Parc Coedwig Afan – Canolfan Ymwelwyr, ger Port Talbot
Prif fan cychwyn llwybrau beicio mynydd a llwybrau...
Mae Coedmor yn un o weddillion coedwig enfawr a oedd yn bodoli tan y canol oesoedd.
Cliriwyd y goedwig yn raddol ar gyfer amaethyddiaeth a dim ond y coetiroedd yng ngheunant serth afon Teifi sydd wedi goroesi.
Mae Coedmor bellach yn Warchodfa Natur Genedlaethol i ddiogelu'r coetiroedd derw prin hyn a'u bywyd gwyllt.
Mae yna lwybr byr i lawr drwy’r ceunant at yr afon.
Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.
Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded.
Dilynwch y llwybr byr ond serth i lawr drwy’r ceunant llaith a serth ar lan afon Teifi.
Derw mes digoes yw’r prif fath o goeden ar lethrau serth y ceunant ond gallwch hefyd weld coed ffawydd, pisgwydd dail bach, ynn, llwyfenni llydanddail, coed masarn a cherddin gwyllt.
Mae dros 200 o rywogaethau o gen yn ffynnu yn amodau llaith y ceunant.
Mae dwrgwn yn defnyddio’r afon a’i glannau, ac yn hwyr yn y gwanwyn mae’r coetiroedd yn denu telor y coed, y tingoch a’r gwybedog brith sy’n dair rhywogaeth gyffredin yng nghoedwigoedd derw’r ucheldir.
Cofnodwyd 31 math o löyn byw yn y warchodfa ac o'i chwmpas, yn bennaf yn yr ardaloedd bach o ddolydd corsiog.
Yn yr hydref mae yna amrywiaeth anhygoel o ffyngau yma.
Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.
Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.
Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.
Cafodd gerddi Plas Coedmor eu gosod yn yr arddull Pictiwrésg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac erbyn hyn maen nhw'n rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Coedmor.
Mae'r plas dan berchnogaeth breifat ond gallwch gerdded drwy'r gerddi a darganfod yr hen nodweddion, a'r llwyni a’r coed egsotig.
Mae'r gerddi wedi'u gosod mewn ardal gymharol wastad o'r warchodfa yn y coetir uwchben y ceunant serth.
Mae llwybrau gyda grisiau a phontydd yn mynd drwy'r coetir ac mae yna blatfform lle gallwch edrych i lawr ar yr afon drwy'r coed.
Cofiwch barchu preifatrwydd trigolion y plas ac osgoi ardaloedd sydd wedi eu marcio fel rhai preifat.
I fynd i mewn i'r gerddi mae ardal barcio fach tua hanner milltir ar hyd y ffordd o'r gilfan ar ddechrau Llwybr y Ceunant - mae arwydd yn yr ardal barcio sydd â map a gwybodaeth am beth i'w weld.
Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.
Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.
Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coedmor ddwy filltir i’r de-ddwyrain o Aberteifi.
Mae ar y ffin rhwng Ceredigion a Sir Benfro.
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Coedmor ar fap Explorer yr Arolwg Ordnans (OS) 198 ac OL35.
Y cyfeirnod grid OS ar gyfer y gilfan ar ddechrau Llwybr y Ceunant yw SN 196 445.
Y cyfeirnod grid OS ar gyfer yr ardal barcio fach yng ngerddi Plas Coedmor yw SN 195 436.
O Aberteifi, cymerwch yr A484 tuag at Gaerfyrddin.
Ar ôl ychydig dros un filltir, trowch i’r dde ar y groesffordd ar ffordd ddienw sy’n dod yn ffordd untrac ar ôl ychydig.
Parhewch am hanner milltir arall ac mae’r ardal barcio ar ddechrau Llwybr y Ceunant ar y dde – edrychwch am yr arwydd sydd â map a gwybodaeth am beth i’w weld.
I ymweld â’r gerddi ym Mhlas Coedmor, parhewch ar hyd y ffordd am chwarter milltir.
Ychydig cyn i’r ffordd droi’n dynn i’r chwith, parhewch yn syth ymlaen i gyrraedd trac.
Gyrrwch yn ofalus ar hyd y trac hwn am chwarter milltir at yr ardal barcio fach ar gyfer y gerddi – edrychwch am yr arwydd sydd â map a gwybodaeth am beth i’w weld.
Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Clunderwen.
I gael manylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae parcio’n ddi-dâl.
Mae dwy ardal barcio fach y gallwch gerdded i mewn i’r warchodfa ohonynt:
Mae’r ddwy ardal barcio ar is-ffordd, tua hanner milltir oddi wrth ei gilydd – gweler yr adran ar sut i gyrraedd ar y dudalen hon.
Sylwch fod y ddwy ardal barcio’n fach, yn enwedig yr un wrth fynedfa gerddi Plas Coedmor.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Nid oes staff yn y lleoliad hwn.
Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.