors, adar, a phryfed.

Y ffordd orau o grwydro’r warchodfa yw dilyn y llwybr pren tua chanol y gors.

Mae Camlas Tennant yn ffinio’r safle ac mae ei chloddiau’n gartref i gorryn mwyaf Prydain - corryn rafftio’r ffen - yn ogystal ag amrywiaeth o adar a gweision y neidr.

Llwybr cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.

Llwybr Pant y Sais

  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: ½ milltir/0.6 cilomedr
  • Amser: 15 muned
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae'r llwybr yn cychwyn o fynedfa i gerddwyr ar y B4290 – byddwch yn ofalus wrth groesi’r ffordd. Mae'n dilyn llwybr pren cylchol hygyrch sydd â meinciau a lleoedd i basio. Cadwch at y llwybr pren pan fyddwch allan ar y ffen gan fod tir gwlyb peryglus yno.

Llwybr arall

O ben arall y llwybr pren, gallwch hefyd ddilyn y llwybr halio sy’n dilyn Camlas Tennant.

Gallwch ddilyn y llwybr hwn heibio’r ffen yr holl ffordd tuag at Abertawe neu Gastell-nedd.

Llwybr Arfordir Cymru

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn ffinio’r safle hefyd.

Dysgwch fwy am y Llwybr Arfordir Cymru.

Beth sydd i’w weld ar y Warchodfa Natur Genedlaethol

Mae Pant y Sais yn Warchodfa Natur Genedlaethol.

Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.

Mae’r tirlun a’r bywyd gwyllt yn amrywio yn ôl yr adeg o’r flwyddyn – cadwch olwg am y rhain.

  • Yr haf yw’r adeg gorau i ymweld â Phant y Sais, pan fydd y warchodfa’n llawn o ganu adar.
  • Mae teloriaid y cyrs a’r hesg yn magu yma, yn ogystal â thelor Cetti, y troellwr bach, bras y cyrs, a rhegennod dŵr.
  • Ceir ambell i ymwelydd prinnach hefyd, megis aderyn y bwn, boda’r gwerni, a’r titw barfog- rhywogaethau sy’n tueddu i gael eu cysylltu â ffeniau Dwyrain Anglia.
  • Mae’r haf yn adeg dda i weld rhai o’r planhigion cors hefyd. Ymysg yr hesg a’r cyrs ceir blodau hardd, megis gellesg, pumnalen y gors, a’r llafnlys mawr.
  • Cadwch lygaid barcud am lwyni o redynen gyfrdwy- maent yn un o rinweddau pennaf Pant y Sais.
  • Er bod corryn mwyaf Prydain yn byw yma, corryn rafftio’r ffen, rydych yn fwy tebygol o weld gloÿnnod byw a gweision y neidr yn ystod eich ymweliad.

Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru

Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.

Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Sylwer:

  • Pan fyddwch allan ar y ffen cadwch at y llwybr pren os gwelwch yn dda gan fod tir gwlyb peryglus o gwmpas.
  • Camlas gyda dŵr dwfn – cadwch at y llwybr tynnu, cadwch oddi wrth ymyl y dŵr a pheidiwch â nofio.
  • Gall y llwybr tynnu fod yn fwdlyd mewn tywydd gwlyb – gwisgwch esgidiau sydd â gafael da.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Adnoddau hygyrch

Mae’r llwybr pren cylchog yn hygyrch i gadeiriau olwyn.

Nid yw’r llwybr halio ger Camlas Tennant yn hygyrch i gadeiriau olwyn.

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Trefnu digwyddiad ar ein tir

Efallai y bydd angen caniatâd gennym ni i drefnu digwyddiad neu gynnal rhai gweithgareddau ar ein tir.

Gwiriwch a gewch chi ddefnyddio tir rydyn ni’n ei reoli.

Sut i gyrraedd yma

Mae Pant y Sais 4 milltir i'r dwyrain o Abertawe.

Cod post

Mae Pant y Sais ym mhentref Jersey Marine.

Y cod post Jersey Marine yw SA10 6JN.

Sylwer: efallai na fydd y cod post hwn yn eich arwain at y pentref os byddwch yn defnyddio sat nav neu ap llywio.

Rydym yn awgrymu eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau isod neu’n defnyddio’r Google map ar y dudalen hon lle ceir pin ar safle’r warchodfa.

Cyfarwyddiadau

Dilynwch yr arwyddion o’r A483 tuag at bentref Jersey Marine a’r B4290.

Dilynwch y B4290 tua’r pentref, ac wedi i chi groesi pont y gamlas trowch i’r chwith ar Heol yr Ysgol. Mae parcio cyfyngedig ar y ffordd hon, felly byddwch yn ystyriol o eraill.

Yna cerddwch yn ôl tua’r B4290 gan anelu am y safle bws ac mae’r fynedfa i’r llwybr pren y tu ôl i reiling. 

Gallwch hefyd gyrraedd y warchodfa trwy ddilyn llwybr halio Camlas Tennant. Gallwch gyrraedd y llwybr o’r bont ar y B4290 sy’n gyfagos i bentref Jersey Marine.

What3Words

Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words.

Arolwg Ordnans

Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer dechrau'r llwybr yw SS 712 940 (Explorer Map 165).

Cludiant cyhoeddus

Y prif orsaf reilffordd agosaf yw Llansawel.

Mae safle bws gyferbyn â mynedfa’r warchodfa, gyda gwasanaeth o Abertawe a Chastell-nedd.

Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.

Parcio

Nid oes maes parcio yn y warchodfa.

Mae mannau parcio yn gyfyngedig ar y ffyrdd preswyl ger mynedfa’r warchodfa – byddwch yn ystyriol wrth barcio os gwelwch yn dda.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng De Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf