Coedwig Beddgelert, ger Beddgelert
Coedwig enfawr yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri
Mae Pont Cae'n y Coed yn faes parcio bach ym Mharc Coedwig Coed y Brenin.
Mae’n fan cychwyn Llwybr Llosgfynydd sydd yn ymweld â nifer o brif nodweddion y goedwig.
Ar un adeg roedd Pont Beili dros dro yma er mwyn cludo coed o’r ochr draw i Afon Mawddach.
Y dyddiau hyn mae beicwyr mynydd a cherddwyr yn defnyddio’r bont newydd fel cyswllt hanfodol i’r tiroedd gwyllt ar ochr ddwyreiniol yr afon.
Llwybr cerdded
Ceir arwyddbyst ar hyd y llwybr cerdded ac mae'n dechrau o'r maes parcio.
Mae’r llwybr yn dilyn cyfuniad o ffyrdd y goedwig a llwybrau serth a chul sy’n aml yn llai na 50cm o led mewn mannau, ar arwyneb garw, anwastad, ble gallwch ddisgwyl gweld mwd, creigiau a gwreiddiau coed ar hyd peth o’r tir garwaf dan draed yn y goedwig gyfan.
Mae grisiau i’w cael ar y ddringfa serth i ben Moel Hafod Owen ble gwelwch fainc ar y copa i gael picnic haeddiannol wrth fwynhau’r olygfa.
Os hoffech gael blas ar antur go iawn, gwnewch yn siŵr eich bod yn paratoi’n dda ar gyfer diwrnod hir yn y goedwig.
Mae parc coedwig Coed y Brenin yn cynnig profiad coetir cyflawn i ymwelwyr ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Ceir amrywiaeth o lwybrau ag arwyddbyst sydd at ddant pawb ac yn addas ar gyfer pob lefel o ffitrwydd ym mharc y goedwig. Yn eu plith mae llwybrau beicio mynydd, llwybrau i'r teulu, llwybrau rhedeg a llwybrau geogelcio a chyfeiriadu o'r radd flaenaf.
Yn ogystal â'r llwybrau sy'n dechrau o Bont Cae'n y Coed, ceir llwybrau cerdded ag arwyddbyst o leoedd hyn ym Mharc Coed y Brenin:
Mae Parc Coedwig Coed y Brenin yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:
Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.
Sylwch:
Mae maes parcio Pont Cae'n y Coed oddi ar yr A470, ger pentref Ganllwyd.
Mae yn Sir Gwynedd.
Cyfeirnod grid yr AO yw SH 733 251.
O'r de: Cymerwch yr A470 i'r gogledd o Ddolgellau. Ar ôl mynd drwy bentref Ganllwyd, trowch i'r dde ar ôl yr ysgol. Dilynwch y ffordd fach hon dros bont garreg a pharhewch ar hyd y ffordd ar y dde gydag afon Mawddach islaw. Mae'r maes parcio ar y dde tua chwarter milltir i ffwrdd.
O'r gogledd: Cymerwch yr A470 i'r de o Ganolfan Ymwelwyr Parc Coed y Brenin. Ar ôl cyrraedd pentref Ganllwyd trowch i'r chwith yn syth ar ôl yr arwydd terfyn cyflymder 40mya. Dilynwch y ffordd fach hon dros bont garreg a pharhewch ar hyd y ffordd ar y dde gydag afon Mawddach islaw. Mae'r maes parcio ar y dde tua chwarter milltir i ffwrdd.
Mae'r gorsafoedd trên agosaf yn y Bermo (llinell Arfordir Cambria) a Blaenau Ffestiniog (llinell Blaenau Ffestiniog-Llandudno).
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i www.cymraeg.traveline.cymru
Mae'r maes parcio am ddim.
Ni chaniateir parcio dros nos.
Canolfan Ymwelwyr Parc Coed y Brenin
Ffôn: 01341 440747