Coetir Lloches Ddu, ger Aberystwyth
Ardal bicnic gysgodol a llwybr glan yr afon
Llwybrau cerdded ar hyd ffyrdd coedwigaeth a hen draciau’r porthmyn
Diweddariad coronafeirws
Mae ein safleoedd a’r rhan helaeth o’n cyfleusterau i ymwelwyr ar agor ond, o dan y cyfyngiadau coronafeirws presennol yng Nghymru, bwriedir i’r rhain gael eu defnyddio gan bobl sy’n byw yn lleol yn unig.
Fe’ch cynghorir – yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru – i beidio â gyrru i unrhyw un o’n safleoedd i wneud ymarfer corff, oni bai fod gennych reswm dilys, megis cyflwr iechyd neu broblemau symudedd.
Rydym wedi newid ychydig ar rai o’n llwybrau arferol er mwyn eich helpu i allu cadw at ymbellhau cymdeithasol - dilynwch arwyddion ar y safle.
Mae Coedwig Halfway mewn cefn gwlad hyfryd rhwng Bannau Brycheiniog a Mynyddoedd Cambria.
Creodd y Comisiwn Coedwigaeth goedwigoedd fel Halfway ar draws y DU ar ôl gweld bod stociau pren y wlad yn brin yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae’n hawdd dod o hyd i’r goedwig, oddi ar yr A40, ac mae’n fan delfrydol i fynd am dro neu gael picnic.
Mae dau lwybr cerdded gydag arwyddbyst ac mae meinciau picnic o amgylch y marc parcio a ger yr afon.
Mae’r llwybrau cerdded yn cychwyn o faes parcio’r Halfway ac mae arwyddbyst ar eu hyd.
1¼ milltir, 2.1 kilometres, hawdd
Llwybr cylch yw Llwybr Nant y Dresglen sy’n ymdroelli drwy’r coed heb byth fynd yn bell o ddyfroedd Nant y Dresglen.
2¼ milltir, 3.6 cilomedr, cymedrol
Dilynwch hen ffordd wledig ar hyd ochr orllewinol y dyffryn cyn cyrraedd pont ffordd y goedwig ym Melin y Glyn.
Roedd melin yma flynyddoedd maith yn ôl ond does dim olion i’w gweld heddiw.
Mae mynediad agored i rai ar gefn ceffyl a cheffyl a throl ar draws Coedwig Crychan, ar wahân i’r ardal hyfforddiant milwrol ar Fynydd Epynt ac o gwmpas Pontsenni.
Mae gan faes parcio'r Halfway ddigonedd o le parcio i geir a bocsys ceffylau, gyda byrddau picnic a physt i rwymo ceffylau.
Mae rhywfaint o le i geffylau a throl ym maes parcio’r Halfway.
Cafodd y llwybrau eu creu mewn partneriaeth â Chymdeithas Coedwig Crychan.
Am fwy o wybodaeth wwch i wefan Cymdeithas Coedwig Crychan.
Mae milltiroedd lawer o lwybrau ceffylau sy'n cychwyn o feysydd parcio eraill yng Nghoedwig Crychan ym Mrynffo, Esgair Fwyog a Fferm Cefn.
Sylwch:
Mae maes parcio'r Halfway bum milltir i’r dwyrain o Lanymddyfri oddi ar yr A40 rhwng Llanymddyfri ac Aberhonddu.
Mae'r safle hon yn ymestyn ar draws ffiniau Sir Powys a Sir Gaerfyrddin.
Gallwch barcio yno am ddim.
Ewch ar yr A40 o Lanymddyfri i Aberhonddu ac, ar ôl 5 milltir, gwelir arwydd am y maes parcio ar y chwith ar hyd ordd fechan fer.
Mae Halfway ar fap Arolwg Ordnans (AR) 187.
Y cyfeirnod grid OS yw SN 835 330.
Mae’r orsaf drên agosaf yn Llanymddyfri.
Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Ffôn: 0300 065 3000