Parc Coedwig Afan – Canolfan Ymwelwyr, ger Port Talbot
Prif fan cychwyn llwybrau beicio mynydd a llwybrau...
Cau a dargyfeirio llwybrau oherwydd gwaith torri coed
Bydd rhai o'n llwybrau'n cael eu dargyfeirio neu eu cau dros dro ym Mharc Coedwig Afan oherwydd ymgyrch fawr i dorri coed. Bydd gwybodaeth i’w gweld yn y meysydd parcio - a dilynwch yr arwyddion dargyfeirio ar hyd y llwybrau. Byddwch yn ymwybodol y bydd lorïau cludo pren o gwmpas, a dilynwch holl gyfarwyddiadau'r staff. Dysgwch pa lwybrau sy'n cael eu heffeithio a mwy o fanylion am y gwaith torri coed.
Newidiadau ychwanegol i lwybrau a chyfleusterau eraill i ymwelwyr
Dilynwch y gwyriadau.
Mae Gyfylchi ym Mharc Coedwig Afan ac yn gartref i Barc Beicio Afan.
Mae Parc Beicio Afan wedi'i raddio’n eithafol ac mae'n addas ar gyfer beicwyr mwy profiadol.
Gallwch hefyd reidio i Barc Beicio Afan ar hyd llwybr beicio mynydd gradd goch Y Wal o Ganolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan.
Saif adfeilion capel Methodistaidd wrth ymyl y maes parcio.
Bryn Bettws Lodge sy'n berchen ar y maes parcio ac yn gweithredu'r safle gwersylla a glampio yma.
Mae Parc Beicio Afan wedi'i raddio’n eithafol ac mae'n addas ar gyfer beicwyr mwy profiadol.
Mae gan y parc beiciau sawl adran fer lle gallwch chi ymarfer a gwella eich sgiliau.
Mae yna hefyd ddwy linell Neidio a llinell Pro galetach gyda neidiau a disgyniadau mwy.
Gallwch hefyd reidio i Barc Beicio Afan ar hyd llwybr beicio mynydd Y Wal o Ganolfan Ymwelwyr Parc Coedwig Afan – mae Gyfylchi wedi’i leoli ger Zig Zag, sef rhan olaf y llwybr gradd goch hwn.
Mae ardal sgiliau arall ar lwybr Rookie ger Canolfan Ymwelwyr Afan ar gyfer beicwyr llai profiadol.
Mae Bryn Bettws Lodge wrth ymyl Parc Beicio Afan.
Mae'n cynnig safle gwersylla, glampio, llety cysgu i grwpiau mawr a chabanau pren.
Mae'r cyfleusterau hyn a'r maes parcio wrth y fynedfa i Barc Beicio Afan yn cael eu rheoli'n breifat.
Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Bryn Bettws Lodge
Sefydlodd y Methodistiaid Calfinaidd Hen Gapel y Gyfylchi yma ym 1776.
Gadawyd y capel ym 1826 ac aeth yn adfail.
Gallwch weld adfeilion y capel wrth ymyl y maes parcio – cadwch lygad am y bwrdd gwybodaeth.
Mae Parc Beicio Afan ym Mharc Coedwig Afan.
Mae Parc Coedwig Afan yn un o gyrchfannau beicio mynydd eiconig Prydain ac yn lle poblogaidd ar gyfer cerdded.
Mae'r parc coedwig wedi'i leoli yng Nghwm Afan ychydig filltiroedd o'r M4, lle arferai glo gael ei gloddio.
Gallwch ddarganfod rhai o nodweddion treftadaeth y dyffryn ar hyd ein llwybrau yn y parc coedwig.
Archwiliwch Barc Coedwig Afan o'r meysydd parcio yn y tri lle arall hyn:
Mae Parc Coedwig Afan yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.
Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:
Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.
Weithiau bydd angen inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er mwyn eich diogelwch chi tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw neu weithgareddau eraill.
Efallai y bydd yn rhaid inni gau safle yn ystod tywydd eithafol, megis gwyntoedd cryfion neu rew ac eira, oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr neu staff.
Dylech bob amser ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ar y safle ac unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro.
Mae Gyfylchi (Parc Beiciau Afan) 7 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Bort Talbot.
Mae yn sir Castell-nedd Port Talbot.
Mae Parc Beicio Afan ar fap Arolwg Ordnans (AO) Explorer 165 and 166.
Cyfeirnod grid AO Parc Beicio Afan yw SS 807 954.
Gadewch yr M4 yng nghyffordd 40 (Port Talbot) a dilynwch yr arwyddion i’r A4107 i gyfeiriad y Cymer.
Ar ôl 3¾ milltir trowch i'r chwith i’r B4287 i gyfeiriad Pont-rhyd-y-fen.
Ewch yn eich blaen drwy Bont-rhyd-y-fen ac ar ôl milltir trowch i'r dde, gan ddilyn yr arwydd brown a gwyn am Bryn Bettws Lodge.
Ar ôl ½ milltir trowch i'r dde a dilyn arwydd Parc Sgiliau Beicio Gyfylchi.
Mae'r maes parcio 1 filltir ar hyd yr isffordd gul hon.
Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Maesteg.
Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.
Mae'r maes parcio wrth y fynedfa i Barc Beicio Afan yn cael ei reoli gan Bryn Bettws Lodge sy'n gweithredu'r safle gwersylla a glampio yma.
Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Bryn Bettws Lodge
Mae'r maes parcio a'r cyfleusterau wrth y fynedfa i Barc Beicio Afan yn cael ei reoli gan Bryn Bettws Lodge. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Bryn Bettws Lodge
Nid oes staff Cyfoeth Naturiol Cymru yn y lleoliad hwn. Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.